Neidio i'r prif gynnwy

Ein Cynllun Strategol a Gweithredol

Yr hyn rydym am ei gyflawni dros y tair blynedd nesaf a sut rydym yn bwriadu gwneud hynny.

Strategaeth 2022-2025

Mae'r dysgu rydym wedi'i wneud fel sefydliad dros y tair blynedd diwethaf wedi herio'r ffordd rydym yn gweithio ac yn cyflawni ein rôl, ac wedi cyfrannu at sylfeini ein strategaeth newydd. Rhaid i ni barhau i fod yn hyblyg ac yn ymatebol i'r risgiau a'r modelau sy'n dod i'r amlwg a fydd yn parhau i godi wrth i gymdeithas a gwasanaethau gofal iechyd addasu i fyw ochr yn ochr â COVID-19.   

Mae gennym gyfrifoldeb i gefnogi'r egwyddorion a nodir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ac rydym wedi cadw'r egwyddorion hyn, a 'Cymru Iachach' wrth wraidd ein strategaeth newydd.

whiteboard

 

Ein diben yw:

Gwirio bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu darparu mewn ffordd sy’n mwyafu iechyd a llesiant pobl.

Ein nod yw:

Bod yn llais dibynadwy sy’n ysgogi gwelliant mewn gofal iechyd ac sy’n dylanwadu arno.

Ein blaenoriaethau yw:

  1. Byddwn yn canolbwyntio ar ansawdd y gofal iechyd a ddarperir i bobl a chymunedau wrth iddynt gyrchu a defnyddio gwasanaethau a symud rhyngddynt
  2. Byddwn yn addasu ein dull gweithredu i sicrhau ein bod yn ymatebol i risgiau i ddiogelwch cleifion sy’n dod i’r amlwg
  3. Byddwn yn cydweithio er mwyn ysgogi’r gwaith o wella systemau a gwasanaethau ym maes gofal iechyd
  4. Byddwn yn cefnogi ac yn datblygu ein gweithlu i’w galluogi, a’r sefydliad, i gyflawni ein blaenoriaethau.

Bydd ein blaenoriaethau yn ein helpu i ystyried a yw gofal iechyd yn diwallu anghenion cymuned ac a yw o ansawdd da. Bydd cydraddoldeb ac amrywiaeth yn greiddiol i'r gwaith a wnawn a bydd ein strategaeth yn ein cefnogi i ystyried sut mae gwasanaethau gofal iechyd yn cyrraedd y rhai sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf i fynediad, a'r canlyniadau tlotaf ym maes iechyd.

 

Dogfennau