Neidio i'r prif gynnwy

Codi llais i gadw pobl yn ddiogel

Mae Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru ac Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn galw ar bob aelod o staff sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i "godi llais" am y gofal rhagorol sy'n cael ei roi, ond hefyd am unrhyw ofal nad yw'n cyrraedd y safon ofynnol.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi profi argyfwng iechyd na welwyd ei debyg o'r blaen, a hoffem ddiolch i staff iechyd a gofal ledled Cymru am eich ymroddiad wrth ofalu am bobl, a'ch gwaith caled wrth fynd i'r afael â'r heriau niferus a wynebwyd gennych. Rydym yn gwybod bod y cyfnod hwn wedi bod yn llawn straen ac yn anodd dros ben i bawb, ac yn parhau i fod felly.

“Er bod yn rhaid i wasanaethau iechyd a gofal addasu a newid mewn ymateb i'r pandemig, mae'n rhaid sicrhau bod diogelwch a llesiant pobl yn parhau wrth wraidd y gwaith o'u darparu. Mae angen i bawb sy'n cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gofal fod yn wyliadwrus fel y gallwn leihau'r risg o niwed y gellir ei osgoi i bobl.

“Rydym wedi cael nifer o adroddiadau o ofal a chymorth rhagorol, gyda'r staff yn mynd cam ymhellach i hybu llesiant pobl. Fodd bynnag, rydym hefyd yn ymwybodol o nifer bach o achosion lle nad yw hyn yn wir.

“Mae codi llais yn elfen hanfodol o ddiwylliant diogel, a dylai fod yn rhan arferol o waith pawb sy'n gweithio ym maes gofal, ni waeth beth fo'i rôl. Mae llawer o ffyrdd i chi roi gwybod am bryderon bod diogelwch a llesiant pobl yn cael eu rhoi yn y fantol neu eu peryglu. Gellir rhoi gwybod drwy brosesau gwella lleol neu brosesau rheoli risgiau; drwy drafod â'ch rheolwr llinell neu ag arweinydd yn eich sefydliad; neu drwy ddweud wrth ein sefydliadau. Eich cyfrifoldeb proffesiynol chi yw hyn.”

Os ydych yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gallwch roi adborth ar wasanaethau a rhoi gwybod am bryderon i Arolygiaeth Gofal Cymru drwy fynd i arolygiaethgofal.cymru/cysylltwch-ni neu ffonio 0300 7900 126.

Os ydych yn gweithio ym maes gofal iechyd, gallwch gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru drwy fynd i agic.org.uk/cysylltwch-ni neu ffonio 0300 062 8163.

Mae'n bosibl rhoi gwybod yn ddienw yn unol â'r Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i agic.org.uk/chwythur-chwiban neu https://arolygiaethgofal.cymru/cysylltwch-ni/codi-pryder