Ymunodd Jayne ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ym mis Chwefror 2020. Yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Clinigol, mae hi'n darparu arbenigedd proffesiynol clinigol ac ar y gwasanaeth iechyd i sicrhau bod gwaith yr Arolygiaeth yn cadw hygrededd ac yn adlewyrchu arfer gorau.
Mae Jayne yn Nyrs Gofrestredig a dros ei gyrfa mae hi wedi gwneud nifer o swyddi arweinyddiaeth clinigol a phroffesiynol yn y GIG yng Nghymru.