Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i'n Rhaglen Waith yn ystod lefel rhybudd 4 COVID-19

Penderfynwn ni gwneud hwn yn sgil y pwysau sydd ar wasanaethau yng Nghymru ar hyn o bryd ac a ragwelir yn y dyfodol, oherwydd pandemig COVID-19.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi penderfynu gohirio gwaith newydd, rheolaidd sy’n gysylltiedig â'n gweithgarwch gwirio ac arolygu ansawdd diwygiedig yn y GIG o 20 Rhagfyr tan diwedd mis Ionawr o leiaf. Byddwn yn adolygu ein penderfyniad bryd hynny.

Byddwn yn cymryd ymagwedd gefnogol a phragmatig tuag at ein gwaith arfaethedig yn y sector gofal iechyd annibynnol ac yn gweithio gyda lleoliadau i sicrhau ei fod yn gymesur. Byddwn yn stopio gweithgareddau yn y sector annibynnol lle y mae lleoliadau wedi'u cau yn sgil cyfyngiadau swyddogol COVID-19, megis gwasanaethau cysylltiad agos sy'n darparu triniaeth laser.

Penderfynwn ni gwneud hwn yn sgil y pwysau sydd ar wasanaethau yng Nghymru ar hyn o bryd ac a ragwelir yn y dyfodol, oherwydd pandemig COVID-19.

Byddwn yn parhau i weithredu’n swyddogaethau mewn gwaith sicrwydd ehangach yn ystod y cyfnod hwn.


Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro AGIC:

Mae angen i ni ystyried y baich y gallai unrhyw weithgareddau a gynhelir gennym ei achosi, ar adeg pan fo gwasanaethau gofal iechyd o dan bwysau difrifol. Yn ogystal â hyn, mae gennym ddyletswydd i ystyried lles cleifion, gweithwyr gofal iechyd a'n staff ein hunain.’

Er y byddwn yn parhau i geisio sicrhau y bydd safonau gofal iechyd yn cael eu cyrraedd o hyd, nod ein penderfyniad yw helpu'r sawl sy'n darparu gwasanaethau i ganolbwyntio ar ddarparu gofal iechyd yn ystod y cyfnod hwn.

Felly, rydyn ni wedi rhoi terfyn ar ein gwiriad ansawdd arferol a'n gweithgarwch arolygu yn y GIG o 20 Rhagfyr tan o leiaf ddiwedd mis Ionawr 2021. Fodd bynnag, efallai y bydd angen cynnal arolygiad neu weithgarwch arall o hyd, lle y mae risg uniongyrchol ac uchel iawn i gleifion. Byddwn yn cymryd ymagwedd gefnogol a phragmatig tuag at ein gwaith arfaethedig yn y sector gofal iechyd annibynnol ac yn gweithio gyda lleoliadau i sicrhau ei fod yn gymesur.


Byddwn yn adolygu'r penderfyniad hwn yn wythnosol, gan ystyried y pwysau sydd ar wansanaethau.