Ystyriodd yr adolygiad a yw cleifion yn cael eu cynnwys yn weithredol wrth wneud penderfyniadau ynghylch DNACPR ac a yw'r penderfyniadau hynny'n cael eu cofnodi a'u cyfleu'n glir rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Rhagair
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r adroddiad hwn sy'n cyflwyno canfyddiadau ein Hadolygiad o benderfyniadau Peidiwch â Dechrau Adfywio Cardiopwlmonaidd (DNACPR) i oedolion yng Nghymru.
Mae penderfyniadau DNACPR yn rhan bwysig o ofal diwedd oes, ac yn ystod ein bywydau, bydd sawl un ohonom yn rhan o'r trafodaethau hyn naill ai ar lefel bersonol neu mewn perthynas ag anwylyd. Mae'n bwysig bod y trafodaethau hyn, a'r penderfyniadau a wneir, yn cael eu cynnal mewn ffordd sensitif ac effeithiol er mwyn parchu dymuniadau a safbwyntiau pawb sy'n rhan o'r broses. Pan gânt eu cynnal mewn ffordd effeithiol, gall trafodaethau DNACPR fod yn brofiad cadarnhaol, gan gynnig eglurder ar adeg o ansicrwydd, gan sicrhau bod cyn lleied o bethau â phosibl yn torri ar draws cyfnod mor bwysig.
Fel rhan o'n gwaith, rydym wedi gallu tynnu sylw at feysydd o arferion da, a nodi meysydd i'w gwella, sy'n amserol o ystyried yr adolygiad sydd ar ddod o'r polisi DNACPR Cymru-gyfan, a gynhelir bob dwy flynedd.
Mae'n amlwg bod deall dymuniadau cleifion ar ddiwedd eu hoes yn elfen hanfodol o ofal da ac rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth ofalus i gynnwys yr adroddiad hwn a chanfyddiadau cyffredinol ein hadolygiad. Rwyf hefyd yn disgwyl i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ystyried yr adborth gan aelodau o staff a'r cyhoedd a nodir drwy'r adroddiad, er mwyn penderfynu sut y gall yr adborth hwn ddylanwadu ar ymdrechion i wella ansawdd y broses ar gyfer gwneud penderfyniadau DNACPR.
Hoffwn fynegi fy niolch i'r staff a helpodd i lywio ein hadolygiad drwy rannu gwybodaeth, cymryd rhan yn ein cyfweliadau a'n grwpiau ffocws, a chwblhau ein harolygon. Yn ogystal, hoffwn ddiolch i'r Athro Mark Taubert am ei gefnogaeth barhaus a'i gyngor proffesiynol drwy gydol y broses, ac yn olaf, i'r rhai hynny a wnaeth ein helpu drwy gwblhau ein harolwg cyhoeddus.
I gloi, rhaid i mi achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r staff sy'n cymryd rhan mewn trafodaethau am benderfyniadau DNACPR, ac i'r rhai hynny sy'n darparu gofal a chymorth i bobl ar ddiwedd eu hoes. Mae tosturi ac ymroddiad y rhai hynny y gwnaethom ymgysylltu â nhw drwy gydol y gwaith hwn yn galonogol ac yn darparu sail gadarn a chadarnhaol i ni wella arni.
Crynodeb
Ystyriodd yr adolygiad a yw cleifion yn cael eu cynnwys yn weithredol wrth wneud penderfyniadau ynghylch DNACPR ac a yw'r penderfyniadau hynny'n cael eu cofnodi a'u cyfleu'n glir rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Mae'n amlwg o ganfyddiadau ein hadolygiad bod enghreifftiau o arferion canmoladwy i'w gweld ledled Cymru mewn perthynas â'r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau DNACPR. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi nodi cyfleoedd i wella. Mae'r rhain yn cynnwys yr angen i atgyfnerthu ansawdd trefniadau cyfathrebu â chleifion a'r rhai hynny sy'n agos atynt, ac ar draws gwahanol dimau gofal iechyd. Mae angen gwneud hynny er mwyn sicrhau y caiff trafodaethau a phenderfyniadau DNACPR a'r rhesymeg sy'n sail iddynt eu cofnodi a'u cyfleu'n glir rhwng timau gofal iechyd.
Mewn egwyddor, gellir ymdrechu i gynnal proses Adfywio Cardiopwlmonaidd (CPR) ar unrhyw berson pan fydd ei galon a'i ysgyfaint yn rhoi'r gorau i weithio. Mae'r canllawiau ar y cyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain, Cyngor Adfywio Cardiopwlmonaidd y DU a'r Coleg Nyrsio Brenhinol; Decisions Relating to Cardiopulmonary Resuscitation, yn nodi bod y canlyniadau clinigol yn dilyn CPR yn dibynnu ar y ffactorau clinigol a arweiniodd at y sefyllfa. Yn anffodus, mewn llawer o achosion, nid yw'r driniaeth CPR bob amser yn arwain at ganlyniad clinigol da, a phan fydd pobl yn goroesi, ceir risg sylweddol o niwed a chymhlethdodau hirdymor.
Pan fydd achosion o salwch sy'n cyfyngu ar fywyd neu salwch lliniarol yn effeithio ar bobl, gall trafodaeth am y rhesymau dros beidio â'u hadfywio os bydd eu calon a'u hysgyfaint yn rhoi'r gorau i weithio fod yn rhan bwysig o'r trefniadau ar gyfer cynllunio gofal ymlaen llaw, a gall helpu i achosi llai o straen yn ddiweddarach. Er mwyn hwyluso a chefnogi'r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau DNACPR, rhaid i glinigwyr yng Nghymru sy'n gwneud penderfyniadau i beidio ag adfywio person gwblhau Ffurflen DNACPR yn llawn ac yn glir. Bydd hyn yn sicrhau y caiff dymuniadau cleifion eu parchu a bod penderfyniadau yn adlewyrchu lles pennaf unigolion. Nodir hyn ym Mholisi DNACPR Cymru-gyfan.
Un o'r meysydd allweddol a'r pwyntiau ffocws a gododd yn ystod ein hadolygiad, ac y mae angen ei wella, yw'r angen i gofnodi gwybodaeth gywir ac effeithiol ar ffurflenni DNACPR. Nododd ein hadolygiad fod nifer y ffurflenni DNACPR a'r cofnodion ysgrifenedig ategol neu ychwanegol a oedd yn rhan o gofnodion clinigol unigolion a oedd yn cael eu cwblhau'n llawn ac yn glir yn amrywio ledled Cymru. Gall cofnodion aneglur neu anghyflawn gael effaith negyddol ar gyfathrebu effeithiol ar draws timau gofal iechyd am benderfyniad DNACPR.
Fel rhan o'n gwaith, gwnaethom edrych ar ryw 280 o ffurflenni DNACPR. Roedd yn galonogol gweld rhai enghreifftiau da o esboniadau cryno a thrylwyr o drafodaethau â chleifion, ac enghreifftiau a oedd yn nodi'n glir pam na chynhaliwyd unrhyw drafodaeth â'r cleifion a/neu'r rhai hynny sy'n agos atynt. Gwelsom enghreifftiau hefyd o naratifau cynhwysfawr wedi'u hysgrifennu fel rhan o gofnodion clinigol cleifion i ategu'r ffurflen DNACPR. Fodd bynnag, mae angen gwella'r ffordd y caiff gwybodaeth ei chofnodi ar y ffurflenni er mwyn helpu i gyfleu'r penderfyniad DNACPR.
Mae cyfathrebu yn holl bwysig wrth wneud penderfyniadau DNACPR. Gellid gwneud gwelliannau er mwyn sicrhau bod trafodaethau DNACPR yn cynnig cymaint o wybodaeth â phosibl i bobl a'u bod yn cynnig profiad mor gyfannol â phosibl iddynt. Roedd y rhan fwyaf o'r staff y gwnaethom ymgysylltu â nhw o'r farn bod cyfathrebu wedi'i deilwra at yr unigolyn yn rhan greiddiol o bob penderfyniad DNACPR a wneir, a bod y broses gyfathrebu hon yn cael ei chynnal mewn ffordd agored a gonest. Fodd bynnag, nodwyd gennym y gellid ei hatgyfnerthu ymhellach, drwy gynnal trafodaethau DNACPR â chleifion yn gynharach yn ystod eu salwch, yn hytrach na chynnal y trafodaethau hyn yn agosach at ddiwedd eu hoes. Mae hyn yn hanfodol er mwyn galluogi pobl i deimlo eu bod yn cael digon o wybodaeth ac i ddeall beth fydd yn digwydd, neu beth na fydd yn digwydd, unwaith y bydd penderfyniad i beidio ag adfywio wedi'i wneud.
Mae deall dymuniadau cleifion ar ddiwedd eu hoes yn elfen hanfodol o ofal da. Rydym yn teimlo y gellir gwneud mwy i wella ymwybyddiaeth pobl o DNACPR ac i wella'r adnoddau gwybodaeth sydd ar gael iddynt, i'w helpu i ymdopi â'r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau DNACPR ac i ddeall y broses honno. Nododd canfyddiadau ein hadolygiad fod adnoddau ar gael i gefnogi hyn, felly roedd yn siomedig nodi bod tri chwarter yr ymatebwyr i'n harolwg cyhoeddus yn nodi na chawsant wybodaeth ategol am y penderfyniad i beidio ag adfywio.
Er bod traean yr ymatebwyr i'n harolwg cyhoeddus yn teimlo eu bod yn ymwybodol o ystyr penderfyniad DNACPR, cyn trafod hyn â chlinigwyr, roedd dros hanner ohonynt yn teimlo na newidiodd eu dealltwriaeth yn dilyn trafodaeth DNACPR. Fodd bynnag, cawsom rai enghreifftiau cadarnhaol lle y dywedodd cleifion eu bod wedi cael triniaeth ar gyfer canser a gofal parhaus, ac nad arweiniodd y penderfyniad DNACPR at roi'r gorau i'r gofal a'r triniaethau hynny, fel yr oeddent wedi'i feddwl yn wreiddiol.
Felly mae'n amlwg bod angen gwneud gwelliannau er mwyn helpu'r cyhoedd i ddeall y broses ar gyfer gwneud penderfyniadau DNACPR, a'i goblygiadau i unigolion sy'n cael gofal a chymorth i ddiwallu eu hanghenion iechyd parhaus Nid yw penderfyniad DNACPR yn golygu rhoi'r gorau ar unwaith i ofal a chymorth y claf. Yn hytrach, mae'n golygu na chaiff yr unigolyn ei adfywio os caiff ataliad y galon neu os bydd yn marw'n naturiol, oherwydd dirywiad yn y cyflwr clinigol sy'n bodoli eisoes.
Roedd yn siomedig nodi bod bron i hanner yr ymatebwyr i'n harolwg cyhoeddus o'r farn nad ystyriwyd eu hanghenion o ran hygyrchedd yn ystod trafodaethau DNACPR, gyda'r rhan fwyaf yn nodi na chafodd eu hanghenion na'u dewisiadau cyfathrebu eu trafod. Fodd bynnag, clywsom sylwadau cadarnhaol hefyd gan bobl am yr adnoddau a wnaeth eu helpu i ddeall, fel fideos a thaflenni. Roedd yr adnoddau hyn yn cynnwys “Rhannu a Chynnwys” – Gwybodaeth i gleifion a’u gofalwyr i’w helpu i wneud penderfyniadau am CPR, ac adnoddau ar-lein, fel Siarad am CPR – Trafod DNACPR, a'r sianel benodol ar YouTube Byw Nawr – Live Now.
Roedd un o'r materion allweddol a ddaeth i'r amlwg o'n hadolygiad yn ymwneud â galluedd meddyliol cleifion i wneud penderfyniadau am CPR ac i gyfleu'r penderfyniadau hynny, ac ansawdd y broses o gofnodi'r manylion hyn ar y ffurflen DNACPR. Er bod yr adran hon o'r ffurflen yn cael ei chwblhau'n dda ar y cyfan i bobl â galluedd, nid oedd yr un peth bob amser yn wir i'r rhai hynny nad oeddent o bosibl yn meddu ar alluedd. Gwelsom fod rhai ffurflenni a chofnodion clinigol naill ai'n gwrth-ddweud ei gilydd, eu bod yn anghyflawn, neu nad oeddent yn cynnwys unrhyw dystiolaeth i ddangos bod asesiad o alluedd meddyliol wedi'i gynnal na rhesymeg. Felly, ni chawsom sicrwydd, yn seiliedig ar y cofnodion a welsom, fod y broses ar gyfer gwneud penderfyniadau DNACPR bob amser yn cael ei chwblhau'n unol â Pholisi Cymru-gyfan, i gleifion yr ystyriwyd nad oeddent yn meddu ar
alluedd. Rhaid i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ymdrin â'r mater hwn.
Daeth hyfforddiant a chymorth i staff mewn perthynas â thrafodaethau DNACPR a'r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau DNACPR i'r amlwg fel thema gyson drwy gydol ein hadolygiad. Mae modiwlau hyfforddi, adnoddau a gwybodaeth i helpu clinigwyr ar gael yn genedlaethol. Fodd bynnag, daeth i'r amlwg dro ar ôl tro nad oedd staff o reidrwydd yn ymwybodol o'r adnoddau hyn nac yn gwybod sut i gael gafael arnynt mewn modd amserol. Mae'r adnoddau hyn yn werthfawr a gallant helpu i sicrhau y gellir cynnal trafodaethau DNACPR mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n diwallu anghenion pobl. Er enghraifft, gall fod yn heriol cynnal sgyrsiau â phobl am DNACPR wrth gyfathrebu ag unigolion â chredoau cadarn, er enghraifft, credoau diwylliannol neu grefyddol, neu bobl ag anabledd dysgu. Dim ond 40% o'r ymatebwyr i'r arolwg staff a ddywedodd fod eu sefydliad yn darparu hyfforddiant neu gymorth cydraddoldeb ac amrywiaeth priodol, a oedd yn wahanol i'r wybodaeth a gyflwynodd pob sefydliad.
Roedd yn galonogol nodi bod cymhorthion cyfathrebu i bobl â rhwystrau iaith ac amhariadau synhwyraidd neu wybyddol ar gael yn eang ledled Cymru. Mae gwasanaethau dehongli a chyfieithu hefyd ar gael, gan gynnwys cymorth i'r rhai hynny ag amhariadau ar eu clyw neu ar eu golwg. Fodd bynnag, unwaith eto, clywsom nad oedd staff bob amser yn ymwybodol o'r adnoddau sydd ar gael i'w helpu wrth gynnal trafodaethau â phobl sy'n ei chael hi'n anodd cyfathrebu.
Mae'n bosibl y gellid priodoli'r anghysondeb cyffredinol o ran hyfforddiant staff yn rhannol i gyfyngiadau o ran gallu staff i fynychu hyfforddiant o'r fath, neu ddiffyg ymwybyddiaeth bod hyfforddiant o'r fath ar gael. Serch hynny, rydym yn credu y dylid gwneud mwy i sicrhau y gall staff gael gafael ar yr adnoddau sydd ar gael iddynt i'w helpu i gynnal sgyrsiau DNACPR effeithiol.
Nodwyd gennym fod y crynodebau o'r prif gyflyrau clinigol a'r rhesymau pam na fyddai CPR yn briodol yn cael eu cwblhau'n dda ar y ffurflenni DNACPR ar y cyfan. Fodd bynnag, nid oes llawer o le yn y blwch testun rhydd ar y ffurflen i glinigwyr gofnodi'r holl wybodaeth berthnasol. Ar lefel ymarferol, roedd staff o'r farn y byddai'n fuddiol cynyddu maint y blwch testun rhydd ar y ffurflen er mwyn iddynt allu nodi'r pwyntiau mwy perthnasol yn fwy effeithiol. Er i ni weld rhai enghreifftiau cadarnhaol o grynodebau cryno a thrylwyr o gyflyrau clinigol cleifion, a gwybodaeth glir i ddangos pam na fyddai CPR yn briodol, roedd enghreifftiau eraill o grynodebau nad oeddent yn cynnwys llawer o wybodaeth neu a oedd yn aneglur. Felly daethom i'r casgliad bod yn rhaid atgyfnerthu'r ddogfennaeth yn adran cyflwr clinigol y ffurflen, er mwyn helpu i sicrhau nad oes unrhyw amwysedd neu debygolrwydd y gellid camddehongli'r wybodaeth a gaiff ei chofnodi.
Roedd yn siomedig nodi bod bron i draean y staff a ymatebodd i'n harolwg o'r farn nad oedd y trefniadau cyfathrebu ar draws timau gofal iechyd mewn perthynas â phenderfyniadau DNACPR yn effeithiol o gwbl. Un o'r themâu a ddaeth i'r amlwg o'n harolwg oedd yr angen am drefniadau effeithiol ar gyfer rhannu gwybodaeth ar draws timau gofal iechyd, gan gyfeirio'n benodol at yr angen i lunio storfa electronig Cymru-gyfan ar gyfer ffurflenni DNACPR. Byddai manteision system electronig yn galluogi pobl a gwasanaethau, fel cleifion, clinigwyr, practisau meddygon teulu, gwasanaethau y tu allan i oriau, staff Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) a gwasanaeth 111 y GIG, i allu defnyddio system ganolog yn ddi-oed i ganfod a oes penderfyniad DNACPR ar waith ar gyfer claf.
Er na fyddai storfa electronig yn dileu'r holl risgiau a'r heriau, gan y byddai'n dal i ddibynnu ar allu staff i'w defnyddio'n effeithiol, gallai system o'r fath fod o fudd wrth gau'r bwlch rhwng ysbytai, lleoliadau cymunedol a lleoliadau gofal sylfaenol, neu rhwng byrddau iechyd gwahanol. Gallai system o'r fath helpu i sicrhau trefniadau effeithiol ar gyfer rhannu gwybodaeth hanfodol am benderfyniadau DNACPR.
Mae'n amlwg bod gwersi i'w dysgu o brofiad staff a'r cyhoedd o'r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau DNACPR, a'u hadborth mewn perthynas â hynny, a thynnir sylw at hynny drwy'r adroddiad hwn. Dylai byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ystyried y safbwyntiau hyn a nodi sut y gallent ddylanwadu ar ymdrechion i wella ansawdd y broses ar gyfer gwneud penderfyniadau DNACPR, a phrofiad cleifion a'r rhai hynny sy'n agos atynt.
Mae'n bwysig nodi bod y staff y gwnaethom ymgysylltu â nhw yn ystod cyfweliadau a grwpiau ffocws a thrwy'r ymatebion a gafwyd i'n harolwg staff, yn anelu at gefnogi pobl ag urddas a pharch, fel y maent yn eu haeddu ar ddiwedd eu hoes. Gwelsom enghreifftiau cadarnhaol o drafodaethau DNACPR yn cael eu cynnal yn effeithiol ac mewn modd amserol cyn diwedd oes yr unigolyn. Fodd bynnag, gall yr adeg hon fod yn adeg heriol a gofidus i bawb, ac weithiau nid oes llawer o amser ar gael i gynnal sgyrsiau trylwyr, yn enwedig pan fydd argyfwng annisgwyl yn codi.
Yn gyffredinol, gwelsom enghreifftiau o arferion canmoladwy, ond gwelsom hefyd feysydd y mae angen eu gwella. Rhaid i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ystyried canfyddiadau ein hadolygiad a rhoi'r argymhellion ar waith er mwyn gwella'r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau DNACPR. Mae hyn yn cynnwys yr angen i fyfyrio ar brofiadau staff a'r cyhoedd, y ceir enghreifftiau ohonynt drwy'r adroddiad.
Hoffem ddiolch i'r staff a helpodd i lywio ein hadolygiad drwy rannu gwybodaeth, cymryd rhan yn ein cyfweliadau a'n grwpiau ffocws, a chwblhau ein harolygon. Yn ogystal, rydym yn ddiolchgar i'r Athro Mark Taubert am ei gefnogaeth barhaus a'i gyngor proffesiynol drwy gydol ein hadolygiad, a oedd yn werthfawr iawn. Yn olaf, hoffem ddiolch i'r rhai hynny a gefnogodd ein gwaith drwy gwblhau ein harolwg cyhoeddus.