Mae AGIC yn gyfrifol am gadarnhau bod gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru yn cyrraedd y safonau ansawdd a diogelwch gofynnol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau'r GIG a darparwyr gofal iechyd annibynnol.
Fel arfer, ni fyddwn yn ymchwilio i gwynion unigol am y materion canlynol fel rhan o'n rôl statudol:
- Gofal a thriniaeth claf
- Camymddwyn proffesiynol
- Newidiadau i wasanaeth neu benderfyniadau ffurfweddu
- Materion sy'n destun proses gyfreithiol
Eithriadau: Mae'n bosibl y byddwn yn ymchwilio i gwynion gan bobl y mae eu hawliau wedi'u cyfyngu o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu ddeddfwriaeth debyg.
Pam Mae Eich Adborth Yn Bwysig
Hyd yn oed os na allwn ymchwilio i'ch cwyn unigol, mae eich adborth yn bwysig. Rydym yn defnyddio gwybodaeth gan gleifion, perthnasau, gofalwyr a staff ynghyd â chanfyddiadau arolygiadau ac adroddiadau gan gyrff eraill i greu darlun cyflawn o ansawdd a diogelwch gofal iechyd.
- Os bydd nifer o bryderon tebyg yn dod i law am wasanaeth, gall hyn arwain at arolygiad dirybudd neu weithgaredd sicrwydd arall.
- Gall patrymau o bryder ledled Cymru arwain at benderfyniad i gynnal adolygiad.
- Lle y caiff risgiau difrifol eu nodi, rydym yn gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch ac mae'n bosibl y byddwn yn rhannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill fel yr heddlu.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein taflen ‘Pryderon a Chwynion ynglŷn â Gwasanaethau Iechyd yng Nghymru’.
Beth Sy'n Digwydd Ar Ôl i Chi Gyflwyno Adborth?
- Byddwch yn cael cydnabyddiaeth yn cadarnhau bod eich pryder wedi dod i law.
- Os bydd eich pryder yn codi risgiau difrifol i ddiogelwch, caiff ei uwchgyfeirio i gael sylw brys.
- Nid ydym yn ymchwilio i gwynion unigol fel arfer, ond mae eich adborth yn ein helpu i nodi materion ehangach ac yn llywio ein gwaith o gynllunio arolygiadau.
Mae eich adborth yn ein helpu i wneud penderfyniadau am ein rhaglen sicrwydd sy'n seiliedig ar risg. Wrth symud ymlaen, rydym yn ymrwymedig i wella'r ffordd rydym yn esbonio effaith eich adborth ar ein gwaith.
Adborth am broses bryderon AGIC
Rydym yn anelu at ddarparu gwasanaeth o ansawdd wrth ymdrin â phryderon pobl. Rhowch adborth am eich profiadau o'r broses bryderon drwy gwblhau ein holiadur byr. Bydd hyn yn ein helpu i fonitro a, lle y bo'n bosibl, i nodi sut y gellir gwella'r broses bryderon.
Byddwn yn ymdrin â'ch ymateb yn ddienw.
Os oes gennych gŵyn ynglŷn â gwasanaethau'r GIG
Os oes gennych bryder ynglŷn â gwasanaethau'r GIG rydych wedi eu cael gan eich ysbyty, eich meddyg teulu, deintydd, fferyllydd neu optegydd, darllenwch y daflen 'Gweithio i Wella' i weld â phwy y dylech gysylltu. Mae'n rhaid i holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru ddelio â'ch pryder mewn ffordd agored a gonest, cynnal ymchwiliad trylwyr a phriodol a rhoi cydnabyddiaeth gyflym i chi ynghyd ag ymateb manwl ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â'r mater.
Os oes gennych gŵyn ynglŷn â Gofal Iechyd Annibynnol (sefydliadau preifat neu wirfoddol)
Cysylltwch â'r person neu'r sefydliad sy'n darparu'r gwasanaeth. Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid bod ganddynt weithdrefn ar gyfer delio â chwynion cleifion.
Gallwch hefyd rannu eich pryderon â ni. Nid ydym yn gallu ymchwilio i'ch cwyn ond rydym yn gallu gwirio bod y gwasanaeth yn bodloni gofynion y rheoliadau a'r safonau fel y'u nodir yn nhelerau eu cofrestriad â ni.
Cwestiynau Cyffredin: Codi Pryderon ag AGIC
Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn codi pryder?
Mae ein tîm yn adolygu pob pryder a gaiff ei gyflwyno. Gallwn wneud y canlynol:
- Gofyn i'r sefydliad gofal iechyd am ymateb ffurfiol
- Cofnodi eich pryder ar gyfer arolygiadau yn y dyfodol
- Rhannu eich pryder â rheoleiddiwr arall os yw'n fwy priodol
- Cynnal arolygiad neu adolygiad os caiff risgiau difrifol eu nodi
- Dilyn gweithdrefnau diogelu os bydd rhywun yn wynebu risg o niwed.
A fydd AGIC yn ymchwilio i'm cwyn?
Ni fyddwn yn ymchwilio i gwynion unigol am ofal, ymddygiad proffesiynol na newidiadau i wasanaethau fel arfer. Ein rôl yw cadarnhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn cyrraedd safonau ansawdd a diogelwch.
Pam y dylwn rannu fy mhrofiad o hyd?
Mae eich adborth yn ein helpu i greu darlun o ansawdd gofal iechyd ledled Cymru. Gall patrymau o bryder arwain at arolygiadau neu adolygiadau. Bydd risgiau difrifol yn arwain at gymryd camau ar unwaith.
Beth sy'n digwydd ar ôl i mi gyflwyno adborth?
• Byddwch yn cael cydnabyddiaeth
• Caiff pryderon diogelwch difrifol eu huwchgyfeirio
• Mae eich adborth yn llywio ein gwaith o gynllunio arolygiadau a'n gwaith sicrwydd.
A yw fy adborth yn gwneud gwahaniaeth?
Ydy. Mae pob pryder yn cyfrannu at ein rhaglen seiliedig ar risg ac yn ein helpu i benderfynu ble i ganolbwyntio ein gwaith craffu.
Gadewch Eich Adborth
Os byddwch yn cael unrhyw anawsterau wrth ddefnyddio'r ffurflen isod, anfonwch e-bost atom yn uniongyrchol: agic@llyw.cymru