Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Ni yw rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd a’r arolygiaeth ar gyfer gwasanaethau’r GIG yng Nghymru.

Chwiliwch am wasanaeth gofal iechyd neu adroddiad arolygu

Ein diweddariadau diweddaraf

Newyddion

Gwrando, dysgu a gweithredu: Ein cynnydd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn rhannu'r cynnydd y maent yn ei wneud i ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eu gwaith, a'u blaenoriaethau ar gyfer creu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol tecach a mwy hygyrch yng Nghymru.

Cyhoeddedig: 30 Hydref 2026
Datblygu dull newydd o arolygu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn datblygu dull newydd o arolygu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru. Bydd hyn yn rhoi darlun cliriach o b'un a yw menywod, babanod, rhieni a theuluoedd yn cael gofal diogel, effeithiol ac wedi'i gydlynu'n dda.

Cyhoeddedig: 23 Hydref 2026
AGIC yn nodi gwelliannau yng Ngwasanaethau Ambiwlans Cymru, ond mae achosion o oedi wrth drosglwyddo cleifion yn parhau'n her

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi asesu'r cynnydd a wnaed gan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) ers yr adolygiadau a gyhoeddwyd yn 2020 a 2021. Roedd yr adolygiadau hynny'n ystyried y prosesau ar gyfer rheoli cleifion drwy ganolfannau galwadau brys a diogelwch, urddas a phrofiad cleifion y mae oedi wrth eu trosglwyddo o'r ambiwlans wedi effeithio arnynt.

Cyhoeddedig: 7 Hydref 2026
Camau gorfodi: Cyhoeddi rhybudd i ddarparwr a oedd yn defnyddio gwasanaethau laser anghofrestredig yng Nghaerdydd

Yn dilyn ymchwiliad troseddol diweddar, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi rhybudd i'r darparwr am dorri Deddf Safonau Gofal 2000 (y Ddeddf). Mae'n dilyn tystiolaeth bod y gwasanaeth yn darparu triniaethau laser esthetig mewn clinig yng Nghaerdydd heb gofrestriad o dan y Ddeddf honno.

Cyhoeddedig: 2 Hydref 2026
Adroddiad Blynyddol 2025-2026: Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn galw am gamau gweithredu i sicrhau gwelliannau parhaol i gleifion

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2025-2026 heddiw, sy'n tynnu sylw at yr angen a gynnydd cyflymach i fynd i'r afael â heriau hirhoedlog sy'n effeithio ar wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru.

Cyhoeddedig: 24 Medi 2026