Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Gwefannau

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn ymrwymedig i sicrhau bod ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer AGIC.org.uk

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn ymrwymedig i sicrhau bod ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'n gwefan.

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan AGIC. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau'r porwr neu'r ddyfais
  • chwyddo mewn hyd at 400% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfeisiau yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Statws cydymffurfiaeth

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1 neu Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch.
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rheswm/rhesymau canlynol:

 nid yw'n cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd:

  • nid yw'r dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch ar gyfer meddalwedd darllen sgrin neu i bobl y mae angen iddynt newid maint y ffont a'r lliwiau
  • nid yw rhai o'r dogfennau atodedig wedi cael eu hysgrifennu'n glir
  • nid yw teitlau rhai tudalennau yn unigryw
  • Nid yw'r ffurflenni ar ffurf dogfennau Word yn cyrraedd safonau hygyrchedd yn llawn. Mae'n bosibl na fyddant yn gwbl hygyrch ar gyfer meddalwedd darllen sgrin. 

Rydym yn defnyddio dogfennau Word er mwyn i ddarparwyr a rheolwyr gyflwyno ceisiadau a hysbysiadau. Mae'r dogfennau hyn yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Mae'n bosibl y bydd angen i chi argraffu'r dogfennau i'w darllen neu i'w llenwi.

Rydym yn gweithio i lunio fersiynau hygyrch o'r dogfennau hyn.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Rydym wrthi'n gweithio drwy bob un o'n dogfennau PDF er mwyn creu fersiwn HTML hygyrch yn eu lle, lle y bo'n bosibl. 

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd y byddwn yn eu cyhoeddi yn cyrraedd safonau hygyrchedd neu bydd tudalennau HTML hygyrch newydd yn cael eu creu yn eu lle.

Ac eithrio cyhoeddi dogfennau PDF, rydym yn bwriadu ymdrin â'r achosion eraill o ddiffyg cydymffurfio cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

Llunio'r datganiad hygyrchedd hwn

Lluniwyd y datganiad hwn ar 18 Rhagfyr 2023 a chafodd ei adolygu ddiwethaf ar 09 Hydref 2024.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Tachwedd 2023. Cynhaliwyd y prawf gan staff Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio SortSite, sef adnodd profi sy'n sganio gwefannau am faterion ansawdd gwahanol, gan gynnwys cydymffurfiaeth â safonau hygyrchedd a safonau'r we.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Rydym yn anelu at wella hygyrchedd y wefan hon yn barhaus. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych o'r farn nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, anfonwch e-bost i AGIC.cyfathrebu@llyw.cymru 

Os bydd angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, fel dogfen PDF hygyrch, print bras, dogfennau hawdd eu darllen, recordiadau sain neu braille:

e-bost: AGIC.cyfathrebu@llyw.cymru

ffoniwch: 0300 062 8163

Byddwn yn ymateb i'ch cais cyn gynted ag y gallwn.Rydym yn anelu at gydnabod pob ymholiad a wneir dros y ffôn neu drwy e-bost o fewn dau ddiwrnod gwaith.

Os na allwch weld y map ar ein tudalen Cysylltu â Ni, gallwch ein ffonio neu anfon neges e-bost atom i gael cyfarwyddiadau.

Mae dolenni sain ar gael yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu bod dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain ar gael.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

Os na fyddwch yn fodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).