Neidio i'r prif gynnwy

Telerau ac Amodau

Gwefannau’r llywodraeth yw hiw.org.uk a agic.org.uk, ac maent yn cael eu rheoli gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, y cyfeirir ati wedi hyn fel ‘Ni’. Wrth ddod i mewn i’n gwefan, rydych chi fel defnyddiwr (‘Chi’) yn derbyn ein Telerau ac Amodau.

Caiff gwefan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a'i safleoedd cysylltiedig eu cynnal er mwyn i chi edrych arnynt a'u defnyddio'n bersonol. Drwy ymweld â'r wefan hon a'i defnyddio rydych yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn, a ddaw i rym o'r dyddiad y caiff ei defnyddio am y tro cyntaf. 

Eiddo Deallusol

Mae'r enwau, y delweddau a'r logos sy'n adnabod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn nodau perchnogol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Ni chaniateir copïo na defnyddio'r logo a/neu unrhyw logos trydydd parti eraill a welir drwy'r wefan hon heb i'r perchennog hawlfraint perthnasol gymeradwyo hynny ymlaen llaw. 
Dylid anfon ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio ein logo i AGIC.cyfathrebu@llyw.cymru

Defnyddio Hyperddolenni

Nid oes angen i chi ofyn am ganiatâd gennym ni, yn agic.org.uk, i greu dolenni uniongyrchol i dudalennau a gaiff eu lletya ar y wefan hon. Nid ydym yn gwrthwynebu i chi greu dolenni uniongyrchol i'r wybodaeth a gaiff ei lletya ar ein gwefan. Fodd bynnag, byddai'n well gennym pe na fyddai ein tudalennau yn cael eu llwytho i fframiau ar eich gwefan chi. Dylai tudalennau gwe Llywodraeth Cymru lwytho yn ffenestr lawn y defnyddiwr. Nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i fframiau ar eich gwefan. 
Os bydd perchnogion porth gwe yn dymuno cynnwys tudalennau gwe AGIC o fewn gwefan porth, cysylltwch â AGIC.cyfathrebu@llyw.cymru. Sicrhewch eich bod yn cynnwys eich manylion cyswllt: enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac e-bost, a disgrifiad o'ch gwefan porth. 

Cofrestru defnyddiwr 

Mae rhai gwasanaethau ar wefan AGIC yn gofyn i chi gofrestru er mwyn eu defnyddio. Gweler ein hysbysiad preifatrwydd isod am ragor o wybodaeth. 

Defnydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o'r cyfryngau cymdeithasol

Rydym yn gweithredu nifer o sianelau cyfryngau cymdeithasol i gyfleu'r gwaith rydym yn ei wneud. Mae'r pynciau hyn yn cynnwys ein diweddariadau a'n newyddion diweddaraf, a sut y gallwch gymryd rhan yn ein gwaith. Yn anffodus, ni allwn ymateb i'r holl ymholiadau a negeseuon rydym yn eu cael drwy'r cyfryngau cymdeithasol gan fod cynifer ohonynt. Fodd bynnag, rydym yn croesawu adborth, syniadau ac ymgysylltiad gan ein holl ddilynwyr am y gwaith rydym yn ei wneud.

Rheolau 

Mae'n rhaid i chi ddilyn rheolau'r sianelau hyn. Mae'n bosibl y bydd gan sianelau penodol reolau penodol. Mae'r mathau canlynol o ymholiadau a sylwadau yn mynd yn groes i'n rheolau cyffredinol ac ni fyddwn yn ymateb iddynt ar unrhyw un o'n sianelau cyfryngau cymdeithasol:

  • cwestiynau na ellir eu hateb drwy ddarparu gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd (tynnir y cwestiynau hyn, gan gynnwys ceisiadau rhyddid gwybodaeth posibl, oddi ar y we a chânt eu hailgyfeirio lle y bo'n briodol)
  • sylwadau am rinwedd, diffyg neu debygolrwydd unrhyw bolisi
  • sylwadau personol wedi'u cyfeirio at Weinidogion neu staff
  • sylwadau ymosodol neu sylwadau sy'n hiliol, yn rhywiaethol, yn homoffobig neu sy'n amlwg yn rhywiol, neu sylwadau neu gwestiynau rhethregol annerbyniol eraill, neu rai a gynhyrchwyd yn awtomatig

Rydym yn cadw'r hawl i ddileu unrhyw gyfraniadau, neu ofyn iddynt gael eu dileu, ar draws unrhyw un o'n sianelau cyfryngau cymdeithasol os credwn eu bod yn torri rheolau'r gymuned berthnasol, neu os ydynt yn mynd yn groes i'r rheolau a restrir uchod.  Rydym hefyd yn cadw'r hawl i ddileu cyfraniadau gan ddefnyddwyr sy'n gwneud y canlynol:

  • yn sbamio drwy gyhoeddi'r un neges, neu negeseuon tebyg iawn, fwy nag unwaith
  • yn cyhoeddi cynnwys nad yw'n berthnasol i'r sianel honno
  • yn hysbysebu nwyddau neu wasanaethau masnachol
  • yn cynnwys dolenni i dudalennau nad ydynt yn addas i gynulleidfa gyffredinol
  • yn cyhoeddi deunydd sydd wedi'i gopïo o rywle arall, nad ydynt yn berchen ar yr hawlfraint ar ei gyfer
  • yn gwneud gwybodaeth bersonol unrhyw un yn gyhoeddus
  • yn dynwared rhywun arall neu'n honni eu bod yn cynrychioli person neu sefydliad

Pan fydd defnyddiwr yn torri rheolau'r llwyfan cyfryngau cymdeithasol, neu unrhyw un o'r canllawiau uchod, rydym yn cadw'r hawl i rwystro'r defnyddiwr hwnnw rhag cyhoeddi cynnwys ar ein sianelau.

Argaeledd

Rydym yn diweddaru ac yn monitro ein cyfrifon rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau cyhoeddus). Fodd bynnag, mewn argyfwng, byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf y tu allan i oriau'r swyddfa. Mae'n bosibl na fydd llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar gael o bryd i'w gilydd ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiffyg gwasanaeth yn ystod cyfnodau anweithredol neu pan fydd problemau gyda'r rhyngrwyd. Rydym yn cadw'r hawl i ddileu ein cyfrifon ar unrhyw adeg.

O'r wefan hon

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau y ceir dolenni iddynt. Ni ddylid ystyried bod eu rhestru yn eu cymeradwyo. Ni allwn sicrhau y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym reolaeth dros argaeledd tudalennau y ceir dolenni iddynt.

Diogelu rhag firysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob cam cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrth-firysau ar yr holl ddeunydd a gaiff ei lawrlwytho o'r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, achos o darfu neu ddifrod i'ch data na'ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd a ddaw o wefannau Llywodraeth Cymru. 

Ymwadiad

Darperir gwefan, gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau AGIC (neu wasanaethau, cynnyrch a gwybodaeth trydydd parti) 'fel y mae' heb unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth, a heb warantî o unrhyw fath, p'un a yw'n ddatganedig neu'n oblygedig, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, warantïau goblygedig o ran ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, peidio â thorri rheolau, cydweddoldeb, diogelwch a chywirdeb. Ni allwn warantu na fydd tarfu ar y swyddogaethau sydd wedi'u cynnwys yn y deunydd ar y wefan hon, nac ychwaith y byddant yn rhydd rhag camgymeriadau, nac y caiff diffygion eu cywiro, nac y bydd y wefan hon na'r gweinydd sy'n ei galluogi i fod ar gael yn rhydd rhag firysau nac yn cynrychioli swyddogaeth, cywirdeb a dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn, dan unrhyw amgylchiadau, yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, nac unrhyw golled neu ddifrod sy'n deillio o ddefnyddio neu fethu â defnyddio data, neu elw, sy'n deillio o ddefnyddio gwefannau AGIC neu mewn perthynas â'u defnyddio.  

Caiff y Telerau ac Amodau hyn eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth lwyr-gyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr. 

Dogfennau