GDPR
Yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, mae dyletswydd gyfreithiol arnom i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu gennych. Rydym yn defnyddio technolegau a meddalwedd amgrymptio blaengar i ddiogelu eich data, ac yn cadw safonau diogelwch llym er mwyn atal unrhyw fynediad heb awdurdod atynt. Nid ydym yn trosglwyddo'ch manylion i unrhyw drydydd parti nac adran arall o'r llywodraeth.
Eich hawliau
Yn unol â'r GDPR, mae gennych hawliau fel unigolyn y gallwch eu harfer mewn perthynas â'r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch, sef:
- hawl i weld copi o'r wybodaeth a gedwir yn eich data personol;
- hawl i wrthwynebu prosesu sy'n achosi difrod neu drallod, neu sy'n debygol o wneud hynny;
- hawl i atal prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol;
- hawl i wrthwynebu i benderfyniadau gael eu gwneud drwy ddulliau awtomataidd;
- hawl, mewn amgylchiadau penodol, i gywiro, rhwystro, dileu neu ddinistrio data personol sy'n anghywir;
- hawl i wneud cais am iawndal am ddifrod a achosir o ganlyniad i dorri'r Ddeddf.
Ymwelwyr â'n gwefannau
Pan fydd rhywun yn ymweld ag www.agic.org.uk, rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion am batrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydym yn gwneud hyn er mwyn canfod pethau fel nifer yr ymwelwyr â rhannau amrywiol o'r wefan. Caiff y wybodaeth hon ei phrosesu mewn ffordd ddienw yn unig ac nid yw'n nodi hunaniaeth unrhyw un yn unigol. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymgais i ganfod pwy yw'r bobl hynny sy'n ymweld â'n gwefan, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud hynny ’chwaith. Os byddwn am gasglu gwybodaeth y gellir adnabod unigolion ohoni drwy ein gwefan, byddwn yn agored ynghylch hyn. Byddwn yn ei gwneud yn glir pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol ac yn esbonio'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud â hi.
Y defnydd o gwcis gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Ffeiliau testun bach yw cwcis a gaiff eu hanfon i'ch cyfrifiadur neu'ch dyfais symudol gan y gwefannau rydych yn ymweld â nhw. Maent yn helpu i wneud i wefannau weithio'n well ac yn rhoi gwybodaeth i berchenogion y wefan. Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis iaith i gael gwybod ym mha iaith yr hoffech weld y wefan. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis YouTube er mwyn mewnblannu fideos mewn tudalennau a chwcis Google Analytics i olrhain ymddygiad defnyddwyr pan fyddant ar y wefan. Drwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan, gallwn wella ei chyfleusterau llywio a'i chynnwys fel ei bod yn diwallu anghenion pobl yn well. Mae'r wybodaeth a gesglir gan "Company Name" yn cynnwys cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, y porwr a'r system weithredu. Ni chaiff y data eu defnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddiwr yn bersonol. Dyma'r cwcis rydym yn eu defnyddio ar ein gwefan:
Fersiwn Iaith
Enw: langPrefWAG
Diben: Caiff y cwci hwn ei greu gan y system rheoli cynnwys ac mae'n hanfodol er mwyn dangos y wefan yn yr iaith gywir.
Dod i ben: Pan fyddwch yn cau eich porwr
Olrhain Sesiwn
Enw: JSessionID
Diben: Er mwyn olrhain sesiwn pan gaiff cwcis eu hanalluogi. Mae hyn yn caniatáu i'r porwr gadw eich sesiwn.
Dod i ben: Ar ddiwedd y sesiwn
GoogleAnalytics
Enw: _ ga
Diben: Defnyddir y cwci hwn i ganfod sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i'n helpu i wella'r wefan. Mae'r cwci yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys gwybodaeth ddemograffaidd, nifer yr ymwelwyr â'r wefan, a ydynt wedi ymweld â hi o'r blaen a'r tudalennau y maent yn edrych arnynt.
Dod i ben: 2 flynedd
CookieControl
Enw: civicAllowCookies
civicShowCookieIcon
Diben: Mae'r cwci hwn yn cofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn y defnydd o gwcis ar ein gwefan.
Dod i ben: 10 awr
YouTube
Enw: VISITOR_INFO1_LIVE
PREF
Dod i ben: 8 mis
Enw: use_hitbox
Dod i ben: Ar ddiwedd y sesiwn
Diben: Mae'r cwcis hyn yn hanfodol ar gyfer dangos fideos YouTube ar ein gwefan.
Mae porwyr gwe yn caniatáu i chi reoli cwcis rywfaint drwy osodiadau'r porwr. I gael rhagor o wybodaeth am gwcis a sut i'w rheoli, ewch i www.allaboutcookies.org
Defnydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o'r cyfryngau cymdeithasol
Rydym yn gweithredu nifer o sianelau cyfryngau cymdeithasol i gyfleu'r gwaith rydym yn ei wneud, ein polisïau a phenderfyniadau Gweinidogion. Yn anffodus, ni allwn ymateb i'r holl ymholiadau a negeseuon rydym yn eu cael drwy'r cyfryngau cymdeithasol gan fod cynifer ohonynt. Fodd bynnag, rydym yn croesawu adborth, syniadau ac ymgysylltiad gan ein holl ddilynwyr am y gwaith rydym yn ei wneud.
Rheolau
Mae'n rhaid i chi ddilyn rheolau'r sianelau hyn. Mae'n bosibl y bydd gan sianelau penodol reolau penodol. Mae'r mathau canlynol o ymholiadau a sylwadau yn mynd yn groes i'n rheolau cyffredinol ac ni fyddwn yn ymateb iddynt ar unrhyw un o'n sianelau cyfryngau cymdeithasol:
- cwestiynau na ellir eu hateb drwy ddarparu gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd (tynnir y cwestiynau hyn, gan gynnwys ceisiadau rhyddid gwybodaeth posibl, oddi ar y we a chânt eu hailgyfeirio lle y bo'n briodol)
- sylwadau am rinwedd, diffyg neu debygolrwydd unrhyw bolisi
- sylwadau personol wedi'u cyfeirio at Weinidogion neu staff
- sylwadau ymosodol neu sylwadau sy'n hiliol, yn rhywiaethol, yn homoffobig neu sy'n amlwg yn rhywiol, neu sylwadau neu gwestiynau rhethregol annerbyniol eraill, neu rai a gynhyrchwyd yn awtomatig
Rydym yn cadw'r hawl i ddileu unrhyw gyfraniadau, neu ofyn iddynt gael eu dileu, ar draws unrhyw un o'n sianelau cyfryngau cymdeithasol os credwn eu bod yn torri rheolau'r gymuned berthnasol, neu os ydynt yn mynd yn groes i'r rheolau a restrir uchod. Rydym hefyd yn cadw'r hawl i ddileu cyfraniadau gan ddefnyddwyr sy'n gwneud y canlynol:
- yn sbamio drwy gyhoeddi'r un neges, neu negeseuon tebyg iawn, fwy nag unwaith
- yn cyhoeddi cynnwys nad yw'n berthnasol i'r sianel honno
- yn hysbysebu nwyddau neu wasanaethau masnachol
- yn cynnwys dolenni i dudalennau nad ydynt yn addas i gynulleidfa gyffredinol
- yn cyhoeddi deunydd sydd wedi'i gopïo o rywle arall, nad ydynt yn berchen ar yr hawlfraint ar ei gyfer
- yn gwneud gwybodaeth bersonol unrhyw un yn gyhoeddus
- yn dynwared rhywun arall neu'n honni eu bod yn cynrychioli person neu sefydliad
Pan fydd defnyddiwr yn torri rheolau'r llwyfan cyfryngau cymdeithasol, neu unrhyw un o'r canllawiau uchod, rydym yn cadw'r hawl i rwystro'r defnyddiwr hwnnw rhag cyhoeddi cynnwys ar ein sianelau.
Rheolau Facebook
Mae ein tudalennau Facebook yn cynnig ffordd i chi gysylltu â ni ar amrywiaeth eang o bynciau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r pynciau hyn yn cynnwys ein diweddariadau a'n newyddion diweddaraf, a sut y gallwch gymryd rhan yn ein gwaith.
Mae'n bwysig bod ein sianeli ar-lein yn ddiogel, a bod ein dilynwyr a'n cyfranogwyr yn teimlo eu bod yn cael eu parchu. Rydym wedi llunio polisi cymredoli er mwyn sicrhau bod pawb yn gyfforddus yn rhannu eu barn a'u safbwyntiau ar y sianeli hyn.
Mae diogelwch a llesiant ein cymunedau ar-lein yn bwysig iawn i ni, ac felly, gofynnwn i chi ddilyn y canlynol:
- Peidiwch â defnyddio iaith sarhaus nac anweddus a allai fod yn wahaniaethol neu hyrwyddo gwahaniaethu o unrhyw fath.
- Peidiwch â chymell, esgusodi nac annog ymddygiad a allai arwain at drosedd, atebolrwydd sifil, neu dorri unrhyw ddeddfau fel arall.
- Peidiwch â rhannu unrhyw beth y gellid ei ystyried yn ddifenwol, yn chwithig neu'n niweidiol i unigolyn neu gwmni.
- Peidiwch â chrwydro oddi ar y pwnc ac osgowch rannu unrhyw sylwadau amherthnasol
- Peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth gyfrinachol na phersonol. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn gofyn i chi gysylltu â ni drwy e-bost, dros y ffôn neu'n ysgrifenedig.
- Peidiwch â thargedu staff Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru nac aelodau'r gymuned, aflonyddu arnynt na'u bygwth.
Caiff postiadau o'r natur uchod eu dileu oddi ar ein tudalen.
Byddwch yn ymwybodol efallai nad y cymunedau ar-lein hyn yw'r ffordd orau i ni ateb rhai cwestiynau rydych yn eu codi, ac mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ddefnyddio ffyrdd amgen o gyfathrebu â ni. Weithiau, ni fyddwn yn gallu ateb rhai cwestiynau oherwydd cyfyngiadau cyfreithiol.
Nid ydym yn ymchwilio i bryderon unigol am y gofal a gawsoch, ond rydym yn croesawu gwybodaeth am eich profiadau a fydd yn bwydo i mewn i'n proses o gasglu gwybodaeth. E-bostiwch: hiw@gov.wales
Rydym am i'n safleoedd ar-lein fod yn gymunedau cadarnhaol. Rydym yn annibynnol ac yn wrthrychol, ac ni fyddwn yn dileu sylwadau yn ddiangen. Serch hynny, byddwn yn cuddio neu'n dileu eich postiadau os ydynt yn groes i'n rheolau. Gall achosion o dorri'r rheolau'n barhaus ein harwain i wneud penderfyniad i'ch rhwystro rhag defnyddio ein tudalen.
Rheoli ein cyfrifon Facebook
- Caiff ein tudalennau eu rheoli gan staff rhwng 9am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau cyhoeddus a diwrnodau braint y gwasanaeth sifil). Er ein bod yn rhannu deunydd y tu allan i'r oriau hyn o bosibl, ni allwn ymateb i bostiadau nac ymholiadau y tu allan i'r oriau hyn.
- Bydd ein tîm Gweinyddu Facebook yn edrych ar bob postiad cyn iddo gael ei gyhoeddi er mwyn sicrhau ei fod yn dilyn y rheolau uchod. Mae hyn yn golygu y bydd oedi cyn postio sylw cyn i'r sylw cyhoeddedig ymddangos ar ein tudalennau.
- Ein nod yw ymateb i bob postiad o fewn 48 awr, ac o fewn oriau swyddfa yn unig. Er enghraifft, os byddwch yn postio sylw ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn, ein nod yw ymateb erbyn dydd Mawrth.
Argaeledd
Rydym yn diweddaru ac yn monitro ein cyfrifon rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau cyhoeddus). Fodd bynnag, mewn argyfwng, byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf y tu allan i oriau'r swyddfa. Mae'n bosibl na fydd llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar gael o bryd i'w gilydd ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiffyg gwasanaeth yn ystod cyfnodau anweithredol neu pan fydd problemau gyda'r rhyngrwyd. Rydym yn cadw'r hawl i ddileu ein cyfrifon ar unrhyw adeg.
Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?
Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr er mwyn gwella'r cynnwys a ddarperir ar y wefan hon. Mae'r wefan hon yn defnyddio Google Analytics, sef gwasanaeth dadansoddi'r we a ddarperir gan Google Inc. ('Google'). Mae Google Analytics yn defnyddio 'cwcis' a chod JavaScript er mwyn helpu i ddadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau. Caiff y wybodaeth a gynhyrchir am eich defnydd o'r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP dienw) ei throsglwyddo i weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau, a'i storio arnynt.
Bydd Google yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynhyrchu adroddiadau gweithgarwch defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Mae'n bosibl hefyd y bydd Google yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i drydydd partïon os bydd yn ofynnol iddo wneud hynny yn ôl y gyfraith, neu os bydd trydydd partïon o'r fath yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google.
Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata eraill a gadwyd yn flaenorol. Gallwch wrthod y defnydd o gwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Sylwer os caiff cwcis eu hanalluogi, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio'r wefan hon yn llawn. Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn caniatáu i Google brosesu data amdanoch yn y modd ac at y dibenion a nodwyd uchod.
Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Google ac Amodau Gwasanaeth Google am wybodaeth fanwl.
Mae'r wefan hon yn cysylltu â ffurflenni SurveyMonkey o bryd i'w gilydd er mwyn casglu data. Caiff y data hyn eu prosesu yn yr Unol Daleithiau ac mae'r ffordd y cânt eu trin yn bodloni darpariaethau'r GDPR.
Eich rhyngweithiad â'r wefan hon
Rydym yn casglu dau fath o wybodaeth electronig yn uniongyrchol gan ymwelwyr â'r wefan hon; adborth a manylion ar gyfer tanysgrifio i negeseuon e-bost.
Peiriant chwilio
Caiff y cyfleuster chwilio ar ein gwefan a'r cyfleuster i chwilio am hysbysiadau o benderfyniadau eu pweru gan Ddyfais Chwilio Google. Caiff ymholiadau a chanlyniadau chwiliadau eu cofnodi'n ddienw er mwyn ein helpu i wella ein gwefan a'n cyfleuster chwilio. Ni chaiff unrhyw ddata sy'n benodol i ddefnyddwyr eu casglu gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru nac unrhyw drydydd parti.
E-gylchlythyr
Rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, GovDelivery, i anfon ein e-gylchlythyron misol. Rydym yn casglu ystadegau am faint o weithiau y caiff negeseuon e-bost eu hagor a nifer y cliciadau gan ddefnyddio technolegau safonol y diwydiant, gan gynnwys gifs clir er mwyn ein helpu i fonitro a gwella ein e-gylchlythyr. Am ragor o wybodaeth, gweler polisi GDPR GovDelivery. Hefyd, gellir gweld Polisi Preifatrwydd cyffredinol y cwmni yma.
Ymgyngoriadau ac adnoddau arolwg ar-lein
Rydym yn casglu gwybodaeth a gyflwynir yn wirfoddol gan aelodau o'r cyhoedd gan ddefnyddio adnodd arolwg ar-lein a gaiff ei letya gan Smart Survey, sy'n gweithredu fel prosesydd data ar gyfer Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac rydym yn prosesu gwybodaeth bersonol yn unol â'n cyfarwyddiadau yn unig. Caiff Smart Survey ei letya yn yr Unol Daleithiau, ond mae'r cwmni wedi rhoi sicrwydd i ni ei fod yn cyrraedd safonau'r GDPR, a gellir gweld hynny yn ei Bolisi Preifatrwydd.
Rydym yn cynnal arolygon gan ddefnyddio Survey Monkey o bryd i'w gilydd. Mae Survey Monkey wedi rhoi sicrwydd i ni ei fod yn cyrraedd safonau'r GDPR, er ei fod hefyd yn lletya ei holl ddata yn yr Unol Daleithiau. Gweler hefyd Bolisi Preifatrwydd Survey Monkey.
Ffurflenni Ar-lein
Mae rhai o'n gwefannau yn defnyddio ffurflenni Wufoo i gasglu gwybodaeth gan ddefnyddwyr. Mae Wufoo yn un o is-gwmnïau Survey Monkey, sy'n storio'r data a gesglir yn yr Unol Daleithiau, ond mae'n dilyn ein cyfarwyddiadau ac nid yw'n dosbarthu i unrhyw drydydd parti. Gellir darllen datganiad y cwmni hwn am y GDPR yma.
Pobl sy'n cysylltu â ni drwy'r cyfryngau cymdeithasol
Rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, Hootsuite, i reoli ein rhyngweithiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Os ydych chi'n anfon neges breifat neu neges uniongyrchol atom drwy'r cyfryngau cymdeithasol, caiff ei storio gan Hootsuite am dri mis. Ni chaiff ei rhannu ag unrhyw sefydliad arall.
Pobl sy'n ein e-bostio
Rydym yn defnyddio Transport Layer Security (TLS) i amgryptio a diogelu gohebiaeth drwy e-bost yn unol â mesurau'r Llywodraeth. Os nad yw eich gwasanaeth e-bost yn cyd-fynd â TLS, dylech fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl na chaiff unrhyw negeseuon e-bost y byddwn yn eu hanfon neu'n eu cael eu diogelu ar hyd y daith.
Byddwn hefyd yn monitro unrhyw negeseuon e-bost a gaiff eu hanfon atom, gan gynnwys ffeiliau sydd wedi'u hatodi, am feirysau neu feddalwedd faleisus. Sylwer bod gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw e-bost y byddwch yn ei anfon yn gyfreithiol.
Cofrestru
Mae angen cofrestru er mwyn defnyddio rhai nodweddion ar wefan "Company Name". Y wybodaeth gofrestru sy'n ofynnol er mwyn cofrestru yw eich cyfeiriad e-bost. Caiff y data hyn eu storio yn yr Unol Daleithiau ond mae'r ffordd y cânt eu trin yn bodloni darpariaethau'r GDPR, fel y cadarnheir yma. Caiff y wybodaeth hon ei storio hyd nes y byddwch yn dewis dileu eich cyfrif.
Gallwch newid eich dewisiadau cofrestru, eich cyfeiriad e-bost a'ch manylion mewngofnodi drwy'r wefan ar unrhyw adeg. Os nad ydych am gael cylchlythyron Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru mwyach, gallwch ddileu eich cyfrif ar dudalen dewisiadau eich cyfrif.
Cwynion neu ymholiadau
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ceisio cyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn ymdrin ag unrhyw gwynion rydym yn eu cael yn ddifrifol iawn. Rydym yn annog pobl i roi gwybod i ni os ydynt o'r farn bod y ffordd rydym yn casglu neu'n defnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol. Byddem hefyd yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella ein gweithdrefnau.
Lluniwyd y polisi preifatrwydd hwn â'r nod o fod yn glir ac yn gryno. Nid yw'n darparu manylion cyflawn pob agwedd ar y ffordd y mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol neu esboniad sydd ei angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau i'r perwyl hwn i'r cyfeiriad isod.
Dolenni i wefannau eraill
Nid yw'r polisi preifatrwydd hwn yn cwmpasu'r dolenni i wefannau eraill a geir ar y wefan hon. Rydym yn eich annog i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill rydych yn ymweld â nhw.
Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn
Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn wedi'i diweddaru ar y dudalen hon. Dylech adolygu'r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o ba wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio, ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.
Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 24 Mai 2018.
Sut i gysylltu â ni
Os hoffech wneud cais am wybodaeth am ein polisi preifatrwydd, gallwch ein e-bostio yn customerhelp@gov.wales neu ysgrifennu at:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Adborth
Rydym yn croesawu eich adborth. Os byddwch yn cysylltu â ni i ofyn am wybodaeth, efallai y bydd angen i ni gysylltu ag adrannau eraill o'r llywodraeth er mwyn dod o hyd i'r wybodaeth honno. Os bydd eich cwestiwn yn un technegol, efallai y bydd angen i ni ei drosglwyddo i'n cyflenwyr technoleg.
Ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw elfen o'ch gwybodaeth bersonol wrth ymdrin â'ch ymholiad, oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Unwaith y byddwn wedi ymateb i chi, byddwn yn cadw cofnod o'ch neges at ddibenion archwilio.
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y caiff eich data eu defnyddio gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ysgrifennwch atom gan ddefnyddio'r manylion isod.
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Busnes Rhydycar
Merthyr Tudful
CF48 1UZ
Dogfennau
-
Hysbysiad Preifatrwydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 231 KBCyhoeddedig:231 KB