Mae adroddiad ar y cyd gan yr arolygiaethau iechyd, gofal ac addysg yng Nghymru yn tynnu sylw at y ffaith bod angen gwneud gwelliannau ar unwaith i'r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i blant a phobl ifanc.
Yn ystod ein gwaith, clywsom gan 215 o blant a phobl ifanc, 200 o rieni a gofalwyr yn ogystal â 252 o weithwyr proffesiynol. Dywedodd dros hanner y plant a phobl ifanc rhwng 11 a 16 oed y gofynnwyd iddynt nad oeddent yn gwybod ble i gael cymorth, a dywedodd nifer ohonynt wrthym nad oedd help bob amser ar gael pan roedd ei angen arnynt.
Er bod peth cynnydd wedi'i wneud, mae’r canfyddiadau yn nodi bod nifer o blant a phobl ifanc yn ei chael hi'n anodd o hyd i gael gafael ar yr help sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ymroddiad gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio'n galed i gefnogi plant a phobl ifanc, er gwaethaf y cynnydd o ran y galw am wasanaethau. Mae datrysiadau arloesol, fel adnoddau ar-lein a chymorth drwy apiau, ynghyd â lleoliadau croesawgar fel Hybiau Argyfwng a Chaffis Ieuenctid, yn rhoi opsiynau hyblyg i bobl ifanc geisio cymorth. Fodd bynnag, mae angen cymryd camau pellach i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael y cymorth cywir, ar yr adeg gywir.
Mae ein gwaith wedi dangos bod angen i sefydliadau weithio'n well gyda'i gilydd, yn enwedig wrth fynd i'r afael â'r heriau parhaus o ran cael gafael ar gymorth iechyd meddwl arbenigol ledled Cymru.
Mae'r canfyddiadau allweddol yn cynnwys y canlynol:
- Gwella darpariaeth Cymorth ac Atal Cynnar: Mae ysgolion, llwyfannau ar-lein a grwpiau gwirfoddol yn darparu mwy o gymorth iechyd meddwl nag erioed er mwyn atal yr angen am fewnbwn arbenigol gan Wasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS), ond nid yw rhai plant a phobl ifanc yn cael cymorth amserol ac effeithiol o hyd.
- Bylchau o ran Gofal Arbenigol: Er gwaethaf amseroedd aros byrrach ar gyfer asesiadau cychwynnol CAMHS, mae gofal dilynol yn her enfawr o hyd i bob plentyn a pherson ifanc. Mae hyn yn arbennig o wir am y rhai gydag anghenion cymhleth, gan gynnwys pobl ifanc niwrowahanol a'r rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal, nad ydynt yn cael gofal amserol ac effeithiol yn aml.
- Anghysondeb o ran y gallu i gael gafael ar wasanaeth: Mae anghysondebau o ran y meini prawf a'r trothwyon cymhwysedd ar gyfer cael gafael ar wasanaethau CAMHS, sy'n golygu bod nifer o deuluoedd a gweithwyr proffesiynol yn teimlo'n rhwystredig gyda'r prosesau cyfathrebu a'r diffyg eglurder ynghylch sut y caiff y penderfyniadau hyn eu gwneud. Roedd hefyd yn destun pryder nodi nad oedd y rhai sy'n siarad Cymraeg yn gallu cyfathrebu yn eu dewis iaith yn hawdd wrth gael gofal a chymorth iechyd meddwl.
- Cynnydd o ran y Cymorth mewn Argyfwng: Mae mentrau newydd fel Gwasanaethau Noddfa a Hybiau Argyfwng yn cynnig opsiynau amgen i ofal mewn ystafell achosion brys i blant a phobl ifanc mewn argyfwng. Fodd bynnag, mae galw uchel yn golygu mai dim ond pan fyddant wedi cyrraedd y pen y bydd nifer yn cael gafael ar gymorth o hyd.
- Beth sydd angen ei newid: Mae'r adroddiad yn codi pryderon am gyllid, prosesau cyfathrebu gwael rhwng gwasanaethau a diffyg gofal cydgysylltiedig. Mae'n galw am bartneriaethau cryfach rhwng awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y gofal cywir ar yr adeg gywir.
Rydym yn gobeithio y bydd y canfyddiadau yn yr adroddiad hwn yn sicrhau gwelliant i blant, pobl ifanc a'r rhai sydd agosaf atynt i wneud yn siŵr eu bod yn cael gwell profiad o gael gafael ar wasanaethau fel CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed), gydag amseroedd aros byrrach a chliriach.
Mae'r adroddiad llawn a'r fersiwn sy'n addas i bobl ifanc ar gael isod.
Dogfennau
-
Cyfeillgar i Ieuenctid - Archwilio cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MBCyhoeddedig:3 MB