Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Cenedlaethol o atal argyfyngau iechyd meddwl yn y gymuned yn canfod heriau ledled Cymru

Mae staff ymroddedig wedi ymrwymo i ddarparu cymorth o ansawdd da, ond gall mynediad at wasanaethau iechyd meddwl fod yn broses gymhleth a gall olygu nad yw pobl bob amser yn derbyn cymorth mewn modd amserol.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei Hadolygiad Cenedlaethol o Atal Argyfwng Iechyd Meddwl yn y Gymuned heddiw.

 

Hadolygiad Cenedlaethol o Atal Argyfwng Iechyd Meddwl yn y Gymuned

Mae AGIC wedi archwilio profiadau pobl sy'n cyrchu gofal a thriniaeth – i ddeall sut mae gwasanaethau'n eu helpu nhw i reoli eu cyflyrau iechyd meddwl ac atal argyfwng. Bu’r adolygiad hefyd yn ystyried sut mae meddygon teulu a gwasanaethau eraill y GIG ledled Cymru yn darparu gofal diogel ac effeithiol i helpu i atal argyfwng iechyd meddwl, a’r hyn y mae sefydliadau trydydd sector yn ei wneud i gefnogi hyn.

Canfyddiadau Allweddol

Aneffeithlonrwydd yn y broses – Mater allweddol a amlygwyd gan AGIC yw'r anhawster sy'n ymwneud ag atgyfeirio'n uniongyrchol i wasanaethau. Gall hyn arwain at unigolyn yn cael ei ddal mewn cylch, yn gorfod mynd at ei feddyg teulu dro ar ôl tro er mwyn ailddechrau'r broses atgyfeirio. Canfuodd adolygiad AGIC y gall prosesau atgyfeirio fod yn gymhleth, gan arwain at amseroedd aros a allai fod yn hir pan nad oes gan unigolion ddigon o gymorth. Bydd angen i fyrddau iechyd ystyried sut y gallant fynd i’r afael â’r bwlch hwn yn y ddarpariaeth, gan gryfhau’r ymgysylltiad rhwng meddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol eraill a gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

Staff ymrwymedig – Mae’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal iechyd, gwasanaethau brys a gwasanaethau trydydd sector, a ledled Cymru wedi ymrwymo ac yn ymroddedig i ddarparu cymorth a gofal i bobl ag anghenion iechyd meddwl.

Cydweithio – Canfuodd AGIC y gall sefydliadau trydydd sector ddarparu cymorth amhrisiadwy i unigolion, gan leihau’r tebygolrwydd o ddirywiad sylweddol neu gyflym a lleddfu’r galw ar wasanaethau’r GIG. Mae cyfleoedd clir i gryfhau cydweithio â’r trydydd sector mewn perthynas ag atal argyfyngau, yn enwedig ar gyfer yr unigolion hynny sydd angen lefel uwch o gymorth nag y gall meddyg teulu ei darparu.

Un pwynt mynediad - Nododd AGIC nifer o fentrau cadarnhaol ledled Cymru, gan gynnwys gweithredu un pwynt mynediad. Lle'r oedd hyn ar waith, roedd yn sicrhau bod gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol arbenigol ar gael i ddarparu brysbennu clinigol, atgyfeirio ymlaen, a chyfeirio effeithiol i unigolion mewn argyfwng. Mae’r gwasanaeth yn cael ei dreialu ar hyn o bryd mewn rhai byrddau iechyd fel ffordd o fynd i’r afael â’r broblem o oedi cyn derbyn cymorth o ganlyniad i bwyntiau cyswllt ac atgyfeirio niferus. Darparodd meddygon teulu a oedd wedi defnyddio'r gwasanaeth enghreifftiau cadarnhaol o sut roedd y dull hwn wedi caniatáu iddynt gysylltu â neu atgyfeirio at y tîm iechyd meddwl mwyaf priodol mewn modd amserol. Mae AGIC wedi gwneud argymhelliad bod yn rhaid i fyrddau iechyd sicrhau bod gwasanaethau un pwynt mynediad yn cael eu gweithredu ledled Cymru a’u bod yn hygyrch i bob gweithiwr proffesiynol a’r cyhoedd.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr dros dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi’r adroddiad hwn, sy’n cyflwyno canfyddiadau ein Hadolygiad Cenedlaethol o Atal Argyfwng Iechyd Meddwl yn y Gymuned. Mewn cyfnod mor heriol, gellir dadlau nad yw cynnal iechyd meddwl a llesiant da erioed wedi bod mor bwysig. Mae ein gwaith wedi ein galluogi i amlygu meysydd o arfer da, taflu goleuni ar ymrwymiad staff, a nodi meysydd i'w gwella. Yn y darn hwn o waith, rydym yn dangos unwaith eto pa mor hanfodol yw hi fod pob rhan o wasanaeth iechyd yn cydweithio mor ddi-dor â phosibl, a bod cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid trydydd sector yn cael eu defnyddio i'r eithaf er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i bobl sydd angen gofal a chymorth.