Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Cenedlaethol o Atal a Hyrwyddo Annibyniaeth ar gyfer Oedolion Hŷn (dros 65 oed) sy'n Byw yn y Gymuned

Roedd yr Adolygiad Cenedlaethol yn cynnwys 10 o Arolygiadau Ardal Awdurdod Lleol ar wahân. Cafodd yr arolygiad peilot ei gynnal ym mis Ionawr 2019 a arweiniodd at gynnal deg arolygiad arall o fewn awdurdodau lleol yng Nghymru.

Cydweithiodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac AGIC yn cydweithio i ganolbwyntio ar brofiad oedolion hŷn wrth iddynt ddod i gysylltiad â gwasanaethau gofal cymdeithasol a symud drwyddynt hyd nes y gall fod angen iddynt fynd i mewn i gartref gofal, ac ystyriwn yr adegau pan fydd pobl yn profi cydweithio rhwng gwasanaethau awdurdodau lleol a gwasanaethau byrddau iechyd, neu y byddent yn cael budd ohonynt.

Gwerthusodd yr arolygiadau ansawdd y gwasanaeth ar sail pedair egwyddor sylfaenol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac oeddent yn ystyried sut y'u rhoddir ar waith ar dair lefel:

  • Unigol
  • Sefydliadol
  • Strategol  

Gwnaethom ystyried yr holl ddisgwyliadau a amlinellir yng nghodau ymarfer y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Mae dolenni i’r adroddiadau arolygu awdurdodau lleol isod:

Cyhoeddwyd adroddiad terfynol yr adolygiad ar wefan AGC ar 7 Medi 2020:
https://arolygiaethgofal.cymru/adolygiad-cenedlaethol-o-atal-hyrwyddo-annibyniaeth-i-oedolion-hyn