Adolygiad cyflym o drefniadau amddiffyn plant
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i edrych ar y ffordd y mae plant yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn.
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cydweithio â phartneriaid i adolygu'r strwythurau a'r prosesau yng Nghymru er mwyn sicrhau bod enwau plant yn cael eu rhoi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, a'u tynnu oddi arni, yn briodol.
Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar brosesau gwneud penderfyniadau amlasiantaethol.
Ynghyd â'n cyd-arolygiaethau Estyn, byddwn yn gwneud gwaith maes ar gyfer yr adolygiad ac yn cyfrannu at yr adroddiad terfynol, a gaiff ei gyhoeddi yn yr haf.
Cymryd rhan
Rydym yn awyddus iawn i glywed gan blant a phobl ifanc y rhoddwyd eu henw ar y gofrestr amddiffyn plant neu y tynnwyd ei henw oddi arni yn ystod y chwe mis diwethaf.
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi gweithio gyda'r sefydliad Mind of My Own i greu'r arolyglon canlynol.
Dylai'r arolwg hwn gael ei gwblhau gan blant a phobl ifanc a hoffem glywed am eich profiadau chi.
- Arolwg ar gyfer plant a phobl ifanc
- Gwybodaeth arolwg Adolygiad Cyflym Amddiffyn Plant (CPRR) : Hawdd ei Ddarllen
Gweler y ddogfen isod am fwy o wybodaeth am ein hadolygiad.
Hoffem hefyd glywed gan rieni a gofalwyr am eich profiadau o drefniadau amddiffyn plant:
Ydych chi'n ymarferydd neu'n weithiwr cymdeithasol sy'n ymwneud â threfniadau amddiffyn plant? Yna, a fyddech cystal â chymryd rhan yn ein harolwg i ymarferwyr:
Dyddiad cau'r arolygon: 5 Mai 2023