Mae adolygiad cyflym o weithdrefnau amddiffyn plant ledled Cymru wedi canfod, ar y cyfan, y caiff enwau plant eu hychwanegu at y Gofrestr Amddiffyn Plant, neu'u tynnu oddi arni, yn briodol yng Nghymru.
Ym mis Hydref 2022, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) arwain adolygiad amlasiantaeth cyflym o brosesau gwneud penderfyniadau mewn perthynas ag amddiffyn plant.
Ffocws yr adolygiad hwn oedd pennu i ba raddau y mae'r strwythurau a'r prosesau presennol yng Nghymru yn sicrhau bod enwau plant yn cael eu gosod ar y gofrestr amddiffyn plant, ac yn cael eu tynnu oddi arni, yn briodol pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.
Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb ar y cyd. Gan weithio ochr yn ochr â ni ac Estyn, cyhoeddodd AGC y canfyddiadau interim ym mis Mehefin 2023 er mwyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd a hyrwyddo'r arferion gorau cyn gynted â phosibl. Mae'r adroddiad llawn, gan gynnwys argymhellion ar gyfer yr holl asiantaethau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant, bellach wedi cael ei gyhoeddi.
Mae’r adroddiad yn adnabod sawl enghraifft o ymarfer ardderchog. Er hynny, mae yna agweddau o ymarfer sydd angen ei wella a bod yn fwy cyson ar draws Cymru. Bu i’r adroddiad ddarganfod:
- Ar y cyfan, mae angen gwella rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau. Mae diffyg system TG ganolog i rannu gwybodaeth yn gweud hyn yn anoddach fyth.
- Mae’r gweithlu yn fregus gyda swyddi gwag ar draws ystod eang o asiantaethau sy’n ganolog i amddiffyn plant. Gall hyn arwain at anghysondeb i blant a theuluoedd wrth iddynt brofi amryw newidiadau mewn gweithwyr cymdeithasol. Hyn er gwaethaf nifer o ymdrechion yn lleol ac yn genedlaethol i ymateb i’r diffyg gweithlu.
- Mae llais y plentyn yn ganolog i wneud penderfyniadau ynglŷn â diogelu a dylid sicrhau ei fod yn cael ei glywed yn gyson ar draws Cymru wrth wneud penderfyniadau o’r fath.
- Mae angen hyfforddiant amlasiantaeth rheolaidd ar draws Cymru i sicrhau ymagwedd cyson a gweledigaeth ar y cyd ar weithdrefnau diogelu a throthwyon o ba bryd mae plant yn profi niwed sylweddol.
Dogfennau
-
Medi 2023 - Adolygiad cyflym o drefniadau amddiffyn plant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 8 MBCyhoeddedig:8 MB
-
Medi 2023 - Adolygiad cyflym o drefniadau amddiffyn plant - Addas i blant , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MBCyhoeddedig:3 MB