Yn unol â’r broses sydd ganddi ar gyfer gwasanaeth GIG sy’n peri pryder, cafodd gwasanaethau fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu dynodi gan AGIC fel Gwasanaeth sydd Angen Gwelliant Sylweddol ym mis Chwefror 2022.
Rydym felly wedi penderfynu cynnal adolygiad lleol adolygiad o wasanaethau fasgwlaidd y bwrdd iechyd, a fydd yn archwilio’r cynnydd a wnaed gan y bwrdd iechyd mewn perthynas â phob argymhelliad a amlygwyd yn adroddiad Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, er mwyn cael sicrwydd ynglŷn â diogelwch cleifion ac ansawdd y gofal a ddarperir.
Oherwydd rhesymau gweithredol, mae amcangyfrif cyhoeddi'r adolygiad wedi'i ohirio tan fis Mehefin 2023.
Dogfennau
-
Gwasanaethau Fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; adolygiad o gynnydd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MBCyhoeddedig:2 MB