Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Lleol o Ddiogelwch, Preifatrwydd, Urddas a Phrofiad Cleifion wrth Aros mewn Ambiwlansys pan fydd Oedi wrth Drosglwyddo Gofal

Roeddem yn cynnal adolygiad lleol o Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gyda'r nod o ystyried yr effaith y mae aros mewn ambiwlansys y tu allan i Adrannau Achosion Brys yn ei chael ar ddiogelwch, preifatrwydd, urddas a phrofiad cyffredinol cleifion yn ystod pandemig COVID-19.

Mae amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth yn dangos y gall fod angen i gleifion aros mewn ambiwlansys y tu allan i Adrannau Achosion Brys ysbytai am gyfnodau hir iawn, yn arbennig pan fydd y system gofal iechyd o dan bwysau. Roedd yr adolygiad lleol hwn yn ystyried yr effaith y mae aros mewn ambiwlansys y tu allan i Adrannau Achosion Brys yn ei chael ar ddiogelwch, preifatrwydd, urddas a phrofiad cyffredinol cleifion. Mae pwysau unigryw, nas gwelwyd o'r blaen, ar y system gofal iechyd bellach o ganlyniad i bandemig COVID-19; yng ngoleuni hyn, roedd yr adolygiad yn ystyried profiad cleifion dros y 12 mis diwethaf er mwyn deall yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y broblem hon.

Mae’r adroddiad terfynol yr adolygiad isod.