Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad o Drefniadau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf

Nod yr adolygiad hwn fu creu darlun o’r heriau llywodraethu sy’n wynebu Bwrdd Iechyd Cwm Taf, a nodi ffyrdd y gallai’r Bwrdd Iechyd adeiladu ar yr hyn y mae eisoes wedi’i gyflawni o ran datblygu ei drefniadau llywodraethu.

Mae'r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar:

  • Trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd y Bwrdd Iechyd er mwyn sicrhau eu bod yn eglur ac yn gyson.
  • Prif gyfrifoldebau a chyfrifoldebau ychwanegol aelodau’r Bwrdd nad ydynt yn swyddogion.
  • Y trefniadau a wnaed i gefnogi timau clinigol amlddisgyblaeth cymwys ac effeithiol.
  • Y trefniadau a wnaed i ddarparu ‘Gweithio i Wella’, sef Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pryderon, Cwynion a Threfniadau Unioni Cam) (Cymru) 2011.