Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol diweddaraf Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn nodi gofal o ansawdd da, ond mae heriau sylweddol i ddod ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd

Yn ei hadroddiad blynyddol a gyhoeddwyd heddiw [dydd Iau 23 Medi], mae Arolygiaeth Gofal Iechyd (AGIC) wedi crynhoi canfyddiadau'r holl waith arolygu a sicrwydd a wnaed ganddi yn ystod 2020-21.

AR Cover

Fel y sefydliad sy'n gyfrifol am gadarnhau bod pobl yng Nghymru yn cael gofal iechyd o ansawdd da, bu'n rhaid i ni addasu ein gwaith yn sylweddol er mwyn parhau i gyflawni ein dyletswyddau ac ateb heriau COVID-19 ar yr un pryd. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno dull newydd o gael sicrwydd o bell a datblygu dulliau adrodd newydd er mwyn ein galluogi i rannu ein canfyddiadau'n gyflym fel y gallai gwasanaethau gofal iechyd wneud gwelliannau.

Ein barn gyffredinol yw bod y gofal a ddarparwyd ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod o safon dda. Gwnaethom nodi nifer o enghreifftiau o arloesi ac ymdrechion rhagorol gan y staff i sicrhau y gellid parhau i ddarparu gofal yn ystod cyfnod heriol tu hwnt.

Roedd newidiadau sylweddol wedi'u gwneud i amgylcheddau mewn lleoliadau gofal iechyd, er mwyn lleihau'r risg y byddai'r haint yn cael ei drosglwyddo. Drwy ein gwaith, gwelsom dystiolaeth bod trefniadau i rannu ardaloedd yn barthau a rhannu cleifion yn garfannau, systemau unffordd a mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi'u rhoi ar waith yn gyflym ac yn effeithiol er mwyn helpu i reoli'r risg y byddai'r haint yn cael ei drosglwyddo. Fodd bynnag, un maes allweddol a nodwyd drwy ein gwaith dros y flwyddyn yw'r angen parhaus i atgyfnerthu'r trefniadau ar gyfer atal a rheoli haint, yn enwedig mewn ysbytai, er mwyn lleihau'r risg y caiff yr haint ei drosglwyddo.

Gwnaethom ddatblygu dulliau newydd i ystyried y gofal a oedd yn cael ei ddarparu mewn canolfannau brechu torfol ac ysbytai maes. Ar y cyfan, gwelsom fod trefniadau priodol wedi'u rhoi ar waith i gyflawni rhaglenni brechu yn ddiogel, ac i ddarparu gofal mewn ysbytai maes a oedd yn safleoedd newydd, dros dro yn bennaf. Gwelsom dystiolaeth o waith cynllunio a pharatoi helaeth. Gwnaethom argymell rhai gwelliannau, er enghraifft cydymffurfiaeth well â gweithdrefnau diogelwch tân a threfniadau gwell ar gyfer sicrhau bod cyfarpar dadebru yn ddiogel. Gwnaethom hefyd argymell y dylid adolygu'r meini prawf ar gyfer derbyn cleifion i ysbytai maes er mwyn sicrhau bod gofal priodol yn cael ei ddarparu.

Mae'n amlwg bod llawer o'r newidiadau a gyflwynwyd i ymdrin â heriau COVID-19 wedi newid y ffordd y mae cleifion yn defnyddio gwasanaethau gofal iechyd y tu hwnt i adnabyddiaeth. Mae cyflymder cyflwyno'r newidiadau hyn wedi bod yn wych a dim ond drwy ymroddiad ac arloesedd y staff sy'n arwain ac yn gweithio ym maes gofal iechyd yng Nghymru y gwnaed hyn yn bosibl. Mae risgiau a heriau yn gysylltiedig â newid cyflym, a bydd angen nawr i wasanaethau adeiladu ar yr enghreifftiau gorau o arloesedd a newid a gyflwynwyd yn ystod y pandemig, er mwyn mynd i'r afael â'r galw digynsail am wasanaethau sydd i'w weld o hyd. Bydd angen i wasanaethau gofal iechyd sicrhau eu bod yn ymgynghori'n effeithiol â chleifion a chymunedau nad ydynt efallai wed cael y cyfle i gyfrannu at y newidiadau a gyflwynwyd ar ddechrau'r pandemig er mwyn sicrhau eu bod yn gynhwysol ac yn effeithiol.

Mae'n amlwg o'n gwaith fod y pandemig wedi cael effaith ar lesiant staff sydd wedi gweithio'n ddiflino dan gryn bwysau i gynnal gwasanaethau i gleifion, ac y bydd hyn yn parhau. Wrth i ni fynd yn ein blaen, bydd cefnogi llesiant staff a chydnabod yr effaith barhaus arnynt wrth i wasanaethau adfer ac ailgydio yn eu gweithgarwch cyn y pandemig yn hollbwysig i lwyddiant gofal iechyd.

Yn yr Adroddiad Blynyddol hwn rydym hefyd yn craffu ar ein perfformiad ein hunain fel sefydliad dros y tair blynedd diwethaf. Rydym wedi asesu ein cynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau a'n hymrwymiadau drwy ymgysylltu â staff, rhanddeiliaid a'r cyhoedd.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

"Mae hon wedi bod yn flwyddyn na welwyd ei thebyg i wasanaethau gofal iechyd". Er gwaethaf yr heriau digynsail a wynebwyd, mae ymroddiad diflino staff ym mhob rhan o'r sector gofal iechyd yng Nghymru wedi parhau i greu argraff fawr arnaf. Mae unigolion a gwasanaethau wedi dangos arloesedd ac ymrwymiad sydd wedi arwain at gyflwyno newidiadau cymhleth ar gyflymder na fyddem yn ei weld fel arfer. Mae cleifion wedi parhau i gael eu trin gan staff sydd wedi dangos dro ar ôl tro eu bod yn poeni am y rhai y maent yn gofalu amdanynt.

Drwy addasu ein modelau gweithio, rwy'n falch bod AGIC wedi llwyddo i barhau i gyflawni ein nod o arolygu'r gofal a roddir i bobl yng Nghymru. Rydym wedi gwneud cynnydd da dros y tair blynedd diwethaf i gyflawni ein strategaeth 'Gwneud gwahaniaeth'. Wrth i ni bennu ein strategaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf, byddwn yn parhau i ddefnyddio ein rôl i annog gwelliant ym maes gofal iechyd, gan adeiladu ar y pethau gorau rydym wedi eu gwneud hyd yma i sicrhau'r effaith orau posibl."