Adroddiad Blynyddol AGIC yn canfod pwysau ar wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru ar ôl y pandemig
Heddiw (28 Medi) rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2021-2022. Mae ein hadroddiad yn crynhoi pob gweithgarwch, gan gynnwys arolygu gwasanaethau gofal iechyd y GIG a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol. Mae’r adroddiad yn nodi pwysau parhaus ar ofal brys, pryderon staffio, risgiau o ran rheoli diogelwch cleifion a hygyrchedd apwyntiadau wyneb yn wyneb.
Mae’r adroddiad yn amlygu sut yr ydym wedi parhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch cleifion drwy herio gwasanaethau gofal iechyd a byrddau iechyd i chwilio am wahanol ffyrdd o weithio i wella canlyniadau i gleifion. Ymgysylltwyd â staff gofal iechyd yn ystod arolygiadau a buont yn gweithio’n adeiladol i fynd i’r afael ag unrhyw faterion a amlygwyd.
Yn ystod y cyfnod o 12 mis, fe wnaethom barhau ag ystod lawn o weithgareddau sicrwydd ac arolygu, gan adeiladu ar ffyrdd gwell o weithio a chymryd camau lle na chyrhaeddwyd safonau.
Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom gynnal bron i 200 o ddarnau o waith arolygu a sicrwydd ac ymdrin â thros 500 o bryderon gan y cyhoedd a staff gofal iechyd. Cyflwynwyd proses Gwasanaeth sy’n Peri Pryder ar gyfer gwasanaethau’r GIG, ac fe’i defnyddir pan fo methiannau sylweddol yn y gwasanaeth, neu pan fo pryderon am wasanaeth neu leoliad yn cronni. Bwriad y broses yw ysgogi gwelliant a dysgu.
Ar y cyfan, rydym wedi canfod bod ansawdd y gofal a ddarperir ledled Cymru wedi bod o safon dda. Fodd bynnag, trwy ein gwaith fe wnaethom nodi bod gwasanaethau gofal iechyd yn parhau i fod dan bwysau dwys oherwydd effaith pandemig COVID-19.
Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o’n hadolygiadau cenedlaethol a lleol, gan gynnwys atal argyfyngau iechyd meddwl a sut y gwnaeth gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru ddiwallu anghenion pobl a chynnal eu diogelwch yn ystod y pandemig.
Drwy ein gwaith arolygu a sicrwydd, gwnaethom nodi gwahaniaeth clir rhwng gofal wedi’i drefnu a gofal heb ei drefnu. Nodwyd llawer mwy o feysydd gennym yr oedd angen eu gwella o ran gofal heb ei drefnu o gymharu â gofal wedi’i drefnu. Roedd llai o feysydd i’w gwella mewn meysydd gofal wedi’i drefnu, fel wardiau oncoleg a chardiaidd, lle mae gan y staff fwy o reolaeth dros dderbyniadau a llif cleifion.
Er bod yr ymatebion a gawsom i’n holiaduron staff yn nodi morâl isel ymhlith y staff, yn enwedig mewn perthynas â heriau ynghylch niferoedd staffio a galw mawr am wasanaethau, nid oedd yn ymddangos bod hyn yn effeithio ar y profiad a gafodd cleifion o’r staff, yn gyffredinol. Unwaith eto, roedd cleifion a oedd yn derbyn gwasanaethau yn hynod gadarnhaol.
Mae llawer o’r newidiadau a gyflwynwyd i fynd i’r afael â heriau COVID-19 wedi newid y ffordd y mae cleifion yn cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd. Roedd mater mynediad at apwyntiadau meddygon teulu wyneb yn wyneb yn gyffredin. Dywedodd pobl wrthym na allent gael apwyntiadau pan oedd arnynt eu hangen bob amser, a’u bod yn ei chael yn anodd mewn rhai ardaloedd i gael mynediad at bractisau dros y ffôn. Canfuom hefyd fod elfen o allgau digidol wedi parhau, gyda rhai pobl yn methu cael mynediad cyfartal at wasanaethau oherwydd bod ffocws ar gynnal ymgynghoriadau ar-lein a thros y ffôn.
Rhoddwyd cynlluniau gwella i lawer o leoliadau yn dilyn ein canfyddiadau a’n hargymhellion, sy’n parhau i gael eu hadolygu gan staff AGIC.
Mae’r adroddiad blynyddol hwn hefyd yn ein gweld yn craffu ar ein perfformiad fel sefydliad dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym wedi adrodd ar gynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau a’n hymrwymiadau ar draws ein gwaith.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
Yn ystod blwyddyn pan fu gwasanaethau gofal iechyd yn gweithio’n galed i adfer gwasanaethau a oedd wedi’u hatal dros dro, wrth barhau i ymdrin ag amrywiadau a oedd yn dod i’r amlwg, brigiadau o achosion, a brigiadau pellach o COVID-19, rydym wedi gweld ansefydlogrwydd sylweddol. Mae’r cryfder a’r gwydnwch a ddangosir gan staff gofal iechyd, sy’n parhau i ddarparu gofal a thriniaeth yn y ffordd orau bosibl, er gwaethaf yr heriau niferus y maent yn eu hwynebu bob dydd, i’w ganmol.
Unwaith eto, mae cleifion wedi dweud wrthym am eu profiadau cadarnhaol o staff er gwaethaf amgylchiadau tra heriol.
Mae’n amlwg bod llawer o heriau o’n blaenau o hyd, i wasanaethau, i’r staff sy’n gweithio ynddynt, ac i bobl Cymru, tra bod y dasg aruthrol o adfer gwasanaethau yn parhau.