Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol Arolygiadau o Bractisau Deintyddol Cyffredinol 2015-16

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiadau o bractisau deintyddol yn 2015-16.

 

Yn 2014-15, gwnaethom ddechrau rhaglen tair blynedd o arolygiadau o holl bractisau deintyddol Cymru. 

Gwnaethom arolygu 133 o bractisau deintyddol yn ystod 2015-16 i sicrhau bod y gwasanaethau maent yn eu darparu'n ddiogel ar gyfer y cleifion sy'n derbyn triniaeth. 

Yr hyn a welsom

  • Roedd cleifion yn fodlon ar y gwasanaethau deintyddol a gawsant
  • Roedd y rhan fwyaf o bractisau'n ymrwymedig i wneud ymdrechion i wella’n barhaus y gwasanaethau maent yn eu darparu
  • Roedd gwybodaeth am gostau neu ffioedd ar goll weithiau, neu nad oedd yn amlwg i gleifion ei gweld
  • Dylai practisau ystyried eu cyfrifoldebau i ystyried anghenion yr holl gleifion, gan gynnwys y rhai â nam synhwyraidd
  • Dylai pob practis gael system i dderbyn adborth cleifion yn rheolaidd 
  • Dylai practisau ystyried gwell ffyrdd o sicrhau bod pobl yn cael eu hymrymuso i ddweud pan fydd pethau'n mynd o chwith 
  • Dylai pob practis wirio bod ei bolisi cwynion yn cydymffurfio â gweithdrefn cwynion cleifion y GIG a adwaenir fel 'Gweithio i Wella' a, lle bo'n berthnasol, Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w lawrlwytho isod.