Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol Arolygiadau o Bractisau Meddygol Cyffredinol 2015-16

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi ein canfyddiadau o arolygiadau bractisau meddygol cyffredinol yn ystod 2015-16.

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn 2014-15, gwnaethom barhau ein rhaglen arolygu o bractisau meddygol cyffredinol (practisau meddygon teulu) yn ystod 2015-16. Hwn yw ein hail adroddiad blynyddol o ganfyddiadau ein harolygiadau o bractisau meddygon teulu ledled Cymru.

Arolygwyd cyfanswm o 27 o bractisau meddygon teulu gan.ystyried sut roedd pob practis yn bodloni’r safonau gofal a amlinellir yn y Safonau Iechyd a Gofal.

Yr hyn a welsom

  • Staff yn trin cleifion gydag urddas, parch, trugaredd a charedigrwydd
  • Cleifion yn fodlon ar y gofal a'r driniaeth a gawsant
  • Arweinyddiaeth gref ac effeithiol gan reolwyr practisau, meddygon teulu a staff 
  • Staff â sgiliau priodol, gwybodaeth a hyfforddiant i gyflawni eu rolau
  • Nodiadau clinigol yn cynnwys digon o fanylion sy’n helpu dilyniant o ran gofal
  • Dim ond tua hanner o’r practisau a arolygwyd gennym oedd yn annog neu’n hwyluso adborth gan gleifion
  • Dylai practisau ystyried sut gall pobl ag anawsterau symudedd a nam ar y synhwyrau gael mynediad hawdd at y safle a’i ddefnyddio
  • Mae angen I bractisau wella eu systemau ar gyfer rheoli oedolion sy'n agored i niwed neu mewn perygl.

Ceir rhagor o fanylion am ein canfyddiadau yn yr adroddiad.

Gallwch wrando ar ein Cyfarwyddwr Ruth Studley, yn sôn am ganfyddiadau'r adroddiad hwn ar ein sianel YouTube.