Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol: Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru o dan ‘bwysau parhaus' o hyd

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-2024 heddiw, sy'n tynnu sylw at ganfyddiadau allweddol o'r gwaith a wnaed i reoleiddio, arolygu, ac adolygu gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru. Mae'r adroddiad yn darparu gwybodaeth am ansawdd y gofal a ddarperir i bobl Cymru, ac yn amlinellu meysydd lle mae angen gwneud gwelliannau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn parhau'n ddiogel, yn effeithiol, ac yn canolbwyntio ar y cleifion.

Clawr blaen Adroddiad Blynyddol 2023-2024 - pobl yn cerdded o flaen adeilad ysbyty gydag ambiwlans y tu allan. Yn y cefndir gallwch weld sawl tirnod Cymreig gan gynnwys Stadiwm Prinicpality a chestyll

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at waith caled ac ymroddiad staff gofal iechyd, ond mae hefyd yn cyfeirio at y pwysau a'r heriau parhaus y mae'r system yn eu hwynebu. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae AGIC wedi cynnal 172 o arolygiadau ar y safle ar draws amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd, gan gynnwys ysbytai a phractisau meddyg teulu. Nododd fod y system yn wynebu anawsterau o hyd o ran prinder staff, y galw cynyddol am wasanaethau, a'r problemau parhaus o ran llif cleifion sy'n effeithio ar ofal a gynlluniwyd a gofal brys. Cawsom wybod am fwy na 600 o bryderon eleni, a gwnaethom ymgysylltu â mwy na 8,200 o gleifion, staff, a gofalwyr er mwyn cael gwybodaeth werthfawr am eu profiadau o wasanaethau gofal iechyd. Mae eu lleisiau wedi bod yn hanfodol wrth lywio ein dealltwriaeth o'r heriau a wynebir a'r gofal a ddarperir. Mae gwaith AGIC eleni wedi canolbwyntio ar nodi ac ymdrin â'r heriau hyn er mwyn cadarnhau bod gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru yn ddiogel, effeithiol ac yn hygyrch i bawb.

Mae canfyddiadau allweddol yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys:

  • Pwysau ar Adrannau Achosion Brys: Mae ein gwaith wedi nodi problemau parhaus o ran gorlenwi ac amseroedd aros hir mewn Adrannau Achosion Brys ledled Cymru. Mae cleifion yn aml yn wynebu oedi wrth gael eu hasesu a'u trin, gyda sawl un yn aros yn hirach i gael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd prinder gwelyau. Mae problemau o ran llif cleifion, gan gynnwys oedi wrth drosglwyddo cleifion o'r adran achosion brys i'r wardiau, yn cyfrannu ymhellach at orlenwi ac amseroedd aros hirach. Mae'r heriau hyn, ynghyd â phrinder staff, yn parhau i roi pwysau ar wasanaethau gofal iechyd wrth i'r galw gynyddu.
  • Oedi o ran Gofal a Gynlluniwyd: Mae llawer o gleifion yn wynebu achosion o oedi sylweddol wrth gael gofal a gynlluniwyd. Canfu AGIC fod rhestrau aros am driniaethau a llawdriniaethau yn rhy hir, gan achosi rhwystredigaeth i gleifion a rhoi pwysau ychwanegol ar staff gofal iechyd.
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl: Mae mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn parhau'n bryder, yn arbennig i blant a phobl ifanc. Nododd AGIC fylchau mewn gwasanaethau, amseroedd aros hir, ac anawsterau wrth gael gofal dilynol amserol ar ôl asesiadau cychwynnol.
  • Ymatebion Arloesol i Alw Uchel: Er gwaethaf y pwysau hyn, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at fentrau cadarnhaol wedi'u hanelu at wella gofal brys a gofal y tu allan i oriau. Mae systemau newydd, gan gynnwys opsiynau amgen i gleifion y mae angen gofal brys arnynt, wedi cael eu datblygu i leihau'r straen ar adrannau achosion brys. Mae AGIC wedi canmol y dulliau arloesol hyn am eu rôl wrth gynnal ansawdd gwasanaethau pan fydd galw digynsail.
  • Gwasanaethau Gofal Iechyd a Deintyddol Annibynnol: Tynnodd ein gwaith rheoleiddio gwasanaethau gofal iechyd annibynnol, gan gynnwys clinigau preifat a deintyddfeydd, sylw at faterion a oedd yn ymwneud â chapasiti a mynediad. Mae cleifion yn wynebu achosion o oedi wrth gael gofal deintyddol, gyda llawer o bractisau deintyddol yn ei chael hi'n anodd bodloni'r galw.
  • Diogelwch Cleifion ac Oedi wrth Ryddhau Cleifion: Nododd ein harolygiadau o ysbytai heriau sylweddol o ran rhyddhau cleifion. Mae llawer o gleifion yn aros yn yr ysbyty am gyfnodau amhriodol o hir oherwydd oedi wrth ryddhau cleifion, sydd nid yn unig yn rhoi pwysau ar ysbytai, ond sydd hefyd yn golygu bod cleifion yn wynebu risg uwch o niwed. 
  • Cydweithio a Meithrin Dealltwriaeth: Rydym yn parhau i roi blaenoriaeth i wrando ar y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal iechyd ac yn gweithio yn y gwasanaethau hynny ledled Cymru. Mae eu hadborth yn hanfodol er mwyn deall yr heriau y mae cleifion yn eu hwynebu wrth gael gofal. Gweithiodd AGIC hefyd yn agos â sefydliadau partner, gan arwain dwy Uwchgynhadledd Gofal Iechyd a ddaeth â chyrff arolygu, rheoleiddio ac archwilio gofal iechyd ynghyd i drafod materion allweddol ac i rannu gwybodaeth.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

“Mae ein Hadroddiad Blynyddol 2023-2024 yn tynnu sylw at y cryfderau a'r heriau yn y system gofal iechyd yng Nghymru. Rydym wedi gweld llawer o ddatblygiadau cadarnhaol, yn arbennig mewn meysydd fel gofal brys, ond ceir materion sy'n achosi pwysau sylweddol o hyd y mae angen ymdrin â nhw, yn enwedig o ran capasiti a llif cleifion. Ein rôl yw sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn parhau i ddarparu gofal diogel ac effeithiol, ac rydym yn parhau'n ymrwymedig i ysgogi gwelliannau lle bo eu hangen fwyaf. Hoffwn ddiolch i bob un o'r aelodau o staff gofal iechyd, y cleifion a'r sefydliadau sydd wedi cyfrannu at ein gwaith drwy gydol y flwyddyn. Mae'r wybodaeth a gawsom ganddynt yn werthfawr iawn wrth ein helpu i wella gofal iechyd yng Nghymru.”

Adroddiad Blynyddol - 2023-2024