Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Datguddio Meddygol) (RhYÏ(DM)) 2015-16

Mae’r adroddiad hwn yw crynhoi canfyddiadau ein harolygiadau o adrannau radioleg yn ystod 2015-16.

Rydym yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiad â Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Datguddio Meddygol) (RhYÏ(DM)) 2000 (a’u diwygiadau dilynol yn 2006 a 2011). Bwriad y rheoliadau yw amddiffyn unigolion rhag peryglon sy'n gysylltiedig ag ymbelydredd ïoneiddio.

Yn ystod 2015-16, cynhaliodd AGIC gyfanswm o bedwar arolygiad o gydymffurfiad â RhYÏ(DM) o ysbytai annibynnol ac adrannau radiotherapy y GIG. Cynhaliwyd hefyd 133 o arolygiadau o bractisau deintyddol cyffredinol. Fel rhan o'r arolygiadau hyn, gwnaethom ystyried sut roedd practisau'n bodloni'r gofynion a nodir yn RhYÏ(DM), Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (RhYÏ) 1999 a safonau a chanllawiau proffesiynol perthnasol eraill.

Yr hyn a welsom

  • Arfer diogel ac effeithiol ledled yr adrannau
  • Amlwg bod y staff yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth o safon uchel
  • Cleifion yn gadarnhaol am eu profiadau o'r gwasanaethau ac yn arbennig o gadarnhaol am staff
  • Gwaith cadarnhaol yn cael ei wneud o ran datblygu lefelau cyfeirio diagnostig lleol
  • Angen diweddaru gweithdrefnau a phrotocolau ysgrifenedig i sicrhau eu bod yn adlewyrchu gofynion RhYÏ(DM) yn gywir a'r hyn sy'n digwydd yn ymarferol, fel eu bod yn eglur i'r staff eu dilyn
  • Cofnodion hyfforddiant annigonol i ddangos bod staff wedi cwblhau hyfforddiant ymbelydredd ïoneiddio
  • Angen gwybodaeth bellach mewn gweithdrefnau ar gyfer meysydd y mae'r rheoliadau wedi eu diffinio fel rhai sydd angen sylw arbennig, gan gynnwys gwirio statws beichiogrwydd a datguddiadau plant.

Ceir manylion llawn ar ein canfyddiadau yn yr adroddiad.