Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol: Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yng Nghymru 2023-24

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi eu hadroddiad monitro blynyddol ar sut y caiff y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid eu defnyddio yng Nghymru.

Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Iechyd 2023 - 2024

Mae'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn cynnig amddiffyniadau cyfreithiol hanfodol i rai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed. Diben y trefniadau diogelu hyn yw amddiffyn a chynnal hawliau dynol pobl nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol ynghylch eu gofal a'u triniaeth. Maent yn sicrhau bod pob penderfyniad yn cael ei wneud er lles pennaf yr unigolyn, gan warantu ar yr un pryd bod unrhyw gyfyngiadau ar ei ryddid yn briodol ac yn gymesur.

Mae'r trefniadau diogelu yn darparu fframwaith cyfreithiol clir i gartrefi gofal ac ysbytai ei ddilyn pan fyddant yn gofalu am oedolion 18 oed a throsodd nad ydynt yn gallu cydsynio i'w triniaeth neu eu trefniadau gofal. Mae'r fframwaith hwn yn helpu i atal achosion posibl o dorri'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. 

Canfyddiadau allweddol 

Mae byrddau iechyd wedi gweld cynnydd amlwg mewn ceisiadau, gan dderbyn 494 yn fwy na'r flwyddyn flaenorol – cynnydd o 7%. I'r gwrthwyneb, bu gostyngiad bach yn nifer y ceisiadau a gafodd awdurdodau lleol, gyda 258 yn llai o geisiadau, sy'n cynrychioli gostyngiad o 2%.

Mae'r system yn parhau i wynebu heriau sylweddol. Mae llawer o bobl agored i niwed yn wynebu oedi hir wrth dderbyn eu hasesiadau o dan y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid, gan fynd y tu hwnt i'r terfynau amser statudol yn rheolaidd. Mae'r ffaith bod awdurdodiadau yn aml yn dod i ben cyn y gellir cwblhau'r asesiadau gofynnol, sy'n golygu bod unigolion yn wynebu sefyllfaoedd sy'n ansicr yn gyfreithiol, yn destun pryder penodol.

Mae goblygiadau difrifol yn gysylltiedig â'r achosion hyn o oedi. Ar hyn o bryd, mae llawer o bobl ledled Cymru yn cael eu hamddifadu o'u rhyddid heb drefniadau diogelu cyfreithiol priodol, a phrin yw'r cyfleoedd a gaiff y rhai hynny sy'n aros am asesiadau i herio eu sefyllfa. Heb wneud diwygiadau sylfaenol i'r system, bydd yr unigolion hyn sy'n agored i niwed yn parhau i fod heb yr amddiffyniadau cyfreithiol y mae ganddynt yr hawl iddynt.

Edrych i'r dyfodol 

Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at gynnydd a heriau cyson o ran amddiffyn hawliau pobl sy'n agored i niwed. Mae AGC ac AGIC yn parhau'n ymrwymedig i fonitro'r trefniadau diogelu hyn ac adrodd arnynt, gan sicrhau eu bod yn amddiffyn y rhai sydd eu hangen fwyaf yn effeithiol. Fodd bynnag, heb ddiwygio'r system yn sylweddol, mae'n debygol y bydd yr heriau hyn yn parhau, gan gael effaith barhaus ar y rhai hynny sy'n dibynnu ar yr amddiffyniadau cyfreithiol hanfodol hyn.

Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Iechyd 2023 - 2024