Adroddiad Blynyddol yn canfod pwysau parhaus ar wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru
Heddiw, 6 Rhagfyr, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2022-2023. Mae'r adroddiad yn crynhoi ein holl weithgarwch, gan gynnwys yr arolygiad o wasanaethau'r GIG a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol.
Mae ein canfyddiadau yn nodi'r pwysau parhaus ar wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru, ac yn tynnu sylw at risgiau yn ymwneud â gofal brys, pryderon ynghylch staffio, llif cleifion gwael a'r gallu i gael apwyntiadau.
Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch cleifion drwy ein gwaith arolygu a sicrwydd drwy herio gwasanaethau gofal iechyd i edrych am ffyrdd gwahanol o weithio i wella canlyniadau i gleifion. Ymgysylltodd staff gofal iechyd yn dda â'n harolygiadau a gwnaethant weithio'n adeiladol i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a nodwyd. Mae ein hadroddiad blynyddol yn nodi sut y gwnaethom gyflawni ein swyddogaethau ledled Cymru, gan geisio sicrwydd ar ansawdd a diogelwch gofal iechyd drwy amrywiaeth o weithgareddau. Mae hyn yn cynnwys arolygiadau a gwaith adolygu yn y GIG, a gwaith sicrwydd rheoliadol yn y sector gofal iechyd annibynnol. Mae'r adroddiad yn crynhoi canfyddiadau ein gwaith, y prif heriau a wynebir ym maes gofal iechyd ledled Cymru, a'n barn am bryderon cenedlaethol a lleol.
Mae ein canfyddiadau yn dangos pwysau di-ildio ar wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru, ac er bod mentrau ar waith i helpu gwasanaethau gofal iechyd i ymdopi â'r galw cynyddol, ni chanfu ein gwaith yn ystod y flwyddyn hon unrhyw dystiolaeth i ddangos bod y mentrau hyn yn gwneud gwahaniaeth clir a sylweddol i wasanaethau rheng flaen. Er y gallai cleifion fod wedi bod yn fodlon ar y staff a oedd yn darparu eu gofal, nid oeddent yn fodlon ar yr amseroedd aros hir na'r anhawster i gael eu trin gan wasanaethau mewn modd amserol. Er bod staff wedi parhau i ddisgrifio eu brwdfrydedd dros weithio gyda phobl a chefnogi pobl gyda'u gofal, nid oeddent yn fodlon ar y pwysau aruthrol y maent yn eu hwynebu yn eu hamgylcheddau gwaith bob dydd.
Mae ein gwaith yn ysbytai'r GIG wedi tynnu sylw at lif cleifion gwael, ynghyd â phwysau dwys dyddiol mewn perthynas â derbyn cleifion a rheoli gwelyau. Mewn Adrannau Achosion Brys ledled Cymru, rydym wedi nodi gorlenwi, cleifion yn aros am gyfnodau hir i gael eu brysbennu a'u trin, ac oedi parhaus cyn i gleifion gael eu derbyn i'r gwelyau mwyaf priodol. Ym maes Meddygaeth Gyffredinol a Deintyddiaeth, mae'r gallu i gael gafael ar wasanaethau'r GIG yn dal i beri pryder gwirioneddol i gleifion.
Er enghraifft, mae ein gwaith ym maes gwasanaethau iechyd meddwl wedi canfod oedi o ran darparu triniaeth, yn enwedig pan fydd cleifion sydd wedi cael diagnosis ac sydd â chynllun gofal a thriniaeth yn symud o un rhan o'r gwasanaeth i un arall.
Mae'r sector gofal iechyd annibynnol yn aml yn gofalu am rai o'r cleifion mwyaf agored i niwed yng Nghymru, gan ymdrin â lefelau uchel o risg ac anghenion cymhleth. Mae ein gwaith wedi ceisio herio'r sector i sicrhau bod safon ac ansawdd y gofal a ddarperir yn gyson â'i gyfrifoldebau rheoliadol er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn darparu gwasanaeth o safon i gleifion.
Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cynnal 178 o ddarnau o waith arolygu a sicrwydd ac wedi ymdrin â 659 o bryderon gan y cyhoedd a staff gofal iechyd. Maw tair thema allweddol wedi dod i'r amlwg drwy waith ein gwasanaeth monitro pryderon, sy'n ateb galwadau ac yn derbyn gwybodaeth gan aelodau o'r cyhoedd. Mae'r rhain yn ymwneud ag anawsterau i sicrhau deintydd rheolaidd a chael gofal deintyddol, anhawster i gael apwyntiad gyda meddyg teulu ac anhawster i gael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl. Mae'r adborth hwn gan aelodau o'r cyhoedd yn peri pryder mawr ac yn rhybudd cynnar o heriau'r dyfodol ym maes iechyd cyhoedd y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt.
Er bod yr ymatebion a gafwyd i'n holiaduron staff yn dangos lefelau isel o forâl ymysg staff, gan gynnwys heriau yn ymwneud â niferoedd staff a galw uchel am wasanaethau, nid oedd yn ymddangos bod hyn yn effeithio ar brofiadau cleifion o staff.
Drwy fynegi barn annibynnol am wasanaethau gofal iechyd, rydym yn ceisio cyfrannu at ddealltwriaeth o'r risgiau a'r heriau sy'n atal gwasanaethau rhag gweithredu'n effeithiol ac effeithio ar ansawdd y gofal a ddarperir i gleifion. Cyflwynwyd cynlluniau gwella i lawer o leoliadau yn dilyn ein canfyddiadau a'n hargymhellion, ac rydym yn parhau i fynd ar eu trywydd er mwyn sicrhau bod camau cadarn yn cael eu cymryd i wella canlyniadau.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
“Yn awr, yn fwy nag erioed ym maes gofal iechyd yng Nghymru, mae angen arloesi'n barhaus, pennu gweledigaeth a meithrin dealltwriaeth o'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio cystal. Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae gan AGIC rôl glir i'w chwarae wrth ddarparu sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd gwasanaethau gofal iechyd, gan dynnu sylw at arferion da a herio lle nad yw safonau'n cael eu cyrraedd.
Unwaith eto, mae ein gwaith wedi dangos y pwysau parhaus ar wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru, ac wedi tynnu sylw at risgiau yn ymwneud â gofal brys, lefelau staffio, llif cleifion gwael a'r gallu i gael apwyntiadau. Drwy ein gwaith, rydym unwaith eto wedi gweld gweithlu hynod fedrus ac ymrwymedig, sy'n darparu gofal mewn modd tosturiol ac arloesol. Gweithlu'r GIG yw ei ased fwyaf o hyd, ac mae'n parhau i fod yn ganolog i lywio'r heriau sydd i ddod.”