Adolygiad o'r ddarpariaeth o ofal a thriniaeth iechyd meddwl a ddarparwyd i Mr M gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), cyn iddo gyflawni dynladdiad yn Tenerife ym mis Mai 2011, yw'r adroddiad hwn.
Comisiynwyd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gan Weinidogion Cymru i gyflawni'r adolygiad allanol hwn o'r ddarpariaeth o ofal a thriniaeth iechyd meddwl a ddarparwyd i Mr M er mwyn penderfynu a oedd diffygion yn y gofal a dderbyniodd a allai fod wedi dylanwadu ar neu arwain at ddigwyddiadau mis Mai 2011.