Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Thematig Arolygiadau Urddas a Gofal Hanfodol 2014-2015

Darllenwch ganfyddiadau ein hadolygiad o Arolygiadau Urddas a Gofal Hanfodol yn 2014-2015.

Cwblhawyd Arolygiadau Urddas a Gofal Hanfodol dirybudd ar 46 ward neu adran mewn ysbytai acíwt, cyffredinol a chymuned y GIG ym mhob un o'r saith o fyrddau iechyd yng Nghymru yn ystod 2014-2015.

Arolygwyd pob un o'r ysbytai a ymwelsom ni â nhw mewn perthynas â phedair thema: 

  • Ansawdd Profiad y Claf 
  • Cyflenwi Hanfodion Gofal
  • Ansawdd Staffio, Rheolaeth ac Arweinyddiaeth
  • Cyflenwi Gwasanaeth Diogel ac Effeithiol.

Ar gyfer yr adolygiad hwn, gwnaethom ddadansoddi 35 o'r 46 o arolygiadau a gynhaliwyd yn 2014-2015 a chanfuwyd rhai themâu lefel uchel. 

Mae ein canfyddiadau o'r adolygiad hwn ar gael i'w darllen yn yr adroddiad.