Aeth yr adolygiad ati i ystyried yr ymateb amlasiantaethol i achosion o gam-drin ac esgeuluso plant yn ardaloedd chwe bwrdd diogelu rhanbarthol Cymru rhwng 2019 a 2024.
Gwaith trawsarolygiaeth oedd yr Arolygiadau hyn ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant, a wnaed gennym ni, Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS), Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn.
Cynhaliwyd arolygiadau yng Nghasnewydd (2019), Castell-nedd Port Talbot (2021), Sir Ddinbych (2023), Pen-y-bont ar Ogwr (2023), Powys (2023) a Chaerdydd (2024).
Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r prif ganfyddiadau am effeithiolrwydd trefniadau gweithio mewn partneriaeth a gwaith asiantaethau unigol ledled Cymru.
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.
Dogfennau
-
Adroddiad Trosolwg: Arolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant 2019 - 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MBCyhoeddedig:3 MB