Adroddiad yn canfod bod oedi wrth ryddhau cleifion o ysbytai yng Nghymru yn effeithio ar y gwaith o ddarparu gofal diogel
Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn nodi canfyddiadau adolygiad o lif cleifion yng Nghymru. Llif cleifion yw'r broses o symud cleifion drwy system gofal iechyd, o'u derbyn i'r ysbyty i'w rhyddhau. Gwnaeth AGIC ystyried taith cleifion drwy'r llwybr strôc. Diben hyn oedd deall yr hyn sy'n cael ei wneud i liniaru unrhyw niwed i'r rhai sy'n aros am ofal, a hefyd i ddeall sut y cynhelir ansawdd a diogelwch gofal ar bob cam o'r llwybr strôc.
Roedd yr adolygiad yn defnyddio cleifion strôc fel astudiaeth achos i ddeall y risgiau a'r heriau y gall llif cleifion gwael eu cael ar y system gofal iechyd, ac yn benodol, yr effaith ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau. Mae'r adolygiad wedi amlygu bod heriau sylweddol, ledled Cymru, sy'n cael effaith negyddol ar effeithlonrwydd llif cleifion, sy'n golygu nad yw cleifion bob amser yn cael y gofal sydd ei angen arnynt mewn modd amserol a phriodol. Mae AGIC wedi gwneud argymhellion sy'n cynnwys yr angen i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio'n fwy effeithiol i fynd i'r afael â'r materion hyn a gwella taith y claf.
Dechreuodd yr adolygiad ym mis Rhagfyr 2021 ac mae'n archwilio profiadau cleifion strôc sy'n ceisio gofal a thriniaeth, o unigolyn yn ffonio am ambiwlans, cael ei drosglwyddo i'r ysbyty, ei asesu, ei drin fel claf mewnol, hyd at ei ryddhau o'r ysbyty. Gwnaed y penderfyniad i gynnal yr adolygiad ar ôl i lif cleifion gwael gael ei amlygu yn ein harolygiad a'n gwaith sicrwydd, a'r effaith negyddol y gall hyn ei chael ar ansawdd y gwasanaethau a ddarperir.
Mae canfyddiadau'r adolygiad yn datgelu heriau cyson a achosir gan lif cleifion gwael ledled Cymru, sy'n rhwystro'r gwaith o ddarparu gofal yn amserol ac yn briodol. Mae'r heriau hyn yn amrywiol eu cwmpas, ond maent yn deillio'n bennaf o'r galw uchel am welyau ar y cyd â'r cymhlethdodau sydd ynghlwm â rhyddhau cleifion meddygol iach o ysbytai. Gall cyfnodau hir diangen yn yr ysbyty oherwydd oedi cyn rhyddhau cleifion achosi'r risg y bydd cleifion yn dal heintiau yn yr ysbyty neu'n dirywio wrth aros i gael eu rhyddhau. Mae'r atalfa wrth ryddhau cleifion yn cael effaith ganlyniadol ar adrannau achosion brys, amseroedd ymateb ambiwlansys, gofal i gleifion mewnol, derbyniadau a gynlluniwyd a llesiant cyffredinol y staff. Mae'r heriau hyn yn rhai amrywiol eu cwmpas; mae'r galw mawr am welyau ysbyty i gleifion mewnol ynghyd â'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â rhyddhau cleifion sy'n feddygol iach o'r ysbyty, yn golygu bod y system gofal iechyd i gleifion mewnol yng Nghymru yn gweithredu o dan bwysau eithafol.
Mae un maes allweddol lle mae angen gwelliannau a nodwyd gan ein gwaith, yn ymwneud â'r angen i wasanaethau gofal iechyd ymgysylltu â phobl, er mwyn deall yn well yr hyn sy'n eu rhwystro rhag defnyddio neu ddewis o blith yr ystod o wasanaethau gofal iechyd sydd ar gael ledled Cymru. Mae'r ystod o wasanaethau gofal iechyd yn cynnwys fferyllfeydd, Unedau Mân Anafiadau, llinellau cymorth iechyd meddwl, ymgynghoriadau ar-lein y GIG a gwasanaeth 111 GIG Cymru. Mae'n bosibl y bydd ymgysylltu'n barhaus â phobl ynglŷn â'r ystod o wasanaethau sydd ar gael yn lleihau'r angen i bobl fynd i'w meddygfa neu Adran Achosion Brys pan nad yw'r pryder ynglŷn â'u hiechyd yn achos brys.
Roedd yn gadarnhaol gweld bod cleifion yr amheuwyd eu bod wedi cael strôc yn cael blaenoriaeth o ran trosglwyddo o'r ambiwlans, a'u bod yn cael eu trosglwyddo i'r adran achosion brys yn ddi-oed yn unol â'r llwybr strôc. Fodd bynnag, gwelsom ei bod yn heriol cyflawni targed Llywodraeth Cymru o drosglwyddo cleifion strôc o fewn 15 munud. Nod y targed hwn yw sicrhau yr ymgymerir ag ymchwiliadau a thriniaeth lle mae amser yn hollbwysig, yn ddi-oed i sicrhau'r canlyniad gorau i gleifion.
Oherwydd y pwysau ar niferoedd y gwelyau, nid oedd modd symud cleifion i'r ward neu'r arbenigedd mwyaf priodol ar gyfer eu gofal bob amser. Gall cleifion nad ydynt yn cael eu lleoli yn y gwely/ward gywir weithiau wynebu cyfnod hwy yn yr ysbyty. Gall hyn arwain at gymhlethdodau eraill, gan greu heriau ychwanegol i dimau gofal ac ychwanegu at broblem llif gwael. Mae claf strôc sydd wedi cael ei dderbyn i'r ysbyty yn debygol o gael canlyniad llawer gwell os caiff ei drin ar ward strôc.
Canfu AGIC fod cydweithredu da rhwng y timau amlddisgyblaethol strôc mewn perthynas â pharatoi claf i'w ryddhau o'r ysbyty. Fodd bynnag, un mater allweddol sy'n cael effaith sylweddol ar lif cleifion a chynnydd cyffredinol cleifion yw'r oedi wrth drosglwyddo gofal a rhyddhau cleifion sy'n feddygol iach i adael gofal acíwt. Gall hyn ddigwydd o ganlyniad i argaeledd gwelyau mewn cartrefi gofal neu ofal cymdeithasol a therapïau adsefydlu a ddarperir yn y cartref.
Mae adolygiad AGIC yn dangos nad yw gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithredu mor effeithlon ag y gallent. Mae'r aneffeithlonrwydd hwn yn cynyddu'r risg y bydd cymhlethdodau o ganlyniad i oedi cyn rhyddhau claf ac mae'n cael effaith sylweddol ar y system iechyd a gofal gyffredinol yng Nghymru. Fodd bynnag, cafodd rhai mentrau a dulliau gweithredu cadarnhaol eu nodi gan ein hadolygiad hefyd, a dylid ystyried y rhain ledled Cymru wrth i wasanaethau geisio ymateb i'r broblem o ran llif cleifion gwael. Er enghraifft, mewn rhai byrddau iechyd, roedd Swyddog Cyswllt Ambiwlans yr Ysbyty yn bresennol yn ystod cyfarfodydd llif cleifion er mwyn trafod yr oedi wrth drosglwyddo cleifion, a gafodd effaith gadarnhaol o ran rheoli'r materion a oedd yn gysylltiedig ag oedi wrth drosglwyddo cleifion o'r criw ambiwlans i staff yr adran achosion brys.
Gan fod y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i wynebu gofynion digynsail, gyda'r staff yn gweithio'n ddiflino i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i gleifion, mae'n amlwg bod angen ymdrechion o'r newydd gan y sector iechyd a gofal cymdeithasol i fynd i'r afael â phroblem llif cleifion gwael, a hynny ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:
'Mae gwella'r llif cleifion yn gwella profiad y claf, yn gwella canlyniadau, ac yn lleihau cyfraddau aros ac oedi.
Rwy'n falch bod ein gwaith wedi ein galluogi ni i nodi meysydd i'w gwella, ac i dynnu sylw at feysydd arfer da. Nid dim ond mewn perthynas â'r llwybr strôc, ond i bob claf. Yr hyn sy'n hanfodol nawr yw bod pob rhan o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio mor effeithiol â phosibl i fynd i'r afael â llif gwael a chyflawni canlyniadau gwell i gleifion yng Nghymru.
Rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r staff sy'n gweithio yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n ymdrechu i ddarparu gofal diogel ac effeithiol. Mae eu hymroddiad a'u hymrwymiad yn darparu sail gref a chadarnhaol i wella arni.’