Neidio i'r prif gynnwy

AGIC yn cynnal 35ain Gynhadledd EPSO ym mhrifddinas Cymru

Cynhaliodd AGIC 35ain gynhadledd y Bartneriaeth Ewropeaidd ar gyfer Sefydliadau Goruchwylio mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (EPSO) yn stadiwm byd-enwog y Principality yng Nghaerdydd â 74,000 o seddi, cartref Rygbi Cymru.

Baner gyda lluniau o fynychwyr EPSO, Stadiwm Pricipality, baneri Epso a HIW, ac Alun Jones yn siarad.

Roedd y gynhadledd ddeuddydd hon ym mis Hydref 2023 yn dwyn ynghyd weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol o bob rhan o'r byd, gyda chynadleddwyr yn teithio o gyn belled â Singapore, Bahrain, Awstralia a Seland Newydd.

Mae EPSO yn fforwm gwerthfawr lle mae dysgu ac arloesedd yn cael eu rhannu ymysg arolygiaethau a rheoleiddwyr yn fyd-eang. Roedd y cynadleddwyr yn rhoi cyflwyniadau yn ymdrin â phynciau megis creu diwylliant cadarnhaol mewn gofal iechyd, arweinyddiaeth effeithiol, a defnyddio technolegau i hwyluso darganfyddiadau mewn gofal iechyd.

Rhoddodd Judith Padget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, y prif gyflwyniad ar sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn fframwaith hanfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau ynglŷn ag iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Roedd yr Athro Sally Lewis, Arweinydd Clinigol y Rhaglen Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth i Gymru, hefyd yn bresennol, yn siarad am systemau gofal iechyd cynaliadwy, a sut y gellir sicrhau gwell canlyniadau i gleifion drwy'r defnydd teg, cynaliadwy a chlir o'r adnoddau sydd ar gael. Roedd y gynhadledd yn llwyfan rhagorol ar gyfer cydweithio, rhannu arloesedd a rhwydweithio.

Lluniau o Alun Jones gyda Jooske Vos, Judith Padget a Sally Lewis

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

“Bu'n anrhydedd gennym gynnal 35ain gynhadledd EPSO, ac roedd yn bleser croesawu cynadleddwyr o bedwar ban byd i brifddinas Cymru. Roedd y gynhadledd yn ymchwilio i arloesedd ym maes iechyd, yr effaith ar genedlaethau’r dyfodol a llywio gwelliant ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd y gynhadledd yn llwyfan rhagorol ar gyfer rhwydweithio a rhannu dysgu ar amrywiaeth o bynciau megis gofal integredig, gofal cymdeithasol a'r boblogaeth sy'n heneiddio yn ogystal â gofal iechyd sy'n datblygu drwy ddulliau digidol newydd. Diolch yn fawr i'r rhai a drefnodd y digwyddiad yn AGIC, ynghyd â Chadeirydd EPSO, Jooske Vos, ac i bawb a fu'n bresennol, a wnaeth gyfraniad mor gadarnhaol i'r trafodaethau."

Dywedodd Cadeirydd EPSO, Jooske Vos:

'Mae Bwrdd EPSO yn edrych yn ôl gyda boddhad mawr ar 35ain gynhadledd lwyddiannus iawn yng Nghaerdydd, Cymru. Dim ond drwy gydweithrediad agos â chydweithwyr yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru roedd y gynhadledd hon yn bosibl. Yn ogystal ag amgylchedd eithriadol Stadiwm y Principality, Caerdydd lle cynhaliwyd y gynhadledd, mae gennym hefyd atgofion melys o'r trafodaethau hynod fywiog ar amrywiol bynciau yn y gynhadledd. Roedd Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn bwnc allweddol a roddodd ddechrau diddorol i'r gynhadledd ac a arweiniodd at drafodaeth gofiadwy, a gyflwynwyd gan Judith Paget a Sally Lewis ac a gafodd ei chymedroli gan Alun Jones.  Trafodwyd pynciau pwysig o safbwynt goruchwylio gofal iechyd, megis datblygiadau mewn technegau modern sy'n ymwneud â data, deallusrwydd artiffisial, e-iechyd, prinder staff, arweinyddiaeth effeithiol, cydymffurfiaeth gynaliadwy, diwylliant a gwasanaethau di-dor."

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan EPSO: EPSO | European Partnership for Supervisory Organisations in Health Services and Social Care (epso-net.eu)