AGIC yn dringo copa uchaf De Cymru i gefnogi cydweithiwr ag MND
Ddydd Iau 22 Mehefin, dringodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) Ben y Fan ym Mannau Brycheiniog er mwyn codi arian ac ymwybyddiaeth i'r Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor (MNDA).

Mae Clefyd Niwronau Motor (MND) yn effeithio ar y nerfau a elwir yn niwronau motor. Mae'r nerfau hyn yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn, ac maent yn helpu i ddweud wrth eich cyhyrau beth i'w wneud. Os oes gennych MND, bydd yn effeithio ar y ffordd rydych yn symud ac rydych yn debygol o gael amrywiaeth eang o symptomau megis gwendid yn y cyhyrau, problemau llefaru a chyfathrebu ac anhawster wrth lyncu.
Yn ystod y misoedd diwethaf, gwnaeth Pauline, sy'n gweithio yn Adran Wybodaeth AGIC, y penderfyniad anodd i adael y gwaith am fod ei chyflwr yn datblygu'n gyflymach. Aeth grŵp o staff AGIC â gwahanol alluoedd cerdded ati i ddringo'r llethr 886m o uchder er mwyn cefnogi Pauline a chodi arian i MNDA.
Os hoffech gael gwybod mwy am MNDA a stori Pauline neu os hoffech roi arian, dilynwch y dolenni cysylltiedig.