AGIC yn gweld gorlenwi a phwysau sylweddol yn adran achosion brys Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (17 Mawrth 2023) yn tynnu sylw at yr heriau a wynebir gan staff yn Adran Achosion Brys Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Daeth yr arolygiad i'r casgliad nad oedd y cleifion yn cael gofal diogel yn gyson, er ymdrechion y staff. Nodwyd gennym fod y staff yn gweithio'n galed iawn i roi gofal o safon dda i gleifion, a hynny ar adeg pan oedd y gwasanaeth o dan gryn bwysau. Fodd bynnag, gwnaethom nodi bod angen gwneud nifer o welliannau, yr oedd angen i'r bwrdd iechyd gymryd camau mewn perthynas â rhai ohonynt ar unwaith.
Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd o'r adran achosion brys ar dri diwrnod dilynol ym mis Rhagfyr 2022. Yn ystod yr arolygiad ar y safle, nododd AGIC feysydd lle roedd y pwysau a'r heriau yn yr adran a'r ysbyty yn fwy cyffredinol yn arwain at risg gynyddol i gleifion.
Pan holwyd cleifion a gofalwyr, gwnaethant ddweud eu bod yn fodlon ar y gwasanaeth roeddent wedi'i gael ar y cyfan, a gwelodd yr arolygwyr y staff yn trin cleifion â pharch a chwrteisi. Fodd bynnag, mynegodd cleifion eu rhwystredigaeth am yr amseroedd aros a'r diffyg gwybodaeth am eu gofal a'u triniaeth. Roedd yr heriau sylweddol o ran sicrhau llif cleifion drwy'r ysbyty yn golygu bod yn rhaid i gleifion aros yn yr uned achosion brys am gyfnodau estynedig. Gwelwyd bod gorlenwi a phrinder cyfleusterau ymolchi a thoiledau yn yr uned, a bod cleifion yn aros mewn mannau anaddas yn yr uned, gan gynnwys y tu allan i giwbiclau, lle nad oedd unrhyw lenni preifatrwydd na sgriniau i'w gwahanu oddi wrth gleifion eraill. Roedd hyn yn cael effaith negyddol ar allu'r staff i sicrhau preifatrwydd ac urddas y cleifion ac i ddilyn gweithdrefnau atal a rheoli heintiau.
Er bod Uned Gofal ac Asesu Pediatrig, roedd oedi cyn bod plant yn cael eu gweld. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i'r plant aros yn y brif ardal aros weithiau, a oedd yn anaddas iddynt. Dywedodd rhai cleifion wrth yr arolygwyr eu bod wedi gorfod cysgu ar gadeiriau neu ar y llawr am gyfnodau hir. Er bod trefniadau digonol ar waith i asesu a monitro cleifion a oedd yn cyrraedd mewn ambiwlans, ni chawsom sicrwydd bob amser fod cleifion a oedd yn dod i'r uned eu hunain yn cael eu brysbennu mewn modd amserol. Ni chawsom sicrwydd ychwaith fod cleifion yn yr ystafell aros yn cael eu hailasesu'n rheolaidd, gan nad oedd tystiolaeth bob amser fod y nyrs frysbennu wedi adolygu eu cofnodion. Fodd bynnag, nodwyd bod cofnodion cleifion yn hawdd eu deall, a bod nodiadau wedi'u hysgrifennu â llaw yn ddarllenadwy ac wedi'u trefnu'n rhesymegol.
Yn gyffredinol, gwelsom fod meddyginiaethau yn cael eu rheoli'n ddiogel yn yr uned, ond nododd yr arolygwyr nad oedd y stordai wedi'u cloi er mwyn atal mynediad anawdurdodedig. Gallai hyn fod wedi achosi risg y byddai cleifion neu unigolion eraill yn cael mynediad iddynt. Nid oedd gwiriadau trolïau cyfarpar dadebru yn cael eu cofnodi bob amser, ac felly ni chawsom sicrwydd bod y cyfarpar angenrheidiol yn barod ac ar gael i'w ddefnyddio pe bai argyfwng. Rhaid i'r bwrdd iechyd gymryd camau gweithredu addas i wella cydymffurfiaeth staff â hyfforddiant gorfodol er mwyn gwella materion o'r fath.
Roedd strwythur rheoli addas ar waith ynghyd â llinellau adrodd clir, ac roedd y staff yn gadarnhaol ar y cyfan ynglŷn â'u rheolwyr llinell uniongyrchol. Dywedodd y staff wrthym fod y bwrdd iechyd yn cymryd camau cadarnhaol o ran iechyd a llesiant. Fodd bynnnag, nid oedd y staff yn fodlon ar y ffordd yr ymdrinnir â materion y maent yn eu huwchgyfeirio, nac ar y lefelau staffio yn yr uned.
Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n cynnwys camau gweithredu manwl o ran sut y caiff gwelliannau eu gwneud yn yr adran achosion brys.
Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:
Mae'r pwysau ar wasanaethau'r GIG yn parhau i fod yn uchel iawn ac fel mewn arolygiadau eraill o Adrannau Achosion Brys rydym wedi'u cynnal, gwelsom dystiolaeth unwaith eto o wasanaeth sy'n ei chael hi'n anodd ateb y galw a sicrhau diogelwch cleifion gyda'r adnoddau sydd ar gael. Rwy'n cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff yn y gwasanaeth hwn ac mae ein hadroddiad yn rhoi cyfle i dynnu sylw at yr heriau y mae cleifion a staff yn y gwasanaeth hwn yn eu hwynebu bob dydd. Bydd yr argymhellion penodol gennym, sy'n nodi camau gweithredu i'w cymryd, yn helpu'r bwrdd iechyd i leihau risgiau i gleifion a staff tra bydd yn parhau i wynebu'r cyfnod heriol hwn. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.
Rhagfyr 2022 - Arolygiad Ysbyty - Adran Achosion Brys, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin
Rhagfyr 2022 - Adroddiad Cryno ar yr Arolygiad - Adran Achosion Brys, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin