AGIC yn mynychu Cynhadledd Comisiwn Bevan
Y mis hwn, mynychodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ‘Cynhadledd y Pwynt Tyngedfennol: Lle nesaf i iechyd a gofal?’ a drefnwyd gan Comisiwn Bevan, sef melin drafod blaenllaw ar iechyd a gofal yng Nghymru.
Roedd y gynhadledd a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd yn cynnwys dau ddiwrnod eithriadol wedi'i lenwi â siaradwyr rhyngwladol amlwg a oedd yn gobeithio herio, newid a hyrwyddo dyfodol y maes iechyd a gofal.
Fel arddangoswyr, bu i'n cynrychiolwyr arddangos cylchoedd gwaith AGIC er mwyn codi ymwybyddiaeth a rhwydweithio â chynrychiolwyr o sefydliadau iechyd a gofal rhyngwladol. Roedd y gynhadledd yn cynnig llwyfan i arddangos dulliau arloesi llwyddiannus, i fabwysiadu sgyrsiau gwrol ac i ysgogi cyd-gamau system gyfan i wella iechyd a llesiant.
Dywedodd Rebecca Jewell, Pennaeth Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
Roedd yn bleser cael mynychu digwyddiad mor ddiddorol a oedd yn procio'r meddwl, a gwnaeth yr agwedd gadarnhaol a'r arloesedd a oedd yn amlwg yn y gynhadledd gryn argraff arnaf.
Yn arbennig, roeddwn wrth fy modd yn clywed am y mentrau sydd ar waith i ddiwallu anghenion gofal iechyd penodol yn y boblogaeth, a'r mentrau i gefnogi staff gofal iechyd.Rhoddodd y gynhadledd ymdeimlad o'r hyn y mae angen i ofal iechyd yng Nghymru ei gyflawni dros y blynyddoedd sydd i ddod, ac roedd elfen gyffredin yng nghyflwyniadau'r siaradwyr, sef y bydd yn rhaid gwneud rhai penderfyniadau anodd er mwyn diogelu'r dyfodol ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc a'r cenedlaethau i ddod.
Yn ddi-au, mae pobl yn rhan greiddiol o hyn, ac rwy'n hyderus, o ystyried agweddau cadarnhaol a thosturiol y staff gofal iechyd a gwrddais, y byddwn yn gallu ysgogi gwelliannau ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru.