Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydym ni’n ei wneud

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yw'r arolygiaeth a'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn arolygu gwasanaethau GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau i amlygu meysydd sydd angen eu gwella.

Ein diben

Gwirio bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu darparu mewn ffordd sy’n mwyafu iechyd a llesiant pobl

Ein gwerthoedd

Mae pobl wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei wneud. Rydym yn:

  • Annibynnol - rydym yn ddiduedd, yn penderfynu pa waith rydym yn ei wneud a lle rydym yn ei wneud
  • Gwrthrychol - rydym yn rhesymol ac yn deg ac yn gweithredu ar sail tystiolaeth
  • Pendant - rydym yn gwneud dyfarniadau clir ac yn cymryd camau i wella safonau gwael ac amlygu’r arferion da rydym yn dod ar eu traws
  • Cynhwysol - rydym yn gwerthfawrogi ac yn annog cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy ein gwaith
  • Cymesur - rydym yn ystwyth ac rydym yn gwneud ein gwaith lle mae o’r pwys mwyaf

Ein nod

Bod yn llais dibynadwy sy’n ysgogi gwelliant mewn gofal iechyd ac sy’n dylanwadu arno

Ein blaenoriaethau

  • Byddwn yn canolbwyntio ar ansawdd y gofal iechyd a ddarperir i bobl a chymunedau wrth iddynt gyrchu a defnyddio gwasanaethau a symud rhyngddynt

  • Byddwn yn addasu ein dull gweithredu i sicrhau ein bod yn ymatebol i risgiau i ddiogelwch cleifion sy’n dod i’r amlwg

  • Byddwn yn cydweithio er mwyn ysgogi’r gwaith o wella systemau a gwasanaethau ym maes gofal iechyd

  • Byddwn yn cefnogi ac yn datblygu ein gweithlu i’w galluogi, a’r sefydliad, i gyflawni ein blaenoriaethau.