Angen cysylltu â ni dros gyfnod y Nadolig?
Gwybodaeth am ein hamseroedd agor dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a sut gallwch gysylltu â ni
Dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, byddwn ar agor fel yr arfer o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm, heblaw am y dyddiadau canlynol:
- Rhagfyr 25, 26 a 27 - Ar gau
- Ionawr 1 - Ar gau
Byddwn ar agor fel yr arfer eto ar 2 Ionawr.
Beth i'w wneud os bydd gennych chi bryder
Os byddwch yn pryderu am y gofal rydych chi, aelod o'ch teulu neu ffrind wedi derbyn neu'n derbyn ar hyn o bryd, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol i drafod eich pryderon.
Yna os byddwch eisiau ein hysbysu am eich pryder, llenwch eich ffurflen gysylltu.
Os ydych chi yn weithwyr gofal iechyd ac eisiau codi pryder
Os bydd gennych bryderon am rywbeth sy'n digwydd lle rydych chi'n gweithio a allai effeithio ar gleifion, eich cydweithwyr, neu'r sefydliad cyfan, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar ein tudalen chwythu'r chwiban.
Cyfeiriad diogelu
Os byddwch yn pryderu bod plentyn neu oedolyn yn eich teulu neu'r gymuned mewn perygl o niwed, trais neu esgeulustod, gallwch gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol yn eich ardal i roi gwybod am bryder diogelu. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael manylion cyswllt.