Angen gwella gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Singleton yn Abertawe ar unwaith
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad, 15 Rhagfyr, yn dilyn arolygiad o'r uned famolaeth yn Ysbyty Singleton yn Abertawe.
Cwblhaodd arolygwyr arolygiad dirybudd o wasanaethau mamolaeth yr ysbyty, a gaiff ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ar dri diwrnod dilynol ym mis Medi 2023. Yn ystod yr arolygiad o'r wardiau cynenedigol, esgor a gofal ôl-enedigol, nododd yr arolygwyr bryderon sylweddol o ran diogelwch cleifion, ac anfonwyd llythyr sicrwydd ar unwaith i'r bwrdd iechyd.
Gwnaethom nodi materion a oedd yn gysylltiedig â sawl agwedd ar y broses o ddarparu gofal diogel ac effeithiol yn yr uned. Ni chafodd yr arolygwyr sicrwydd fod y prosesau a'r systemau a oedd ar waith yn ddigonol i sicrhau bod cleifion yn cael gofal o safon dderbyniol yn gyson. Mae hyn yn cynnwys y trefniadau ar gyfer sicrhau glendid, gwiriadau rheolaidd o gyfarpar achub bywyd hanfodol, storio meddyginiaethau yn ddiogel a materion diogelwch sy'n gysylltiedig ag amgylchedd yr ysbyty. Nodwyd gennym nad oedd lefelau staffio diogel bob amser yn cael eu cyrraedd, lefelau cydymffurfiaeth isel â hyfforddiant gorfodol a mesurau diogelwch annigonol i sicrhau bod babanod yn cael eu cadw'n ddiogel.
Nododd yr arolygwyr fod y staff yn gweithio'n galed i roi profiad cadarnhaol i fenywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth, a'u teuluoedd, er gwaethaf y pwysau parhaus ar yr adran. Gwelwyd aelodau o'r staff yn rhoi gofal caredig, llawn parch, ac roedd yr unigolion hynny y gwnaethom siarad â nhw yn canmol y gofal roeddent yn ei gael gan y staff ar y cyfan. Gwelodd yr arolygwyr drefniadau gweithio da gan y tîm amlddisgyblaethol ar draws gwasanaethau fel y gwasanaethau newyddenedigol, fferylliaeth, theatrau ac anestheteg, ac roedd y staff yn cefnogi'r menywod a'u partneriaid ac yn cyfathrebu â nhw'n effeithiol. Codwyd pryderon o ran argaeledd staff i roi cymorth i'r rhai hynny sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Nododd rhai o'r menywod y gwnaethom siarad â nhw ar y ward ôl-enedigol nad oeddent bob amser wedi cael meddyginiaethau lleddfu poen mewn modd amserol pan oedd eu hangen arnynt. Yn eu barn nhw, prinder staff a llwythi gwaith uchel oedd yn gyfrifol am hyn.
Roedd adborth gan y staff yn adlewyrchu effaith cyfnodau parhaus o bwysau, gyda llai na'u hanner yn cytuno y byddent yn fodlon ar y safon o ofal a ddarperir gan yr ysbyty iddynt eu hunain neu eu hanwyliaid. Dywedodd aelodau o'r staff bydwreigiaeth wrthym hefyd eu bod yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'u llwythi gwaith, a'u bod yn pryderu am eu hiechyd a'u llesiant personol. Nododd yr arolygwyr fod y timau yn gweithio'n galed i gefnogi ei gilydd o dan yr amgylchiadau anodd hyn.
Rolau dros dro oedd y rhan fwyaf o'r rolau arweinyddiaeth yn yr adran a bu'n anodd sicrhau tîm arwain sefydlog yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Cawsom wybod fod mesurau ychwanegol ar waith i gefnogi'r tîm arwain interim, gan gynnwys trefniadau mentora a hyfforddi gan gymheiriaid.
Dywedodd aelodau allweddol o'r staff clinigol wrthym nad oeddent yn ymwybodol o'r broses ffurfiol ar gyfer codi pryderon am lefelau staffio neu faterion eraill. Rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod gweithdrefnau cynhwysfawr ac effeithiol mewn perthynas ag uwchgyfeirio problemau staffio yn cael eu dilyn a'u cyfleu i bob aelod o staff clinigol. Rhaid i hyn gynnwys canllawiau clir ar y broses i'w dilyn pan gaiff lefelau staffio anniogel eu nodi.
Oherwydd ein pryderon, gwnaethom gyhoeddi llythyr Sicrwydd ar Unwaith, gan ysgrifennu i'r bwrdd iechyd yn syth ar ôl ein harolygiad yn gofyn am gamau unioni brys.
Mae AGIC wedi parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd ers yr arolygiad ac wedi derbyn cynllun gwella cynhwysfawr sy'n ceisio mynd i'r afael â'r holl faterion a nodwyd.
Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:
Nododd ein harolygiad feysydd i'w gwella a oedd yn peri risg i'r cleifion a'r staff yn uned famolaeth Ysbyty Singleton. Rydym yn ymwybodol o'r pwysau parhaus ar wasanaethau'r GIG, ac mae'n galonogol clywed bod y staff yn ymrwymedig i sicrhau eu bod yn darparu profiad cadarnhaol i'r menywod a'r bobl sy'n rhoi genedigaeth er gwaethaf y pwysau hwn. Nodwyd bod angen gwelliannau ar unwaith yn ystod ein harolygiad, ac rwy'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i weithredu ar fyrder, nid yn unig er budd mamau beichiog a mamau newydd ond hefyd er budd staff yr uned famolaeth.