Angen gwella Ward Iechyd Meddwl arbenigol yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o ward iechyd meddwl yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli. Mae Ward Bryngolau sy'n cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gofal iechyd meddwl arbenigol a gwasanaethau i oedolion hŷn.
Nododd yr arolygiad sawl maes y mae angen eu gwella ar unwaith i sicrhau diogelwch y cleifion, y staff a'r ymwelwyr. Roedd pryderon allweddol yn cynnwys ardaloedd anniogel, megis drysau tân yn cael eu cadw ar agor, ardaloedd anniben ger allanfeydd tân, a chanllawiau wedi torri. Er yr aethpwyd i'r afael â rhai o'r materion yn ystod yr arolygiad, gwelodd yr arolygwyr fod angen prosesau llywodraethu cryfach i nodi a rheoli risgiau yn effeithiol. Mae arolygwyr wedi argymell adolygiad llawn o'r gweithdrefnau archwilio a rheoli risgiau.
Er bod proses archwilio ar gyfer pwyntiau clymu gyfredol ar waith ar y ward, nid oedd yn nodi pob risg clymu, gan gynnwys rhai ardaloedd a nodwyd yn ystod yr arolygiad. Mae angen rhoi sylw pellach i sicrhau bod y staff yn nodi ac yn mynd i'r afael â'r holl bwyntiau risg clymu i gynnal diogelwch y cleifion.
Codwyd rhagor o bryderon mewn perthynas â chofnodi digwyddiadau atal yn gorfforol. Er bod mwy na 80% o'r staff wedi cwblhau hyfforddiant ar Leihau Arferion Cyfyngol, nid oedd y data'n cynnwys digon o fanylion ar y staff a fu'n rhan o'r digwyddiadau atal yn gorfforol, sy'n ei gwneud hi'n anoddach cadarnhau p'un ai staff sydd wedi'u hyfforddi yn unig a oedd yn rhan o'r arferion hyn. Mae arolygwyr wedi argymell gwelliannau i drefniadau cadw cofnodion o'r staff sy'n rhan o'r digwyddiadau hyn i wella atebolrwydd.
Er gwaethaf y pryderon hyn, gwelwyd y staff yn trin y cleifion â charedigrwydd, parch a brwdfrydedd. Rhoddodd y cleifion adborth cadarnhaol am y gofal a'r driniaeth a gawsant, gan nodi bod y staff yn cynnal eu hurddas a'u parch. Ar ben hynny, gwelodd yr arolygwyr fod y staff yn dangos dealltwriaeth gref o'r gweithdrefnau diogelu a'r protocolau adrodd.
Gwnaed argymhellion ar gyfer rhaglen strwythuredig o weithgareddau therapiwtig i gefnogi proses llesiant ac adsefydlu'r cleifion. Awgrymwyd gwelliannau amgylcheddol hefyd, gan gynnwys ail-osod y byrddau synhwyraidd, gwella hygyrchedd yr ardd, a gwella'r lleoliad therapiwtig yn gyffredinol.
Roedd y lefelau cydymffurfiaeth â hyfforddiant yn uchel, ac roedd 95% o'r staff wedi cwblhau hyfforddiant ar Gynnal Bywyd Sylfaenol. Fodd bynnag, roedd y lefelau ar gyfer hyfforddiant ar Gynnal Bywyd Brys yn sylweddol is ar 33%. Mae'r arolygwyr wedi dweud bod angen gweithredu ar unwaith i fynd i'r afael â'r bwlch hwn a sicrhau bod y staff yn derbyn ac yn cwblhau hyfforddiant gorfodol.
Nododd Asesiad Risg Tân o fis Hydref 2023 sawl mater risg uchel, gan gynnwys trefniadau amhriodol i storio silindrau ocsigen. Yn ystod yr arolygiad, gwelsom nad oedd pum silindr ocsigen yn ddiogel, gan arwain at risg iechyd a diogelwch. Cafodd materion hefyd eu nodi mewn arferion Atal a Rheoli Heintiau, gan gynnwys storio gwastraff clinigol yn amhriodol ac eitemau bwyd heb eu labelu. Er bod nifer uchel o staff yn cydymffurfio â hyfforddiant Atal a Rheoli Heintiau, mae angen gwneud rhagor o waith i sicrhau cydymffurfiaeth gyson â safonau Atal a Rheoli Heintiau ym mhob rhan o'r ward.
Er bod y trefniadau rheoli meddyginiaethau yn gadarn ar y cyfan, nododd yr arolygwyr nad oedd lluniau o gleifion i'w gweld ar y cofnodion meddyginiaeth, sy'n peri risg bosibl o wallau. Nodwyd hefyd fod bylchau mewn gwiriadau ar ôl i gleifion gael eu tawelyddu'n gyflym, a bod angen cadw cofnodion gwell a chydymffurfio â phrotocolau monitro.
Datgelodd adborth y staff bryderon ynghylch cyfathrebu a gwelededd yr uwch-dîm rheoli ar y ward, gyda rhai o'r staff yn nodi anfodlonrwydd a morâl isel. Roedd y lefelau staffio yn broblem gritigol, gyda diffygion aml a dibyniaeth fawr ar staff asiantaeth a staff banc. Argymhellwyd y dylid cynnal adolygiad sefydliadol i sicrhau lefelau staffio a setiau sgiliau priodol.
Mae ein hadroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion gyda'r nod o fynd i'r afael â'r materion hyn. Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd y bwrdd iechyd wrth roi'r newidiadau hyn ar waith.
Dywedodd y Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:
Tynnodd yr arolygiad hwn sylw at feysydd y mae angen eu gwella ar unwaith i sicrhau diogelwch a llesiant y cleifion, y staff, a'r ymwelwyr ar Ward Bryngolau. Er ei bod yn galonogol gweld yr ymroddiad a'r tosturi a ddangosir gan y staff, mae angen dybryd i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â llywodraethu, lefelau staffio, a'r amgylchedd cyffredinol i gefnogi gofal diogel ac effeithiol. Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda'r bwrdd iechyd i roi'r newidiadau angenrheidiol ar waith ac i wella gofal y cleifion. Bydd ein hargymhellion yn helpu i atgyfnerthu'r gefnogaeth a gaiff y staff, gwella'r trefniadau llywodraethu, a chreu amgylchedd diogel a therapiwtig i bawb.
Medi 2024 - Arolygiad o Wasanaeth Iechyd Meddwl - Ward Bryngolau, Ysbyty Tywysog Philip