Neidio i'r prif gynnwy

Angen gwelliant sylweddol mewn cyfleuster iechyd meddwl ym Mhontypridd

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad o'r gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cael eu darparu yn Heatherwood Court ym Mhontypridd, a gaiff ei reoli gan Iris Care Group.

Heatherwood Court - Ysbyty Iechyd Meddwl

Cynhaliwyd yr arolygiad dros dri diwrnod ym mis Rhagfyr 2023, gan ganolbwyntio ar wardiau Caernarfon, Cardigan a Chepstow. Ar hyn o bryd mae lle i 35 o bobl mewn unedau rhywedd unigol yn yr ysbyty adsefydlu diogelwch isel dan glo, sy'n cynnig triniaeth iechyd meddwl arbenigol i ddynion a merched.

Yn dilyn arolygiad blaenorol ym mis Tachwedd 2022, daeth y lleoliad yn rhan o broses Gwasanaeth sy'n Peri Pryder AGIC, a gaiff ei defnyddio lle ceir methiannau sylweddol o fewn gwasanaeth, neu pan fydd pryderon yn cronni am wasanaeth.  Yn ystod yr arolygiad diweddar, cyhoeddwyd hysbysiad sicrwydd ar unwaith oherwydd safonau glendid gwael y lleoliad a'r ffaith nad oedd hyfforddiant achub bywyd digonol ar waith i'r staff. 

Parhaodd Heatherwood Court i fod yn Wasanaeth sy'n Peri Pryder tan fis Ebrill 2024, ond ers hynny mae wedi rhoi sicrwydd digonol ynglŷn â'r gwelliannau angenrheidiol ac mae bellach wedi'i isgyfeirio o'r broses hon. 

Yn ystod yr arolygiad diweddar, gwnaethom nodi safonau glendid gwael ar bob un o'r wardiau ac nid oedd cyflwr y safle yn adlewyrchu gwasanaeth iechyd meddwl cleifion mewnol modern. Roedd sawl bwlch yn yr amserlenni glanhau ac, felly, ni allem fod yn sicr bod y cleifion yn cael eu diogelu rhag heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd.

Gwelodd yr arolygwyr staff ymroddedig a oedd yn trin y cleifion ag urddas a pharch. Rhoddodd y cleifion adborth cadarnhaol am eu profiadau, ar y cyfan, gan ganmol eu gofal a'r rhyngweithio rhyngddynt â'r staff. Roedd yn galonogol nodi bod y staff wedi cael hyfforddiant cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i'w helpu i fod yn ymwybodol o bwysigrwydd trin pob claf mewn ffordd deg. Roedd gan y cleifion raglenni gofal unigol a oedd yn adlewyrchu eu hanghenion a'u risgiau unigol. Gallent hefyd ymgysylltu a rhoi adborth ar eu gofal mewn sawl ffordd. 

Roedd mannau awyr agored, clinigau iechyd ac amrywiaeth o weithgareddau therapiwtig ar gael i'r cleifion, ar y safle ac yn y gymuned leol. Fodd bynnag, roedd yn siomedig gweld nad oedd yr Hyb Cymdeithasol, a oedd yn cynnwys cyfleusterau fel caffi a siop, ar agor mwyach. Gwnaethom ofyn i'r gwasanaeth ystyried dichonolrwydd adfer yr hyb er mwyn rhoi cyfle i'r cleifion ymlacio a chymdeithasu.

Roedd trefniadau llywodraethu sefydledig ac effeithiol ar waith i oruchwylio materion clinigol a gweithredol. Roedd gweithgareddau archwilio a systemau monitro yn helpu i sicrhau bod yr ysbyty yn canolbwyntio ar wella. Roedd y lefelau staffio yn briodol i gynnal diogelwch y cleifion ar y wardiau ar adeg yr arolygiad. Gwelsom fod prosesau effeithiol ar waith er mwyn helpu i sicrhau bod staff yr ysbyty yn diogelu'r cleifion yn briodol. Fodd bynnag, nid oedd y staff wedi cael hyfforddiant achub bywyd priodol megis technegau dadebru, er mwyn sicrhau llesiant a diogelwch y cleifion mewn argyfwng meddygol.

Roedd y gwasanaeth wedi rhoi gwybod i AGIC am wallau o ran meddyginiaeth a fu yn yr ysbyty yn ystod y misoedd cyn yr arolygiad. Fodd bynnag, roedd y gwasanaeth wedi rhoi system Cofnodion Rhoi Meddyginiaeth (siartiau MAR) electronig ar waith yn ddiweddar a nododd nad oedd unrhyw wallau o ran meddyginiaeth wedi bod ers i'r system newydd gael ei rhoi ar waith. Fodd bynnag, gwelodd yr arolygwyr rai o'r cleifion yn cael meddyginiaeth drwy hatsh yn nrws yr ystafell clinig. Rydym wedi gofyn i'r gwasanaeth adolygu'r ffordd y caiff meddyginiaeth ei rhoi er mwyn sicrhau diogelwch, preifatrwydd a chyfrinachedd y cleifion yn llwyr. At hynny, rhaid i'r oergelloedd meddyginiaeth gael eu cloi a rhaid i wiriadau dyddiol o dymheredd yr oergelloedd gael eu cwblhau er mwyn sicrhau bod meddyginiaeth yn cael ei storio ar y tymheredd a argymhellir gan y gwneuthurwr.

Dywedodd y mwyafrif o'r staff y byddent yn argymell yr uned fel lle i weithio, a gwnaethant nodi y byddent yn hapus â safon y gofal a ddarperir. Fodd bynnag, cyfeiriodd rhai aelodau o'r staff at amgylchedd gwaith gwael, gan nodi nad oes ganddynt ddigon o amser i roi'r gofal sydd ei angen ar gleifion. Argymhellodd yr arolygwyr y dylai'r gwasanaeth ymgysylltu â'r staff er mwyn deall eu safbwyntiau yn well a rhoi sicrwydd iddynt fod camau yn cael eu cymryd.

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones: 

‘Mae'r gwasanaeth yn rhoi cymorth i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac roedd yn hanfodol bod gwelliannau yn cael eu gwneud. Mae'n galonogol clywed bod y lleoliad bellach wedi'i isgyfeirio o fod yn Wasanaeth sy'n Peri Pryder. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â chwmni rheoli'r cyfleuster er mwyn sicrhau y parheir i wneud cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.’