Angen gwneud gwelliannau ar unwaith mewn Uned Iechyd Meddwl arbenigol yng Nghaerdydd
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (23 Hydref 2024) yn dilyn arolygiad tridiau o hyd yn Hafan y Coed, uned iechyd meddwl yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, a gaiff ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Roedd yr arolygiad dirybudd o'r uned ym Mhenarth yn canolbwyntio ar ddwy ward rhywedd cymysg i oedolion: Uned Asesu Argyfwng Ward Cedar ac Uned Gofal Seiciatrig Dwys Ward Alder.
Yn ystod yr arolygiad, gwnaethom nodi sawl mater a arweiniodd at geisio sicrwydd y byddai camau'n cael eu cymryd ar unwaith i wella diogelwch cleifion. Roedd hyn yn cynnwys cofnodi achosion o atal cleifion yn gorfforol yn anghywir a rhan aelodau o staff heb eu hyfforddi yn yr achosion hyn - materion a nodwyd hefyd yn ystod arolygiad blaenorol ym mis Ionawr 2023. Yn ogystal, roedd yr arolygwyr yn poeni am broblemau cynnal a chadw adeiladau a oedd yn peri risgiau iechyd a diogelwch, gan gynnwys lloriau chwyddedig a oedd yn atal drysau tân rhag cau a sawl perygl baglu.
Arsylwodd yr arolygwyr fod y tîm gofal ar y ddwy ward ond yn cynnwys dau fath o weithiwr gofal iechyd proffesiynol, a gododd pryderon am y diffyg arbenigedd amrywiol wrth wneud penderfyniadau. Gofynnwyd am gamau gweithredu ar unwaith i gynnwys ystod ehangach o ddisgyblaethau mewn penderfyniadau gofal cleifion er mwyn cyrraedd y safonau cenedlaethol.
Roedd y staff y gwnaethom siarad â nhw yn teimlo'n angerddol am eu rolau ac yn frwdfrydig ynghylch y ffordd roeddent yn cefnogi'r cleifion ac yn gofalu amdanynt. Gwelodd yr arolygwyr y staff yn trin cleifion â pharch a charedigrwydd a rhoddodd y cleifion y gwnaethom siarad â nhw adborth cadarnhaol ar eu gofal. Fodd bynnag, gwelodd yr arolygwyr achosion lle na wnaeth y staff ymateb i gleifion yr oedd angen help arnynt. Mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd ystyried ffyrdd o sicrhau bod y staff yn gallu ymgysylltu â chleifion ac ymateb yn amserol. Rydym wedi argymell y dylai'r bwrdd iechyd ystyried gosod pwyntiau galw am gymorth brys yn ystafelloedd gwely'r cleifion ac ym mhob rhan o'r wardiau.
Roedd yn gadarnhaol nodi lefel uchel o gydymffurfiaeth â'r hyfforddiant gorfodol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol ymhlith y staff. Dywedwyd wrthym fod rhai aelodau o'r staff wedi cwblhau hyfforddiant gwirfoddol ychwanegol i wella eu hymwybyddiaeth a'u dealltwriaeth o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth, a gydnabuwyd yn arfer da gennym. Fodd bynnag, nododd arolygwyr lefel isel o gydymffurfiaeth â'r hyfforddiant atal a rheoli heintiau, bylchau mewn amserlenni glanhau dyddiol, a diffyg tystiolaeth i ddangos bod y cyfleusterau cymunedol yn cael eu glanhau'n rheolaidd.
Roedd gan y ddwy ward weithdrefnau cryf ar gyfer rheoli meddyginiaethau'n ddiogel a monitro'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Er bod y broses o gadw cofnodion clinigol a chynllunio gofal cleifion yn gyffredinol dda ar Ward Alder, roedd y broses o gadw cofnodion ar Ward Cedar yn wael ar y cyfan. Roedd cynlluniau ymyrryd llawer o gleifion yn anghyflawn ac nid oeddent wedi cael eu teilwra at anghenion unigol. Mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd sefydlu prosesau llywodraethu cryf i wella ansawdd cofnodion y cleifion.
Roedd digon o staff yn y ddwy ward, ond nodwyd gennym drosiant uchel ymhlith y staff a dibyniaeth fawr ar staff asiantaeth i lenwi sifftiau gwag ar Ward Cedar. Mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd gynnal adolygiad sefydliadol er mwyn sicrhau bod niferoedd staffio, setiau sgiliau a phrofiad ymhlith y staff yn briodol i gynnal diogelwch cleifion a rhoi gofal sy'n canolbwyntio ar y claf. Gwelsom nad oedd cyfarfodydd staff y ward yn cael eu cynnal yn rheolaidd ac na fu unrhyw gyfarfodydd yn y chwe mis diwethaf cyn ein harolygiad. Mae cyfarfodydd staff rheolaidd yn bwysig i sicrhau cyfathrebu effeithiol, mynd i'r afael â phryderon, a hyrwyddo gofal cleifion cydgysylltiedig.
Roedd yn gadarnhaol gweld bod gan Ward Alder Gydgysylltydd Gweithgareddau, a bod y cleifion wedi cael gweithgareddau therapiwtig priodol. Fodd bynnag, nid oedd gan y naill ward na'r llall Therapydd Galwedigaethol, ac ni chafodd yr arolygwyr sicrwydd bod y cleifion ar Ward Cedar yn cael cynnig digon o weithgareddau er mwyn cefnogi eu hiechyd a'u llesiant. Mae angen i'r bwrdd iechyd wneud mwy i sicrhau y gall pob claf gymryd rhan mewn gweithgareddau therapiwtig a chymdeithasol wedi'u personoli i'w helpu i wella.
Roedd gan bob claf ei ystafell wely ei hun a chyfleusterau cawod, a oedd yn diogelu eu preifatrwydd a'u hurddas. Sylwodd yr arolygwyr fod cypyrddau monitro, a ddefnyddir i arsylwi ar gleifion heb i unrhyw beth darfu arnynt yn eu hystafelloedd, wedi'u gadael heb eu cloi a oedd yn amharu ar breifatrwydd, diogelwch ac urddas y cleifion. Roeddem yn poeni hefyd nad oedd gan y rhan fwyaf o'r ystafelloedd sgriniau preifatrwydd ar gyfer yr ystafelloedd ymolchi ensuite, na llenni i atal golau o ffenestri allanol ac rydym yn argymell y dylai'r rhain gael eu gosod.
Roedd y rhan fwyaf o'r staff a gwblhaodd ein holiadur yn teimlo nad oedd uwch-reolwyr yn weladwy ac nad oedd prosesau cyfathrebu rhwng yr uwch-reolwyr a'r staff yn effeithiol. Dylai'r bwrdd iechyd fyfyrio ar yr adborth hwn ac ymchwilio i b'un a ellid gwneud gwelliannau mewn perthynas â gweladwyedd rheolwyr a'r ffordd y maent yn cyfathrebu â'r staff.
Roedd prosesau sefydledig ar waith i sicrhau yr ymchwilir yn effeithiol i ddigwyddiadau neu faterion allweddol a'u bod yn cael eu huwchgyfeirio ac y creffir arnynt er mwyn sicrhau na fyddai'r broblem yn digwydd eto. Fodd bynnag, mae angen gwneud gwelliannau i sicrhau y caiff y camau gweithredu eu cwblhau'n gyflym ac y caiff gwersi a ddysgwyd eu rhannu.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
“Mae ein harolygiad diweddar yn Uned Iechyd Meddwl Hafan y Coed wedi tynnu sylw at feysydd y mae angen eu gwella ar unwaith er mwyn gwella ansawdd y gofal a ddarperir. Mae'n siomedig nad oedd rhai meysydd wedi gwella ers ein harolygiadau blaenorol, a byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau yr eir i'r afael â'r materion hyn. Fodd bynnag, mae'n galonogol gweld bod y bwrdd iechyd eisoes wedi dechrau mynd i'r afael â rhai o'r pryderon hyn, a bod y staff yn ymateb i'n hadborth.”