Neidio i'r prif gynnwy

Archwiliad Cenedlaethol o ddefnydd Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yng Nghymru

Canfyddiadau allweddol ac argymhellion ein hadolygiad ar y cyd gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ynglŷn â Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yng Nghymru.

Cynhaliwyd yr arolygiad diweddaraf yn Ebrill a Mai 2014. Roedd yn ymwneud ag arolwg o'r Byrddau Iechyd Lleol a'r awdurdodau lleol yng Nghymru. Cynhaliwyd gwaith maes hefyd yn yr holl Fyrddau Iechyd Lleol ac yn un awdurdod lleol allan o bob ôl troed Bwrdd Iechyd Lleol.  

Canfyddiadau allweddol

  • Gwnaeth yr Adolygiad ganfod enghreifftiau o arferion da ledled Cymru; mewn rhai achosion bu modd i bobl ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain yn y gymuned o'i herwydd;
  • Roedd diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r Trefniadau Diogelu, yn enwedig mewn cartrefi gofal ac ymhlith rhai staff ysbytai, er bod y sefyllfa mewn ysbytai yn gwella. Roedd rhai yn teimlo y byddai gwneud cais yn adlewyrchu'n wael ar eu sefydliad, yn hytrach na bod yn ffordd o gefnogi pobl heb alluedd meddyliol a'u teuluoedd i wneud penderfyniadau am eu gofal a threfniadau cymorth;
  • Roedd hyfforddiant a datblygu sgiliau ar gyfer staff sy'n chwarae rhan mewn darparu'r Ddeddf Galluedd Meddyliol (MCA) a Threfniadau Diogelu yn dameidiog iawn;
  • Roedd defnyddio amodau a oedd yn gysylltiedig â'r Trefniadau Diogelu yn amrywio llawer a phrin yr oedd rhai ardaloedd yn eu defnyddio;
  • Nid oedd gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd bob amser ar gael mewn fformat clir;
  • Swyddogaeth cydgysylltwyr Trefniadau Diogelu mewn ysbytai ac awdurdodau lleol a'u hymroddiad personol gafodd yr effaith fwyaf ar ansawdd a nifer y ceisiadau.