Arolygiad AGIC yn nodi nad yw cleifion yn cael gofal o safon dderbyniol yn adran achosion brys Ysbyty'r Faenor
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (10 Tachwedd 2022) yn nodi'r angen am welliannau brys yn adran achosion brys Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân.
Nododd arolygiad gan AGIC nad oedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan drefniadau digonol ar waith yn yr adran i sicrhau bod gofal iechyd diogel yn cael ei ddarparu.
Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd o'r adran achosion brys ar dri diwrnod dilynol ym mis Awst eleni. Yn ystod yr arolygiad ar y safle, ni chafodd arolygwyr AGIC sicrwydd fod y prosesau a'r systemau a oedd ar waith yn ddigonol i sicrhau bod y cleifion yn cael gofal o safon dderbyniol yn gyson.
Nododd y tîm arolygu nifer o faterion y mae angen sicrwydd ar unwaith yn eu cylch a chyfeirir at y materion hynny yn yr adroddiad. Maent yn cynnwys y risg o groes-halogi mewn ardal y cyfeirir ati fel y ‘coridor COVID’, y ffaith nad oedd cyfarpar dadebru yn cael ei archwilio bob dydd, ein bod wedi dod o hyd i feddyginiaethau a oedd wedi dyddio a diffyg diogelwch mewn perthynas â sylweddau a allai fod yn niweidiol i'r cleifion – gan gynnwys meddyginiaeth a phadiau presgripsiwn.
Arsylwodd yr arolygwyr ar staff a oedd yn ceisio darparu gofal diogel ac effeithiol o ansawdd da i'r cleifion, o fewn uned heriol a phrysur. Dywedodd y cleifion wrth yr arolygwyr eu bod yn fodlon ar y ffordd roedd y staff yn rhyngweithio â nhw, gan ganmol ymroddiad y staff a'r gofal a ddarparwyd. Roedd llawer o'r cleifion yn feirniadol am amseroedd aros yr adran.
Dangosodd sylwadau gan y staff nad oeddent bob amser yn gallu darparu gofal i'r safon roeddent am ei chyrraedd oherwydd y pwysau a'r galw cynyddol ar yr adran. Nododd ein canfyddiadau fod rheolaeth ac arweinyddiaeth yn dda, gyda'r staff yn datgan eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi. Roedd rheolwyr i'w gweld yn yr adran, gan gynnwys y nyrs â chyfrifoldeb yr oedd yn hawdd ei hadnabod a mynd ati.
Roedd angen nifer o welliannau i sicrhau y gellid darparu gofal urddasol ac amserol i'r cleifion. Mae hyn yn cynnwys gwaith i amgylchedd ffisegol yr ystafell aros er mwyn sicrhau ei bod yn addas at y diben. Mae'r ardal yn fach iawn ac yn gyfyng, ac yn ystod yr arolygiad, roedd rhai o'r cleifion wedi bod yn aros ar gadeiriau anghyfforddus, ac yng nghefn ambiwlansys, am dros 15 awr. Hyd nes y gellir gwella llif y cleifion i mewn i'r adran a thrwyddi, bydd y bwrdd iechyd yn ei chael hi'n anodd ymdrin â nifer o'n pryderon.
Yn ogystal â'r meysydd lle mae angen cymryd camau ar unwaith er mwyn cadw cleifion yn ddiogel, mae AGIC wedi erfyn ar y bwrdd iechyd i ystyried holl ganfyddiadau'r adroddiad hwn yn ofalus ac i gymryd camau i leihau'r potensial o niwed sylweddol i gleifion a rhoi'r holl welliannau ar waith.
Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:
Mae canfyddiadau ein harolygiad yn destun pryder sylweddol ac rydym wedi erfyn ar y bwrdd iechyd i gymryd camau i wella'r prosesau a'r systemau sydd ar waith yn yr adran achosion brys er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael gofal diogel, amserol ac effeithiol. Gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn cyflymu'r camau a gymerir er mwyn ysgogi gwelliannau amserol. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau y caiff gwelliannau cadarn eu gwneud ac y ceir tystiolaeth o'r gwelliannau hynny.