Arolygiad o Adran Achosion Brys Ysbyty Athrofaol y Faenor yn Dangos Cynnydd a Heriau Parhaus
Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) arolygiad dirybudd o Adran Achosion Brys Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân, sy'n cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Nododd yr arolygiad, a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod ym mis Hydref 2024, heriau systemig parhaus sy'n effeithio ar y gallu i ddarparu gofal diogel cyson, ond nododd hefyd gynnydd cadarnhaol ers arolygiad blaenorol yr adran yn 2022.
Roedd yn siomedig nodi bod yr ystafell aros a'r dderbynfa gorlawn yn parhau i amharu ar breifatrwydd ac urddas cleifion a'u gallu i gael gofal amserol. Roedd oedi o ran llif cleifion yn ychwanegu at hyn, wedi'i achosi'n bennaf gan heriau o ran rhyddhau cleifion ar draws y system gyfan sy'n effeithio ar yr adran.
Roedd yr arolygwyr yn pryderu am oruchwyliaeth annigonol staff yn yr ardaloedd aros, oedi cyn cwblhau asesiadau risg, ac achosion lle nad oedd cleifion wedi cael meddyginiaeth lleddfu poen mewn modd amserol. Gofynnodd AGIC am i welliannau gael eu gwneud ar unwaith mewn perthynas ag asesiadau risg, rheoli meddyginiaeth, a gwiriadau o gyfarpar.
Roedd gwelliannau wedi'u gwneud ers ein harolygiad blaenorol, gan gynnwys cyflwyno system frysbennu electronig sydd wedi helpu i wella effeithlonrwydd prosesau brysbennu cleifion, a'r gwaith sy'n mynd rhagddo i adeiladu ardal aros estynedig, gyda'r nod o atal gorlenwi a gwella gwelededd staff.
Er bod pwysau ar lefelau staff nyrsio o hyd, mae'r rhain wedi sefydlogi ers yr arolygiad blaenorol, gyda llai o ddibyniaeth ar staff asiantaeth a chyfraddau cadw gwell. Nododd yr arolygwyr effaith mwy o hyfforddiant a mentrau cymorth, gan gynnwys nyrs datblygu ymarfer ddynodedig. Mae dros 85% o'r staff wedi cwblhau hyfforddiant gorfodol, ac mae systemau i gasglu adborth gan gleifion, fel codau QR, bellach ar waith er mwyn helpu i wella gwasanaethau.
Er gwaethaf y gwelliannau hyn, mae pwysau systemig o hyd. Roedd statws uwchgyfeirio uchel parhaus ar draws y bwrdd iechyd ar adeg ein harolygiad, gydag oedi cyn rhyddhau hyd at 400 o gleifion. Mae gwaith adnewyddu yn mynd rhagddo yn ardal aros yr adran ond ni fydd wedi'i gwblhau tan y gwanwyn 2025, gan olygu na chaiff y pwysau ei liniaru ar unwaith.
Canmolodd yr arolygwyr broffesiynoldeb, tosturi ac ymrwymiad y staff i ddarparu gofal o dan amodau heriol. Fodd bynnag, mae'r adran yn dal i fod dan bwysau, ac mae materion systemig o fewn y bwrdd iechyd a'r GIG ehangach yn parhau i effeithio ar y gallu i ddarparu gofal cyson.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
"Mae'r arolygiad hwn yn dangos ymroddiad y staff sy'n gweithio dan bwysau enfawr a'r heriau sylweddol a wynebir o hyd o ran darparu gofal diogel, amserol ac urddasol. Mae'n galonogol gweld y cynnydd y mae'r adran yn ei wneud, ond mae angen gwneud ragor o welliannau ar frys er mwyn mynd i'r afael â'r materion systemig sy'n effeithio ar lif cleifion a'r gofal a ddarperir. Bydd AGIC yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod y newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud, fel bod cleifion yn cael y gofal o ansawdd uchel y maent yn ei haeddu."
Hydref 2024 - Arolygiad Ysbyty - Adran Achosion Brys - Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbrân