Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiad yn canfod bod angen gwneud mwy o welliannau yng ngwasanaethau mamolaeth ysbyty mwyaf Caerdydd

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (21 Mehefin 2024) yn dilyn arolygiad o'r Uned Famolaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a gaiff ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Ysbyty Athrofaol Cymru - Gwasanaethau Mamolaeth

Cwblhaodd arolygwyr yr arolygiad dirybudd o wasanaethau mamolaeth yr ysbyty dros gyfnod o dri diwrnod dilynol ym mis Mawrth 2024, gan adolygu wardiau amrywiol yn cynnwys yr Ystafelloedd Geni, y Ganolfan Geni, wardiau mamolaeth sy'n darparu gofal cynenedigol a gofal ôl-enedigol a'r theatrau llawfeddygol. 

Yn gyffredinol, gwelsom fod gwelliannau wedi cael eu gwneud ers ein harolygiad blaenorol ym mis Mawrth 2023 i sicrhau bod yr uned yn darparu gofal diogel ac effeithiol. Canfu'r arolygwyr fod morâl y staff wedi gwella yn dilyn cynnydd mewn adnoddau, a phan ofynnwyd iddynt, dywedodd y cleifion wrthym eu bod yn hapus â lefel y gofal a oedd yn cael ei ddarparu. Fodd bynnag, ni chafodd yr arolygwyr sicrwydd bod y prosesau a'r systemau a oedd ar waith yn ddigonol, a gofynnwyd am sicrwydd ar unwaith mewn perthynas â'r gweithdrefnau atal a rheoli heintiau, dogfennaeth rheoli meddyginiaethau anghyson a mesurau diogelwch annigonol ar y wardiau. 

Gwelwyd y staff yn darparu gofal caredig a pharchus ac yn gweithio'n dda fel tîm i gynnig profiad cadarnhaol i'r menywod a'r bobl a oedd yn rhoi genedigaeth a oedd wedi'i deilwra at yr unigolyn ac yn canolbwyntio ar eu hanghenion. Pan ofynnwyd iddynt, dywedodd y menywod a'r bobl a oedd yn rhoi genedigaeth eu bod wedi cael profiad ‘da iawn’ neu ‘dda’. Nododd yr arolygwyr fod gan yr uned amrywiaeth eang o fentrau arferion da i gefnogi anghenion unigol cleifion, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl arbenigol, ymwybyddiaeth o amrywiaeth a chynhwysiant drwy ddulliau cyfathrebu gwahanol, a gofal profedigaeth wedi'i deilwra at yr unigolyn. Roedd yn gadarnhaol nodi bod mentrau i wella profiad cleifion Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol wedi'i ymgorffori a'i ddatblygu ymhellach.

Nodwyd nifer o bryderon am ddiffyg cydymffurfio yn ymwneud â diogelwch cleifion yn ystod yr arolygiad. Gofynnwyd am sicrwydd ar unwaith mewn perthynas â'r mesurau diogelwch a oedd ar waith i sicrhau bod babanod yn cael eu cadw'n ddiogel, gwiriadau dyddiol anghyson o'r cyfarpar achub bywyd, y broses o reoli cyffuriau a reolir a'r risgiau cynyddol o haint; gan gynnwys sicrhau bod partneriaid geni yn gwisgo sgrybs cyn mynd i mewn i'r theatr. 

Gwelsom fod rhai gwelliannau wedi'u gwneud yn ardal y ward ar gyfer Ysgogi'r Cyfnod Esgor ers ein harolygiad blaenorol ym mis Mawrth 2023. Roedd arweinydd newydd wedi'i benodi ar gyfer Ysgogi'r Cyfnod Esgor ac roedd y lefelau staffio wedi cael eu newid er mwyn gallu rhoi mwy o gymorth i fenywod yn yr ardal hon. Roedd y tîm arolygu yn falch o weld bod ystafelloedd ochr wedi cael eu hychwanegu ers yr arolygiad diwethaf, a oedd yn cynnig preifatrwydd i fenywod a'u partneriaid geni. 

Yn ystod yr arolygiad, gwelsom nifer o bryderon am ddiogelwch yn ymwneud ag amgylchedd ffisegol yr uned. Dywedodd y staff wrthym am broblemau parhaus yn ymwneud â dŵr yn gollwng o'r to gwastad a bwcedi o ddŵr glaw yn y coridorau, gan gynnwys y theatrau. Gwelsom rywfaint o dystiolaeth bod y problemau parhaus hyn wedi cael eu huwchgyfeirio, bod asesiadau risg wedi cael eu cynnal yn eu cylch. 

Roedd strwythur rheoli cymharol newydd ar waith ac roedd y rheolwyr yn ymddangos yn hawdd mynd atynt ac yn weladwy yn yr uned. Roedd adborth gan staff yn awgrymu bod morâl a phrosesau cyfathrebu wedi gwella. Fodd bynnag, dywedodd rhai o'r staff wrthym eu bod yn teimlo bod heriau o ran lefelau staffio yn ei gwneud hi'n anodd iddynt gyflawni eu dyletswyddau yn iawn. 

 Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Roedd yn gadarnhaol gweld bod gwelliannau wedi’u gwneud ers ein harolygiad blaenorol, gyda sawl enghraifft o arfer da. Rhaid mynd i'r afael â'r pryderon a nodwyd er mwyn sicrhau bod ansawdd y gofal a ddarperir i fenywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth yn parhau i wella. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd amserol yn erbyn ein canfyddiadau.

Mawrth 2024 - Adroddiad Arolygu Ysbyty - Uned Famolaeth, Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd