Arolygiad yn canfod gofal o safon dda mewn ysbyty anhwylderau bwyta yng Nglynebwy
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (25 Gorffennaf 2024) yn dilyn arolygiad o Ysbyty Tŷ Glyn Ebwy yng Nglynebwy, sy'n cael ei redeg gan Elysium Healthcare.
Mae Tŷ Glyn Ebwy wedi agor i gleifion yn ddiweddar fel gwasanaeth arbenigol annibynnol sy'n darparu gofal a thriniaeth i gleifion benywaidd dros 18 oed ag anhwylderau bwyta. Cwblhaodd arolygwyr arolygiad dirybudd o wasanaeth iechyd meddwl yn yr ysbyty newydd dros dri diwrnod yn olynol ym mis Ebrill 2024, gan arolygu Ward Meadow sy'n cynnwys 15 o welyau. Caeodd Ysbyty Hillview, y gwasanaeth iechyd meddwl blaenorol a oedd hefyd yn cael ei redeg gan Elysium Healthcare yn y cyfeiriad hwn, ym mis Mehefin 2023.
Gwelsom dîm o staff ymroddedig a oedd yn ymrwymedig i ddarparu gofal o safon uchel i'r cleifion. Gwelsom y staff yn rhyngweithio'n barchus â'r cleifion drwy gydol yr arolygiad ac roedd y cleifion y gwnaethom siarad â nhw yn canmol y staff a'r gofal a ddarperir iddynt.
Roedd yn gadarnhaol gweld bod gan y cleifion ystafelloedd en-suite a oedd yn cynnig safon dda o breifatrwydd ac urddas. Roedd panel gweld ar ddrws pob ystafell wely a oedd yn galluogi'r staff i arsylwi o'r coridor heb agor y drws, er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y cleifion pan fyddent yn cysgu. Gallai'r cleifion newid a rheoli'r panel arsylwi hefyd.
Roedd amrywiaeth o gyfleusterau ar gael yn Ysbyty Tŷ Glyn Ebwy i gefnogi'r broses o ddarparu therapïau a chynnal gweithgareddau. Gwelsom y cleifion yn yr ysbyty yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau drwy gydol yr arolygiad. Ymhlith y gweithgareddau hyn roedd celf a chrefft, clwb garddio a gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar. Fodd bynnag, dywedodd y cleifion wrthym y byddai gweithgareddau mwy therapiwtig sy'n berthnasol i anhwylderau bwyta ac adfer yn fuddiol iddynt. Yn ogystal, dywedodd y cleifion a'u teuluoedd wrthym y byddent yn hoffi gweld mwy o weithgareddau'n cael eu cynnig dros y penwythnos.
Yn ystod yr arolygiad, roedd dryswch ynghylch a allai'r cleifion gloi eu hystafelloedd gwely. Fodd bynnag, roedd hyn yn opsiwn i'r cleifion, er nad oedd rhai o'r staff yn ymwybodol o'r weithdrefn hon. Rhaid i'r darparwr cofrestredig sicrhau bod y staff a'r cleifion yn gwbl ymwybodol o argaeledd allweddi'r ystafelloedd.
Nododd yr arolygwyr y gellid gwneud gwelliannau i leihau'r risg bosibl i fywyd o ganlyniad i ddeunydd clymu. Ar noson gyntaf yr arolygiad, bu rhywfaint o oedi cyn i'r staff ddod o hyd i'r torwyr clymau pan ofynnwyd iddynt wneud hynny. Rhaid i'r darparwr cofrestredig sicrhau bod pob aelod o'r staff yn gwybod ble mae'r torwyr clymau'n cael eu cadw a bod modd cael gafael arnynt yn hawdd mewn argyfwng.
Roedd y staff y gwnaethom siarad â nhw yn frwdfrydig am eu rolau a'r modd roeddent yn cefnogi'r cleifion ac yn gofalu amdanynt. Gwelsom y staff yn cymryd amser i siarad â'r cleifion ac yn mynd i'r afael ag unrhyw anghenion neu bryderon a godwyd ganddynt. Roedd hyn yn dangos bod gan y staff agweddau ymatebol a gofalgar tuag at y cleifion. Gallai'r staff ddisgrifio eu rolau ac roeddent yn ymddangos yn wybodus am anghenion gofal y rhan fwyaf o'r cleifion roeddent yn gyfrifol amdanynt. Dywedodd yr uwch-aelodau o'r staff wrthym y byddai'n fuddiol i'r gweithlu gael hyfforddiant ychwanegol er mwyn meithrin y sgiliau arbenigol sydd eu hangen i ofalu am grŵp cymhleth o gleifion.
Fodd bynnag, nodwyd nad oedd y staff yn ymgysylltu â'r cleifion wrth fwyta yn ystod amseroedd bwyd. Nodwyd bod rhai cleifion yn amlwg yn ei chael hi'n anodd gorffen eu bwyd ac nad oedd y staff yn defnyddio unrhyw dechnegau i reoli gofid na chefnogi'r cleifion. Yn ogystal, gwelsom nad oedd y cleifion yn cael unrhyw gymorth cyn i'w prydau bwyd gael eu gweini. Oherwydd natur y driniaeth a ddarperir i'r cleifion yn yr ysbyty, mae'n bwysig bod y staff yn cael hyfforddiant digonol i'w galluogi i ddarparu cymorth i'r cleifion cyn ac ar ôl prydau bwyd.
Gwelsom dystiolaeth o asesiadau risg amrywiol a oedd wedi cael eu cynnal, gan gynnwys asesiadau risg ar gyfer pwyntiau clymu ac asesiadau risg tân. Dywedwyd wrthym am y gwiriadau amgylcheddol sy'n cael eu cwblhau a gwelsom dystiolaeth o wiriadau wythnosol rheolwr y ward. Disgrifiwyd system o archwiliadau rheolaidd o'r trefniadau rheoli heintiau, a thrwy gydol yr arolygiad, nododd yr arolygwyr lefel uchel o lendid yn yr ysbyty, a oedd yn cyfrannu at wella profiad y cleifion yn ystod eu cyfnod yno.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
Roedd yn gadarnhaol bod y staff yn yr ysbyty, drwy gydol yr arolygiad, yn barod i dderbyn ein barn, ein canfyddiadau a'n hargymhellion. Er bod y gwasanaeth yn gymharol newydd, roedd systemau a phrosesau wedi'u diffinio'n glir ar waith i sicrhau bod yr ysbyty yn canolbwyntio ar wella ei wasanaethau yn barhaus. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r gwasanaeth er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd parhaus mewn perthynas â'n canfyddiadau.