Arolygiad yn nodi fod y staff yn Ysbyty St Peter yn ymrwymedig i ddarparu gofal o ansawdd
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (20 Ionawr 2023) ar ganfyddiadau ei harolygiad o Ysbyty St Peter yng Nghasnewydd, sy'n arbenigo mewn darparu gofal iechyd meddwl i gleifion â chyflyrau fel Dementia a Chlefyd Huntington. Nodwyd bod y staff yn ymrwymedig i ddarparu gofal o safon uchel ac roedd protocolau addas ar waith o ran rheoli risg, iechyd a diogelwch a rheoli heintiau.
Cwblhaodd AGIC arolygiad annibynnol dirybudd o'r ysbyty ar dri diwrnod dilynol ym mis Hydref y llynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, arolygwyd nifer o ardaloedd asesu ar Unedau Brecon, Caldicot a Raglan. Mae gan Ysbyty St Peter 51 o welyau wedi'u rhannu i unedau unigol o ran rhywedd ac mae'n darparu triniaeth a gofal nyrsio arbenigol i gleifion â chyflyrau niwroseiciatrig dirywiol a chleifion sydd ag anafiadau i'r ymennydd.
Arsylwodd yr arolygwyr dîm o staff ymrwymedig a oedd yn deall anghenion y cleifion yn dda ac a oedd yn ymroddedig i ddarparu gofal o safon uchel. Gwelwyd fod y staff yn rhyngweithio â'r cleifion mewn ffordd barchus drwy gydol yr arolygiad, gan ddangos agwedd ofalgar, dosturiol a deallus. Roedd cyfarwyddwr yr ysbyty yn arwain mewn ffordd ymroddedig a brwdfrydig ac yn cael ei gefnogi gan dîm amlddisgyblaethol ymrwymedig.
Nododd yr arolygiad ar y safle fod angen gwelliannau o ran argaeledd cymorth eiriolaeth ar y safle ac o ran yr angen i ailddechrau cynnal cyfarfodydd adborth cleifion wedi'u hwyluso gan y staff i drafod unrhyw awgrymiadau o ran gwelliannau neu ofynion ychwanegol.
Roedd cyfraddau cwblhau hyfforddiant gorfodol, goruchwyliaeth ac arfarniadau blynyddol yn uchel ar y cyfan. Fodd bynnag, roedd angen gwella cydymffurfiaeth â hyfforddiant cynnal bywyd sylfaenol a chodi a chario pobl yn fwy diogel. Roedd dogfennaeth gyfreithiol i gadw cleifion o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth. Roedd adolygiadau ymarfer yn cael eu cynnal sy'n helpu'r staff i ddysgu gwersi o ddigwyddiadau a gwelodd yr arolygwyr gynlluniau cymorth ymddygiadol cadarnhaol wedi'u diweddaru. Nododd yr arolygwyr feysydd i'w gwella, fel argaeledd larymau personol ar gyfer y staff ac ymwelwyr.
Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:
Mae'n galonogol gweld ansawdd y gofal a gaiff ei roi yn Ysbyty St Peter ac ymroddiad staff yr ysbyty i gyrraedd safonau uchel. Nododd ein harolygiad welliannau y mae'n ofynnol i'r gwasanaeth weithredu yn eu cylch. Mae'r lleoliad wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n nodi camau gwella. Bydd AGIC yn parhau i fonitro cynnydd yn erbyn y cynllun hwn yn ofalus.
Hydref 2022 – Adroddiad Arolygu Gwasanaeth Iechyd Meddwl Annibynnol – Ysbyty St Peter, Casnewydd
Hydref 2022 – Adroddiad Cryno ar yr Arolygiad – Ysbyty St Peter, Casnewydd