Arolygiaethau'n cydweithio i adolygu trefniadau amddiffyn plant yng Nghastell-nedd Port Talbot
Mae arolygiaethau yng Nghymru wedi cydweithio'n agos i adolygu trefniadau amddiffyn plant yng Nghastell-nedd Port Talbot, a heddiw, maent wedi cyhoeddi Adolygiad ar y Cyd gan Arolygiaethau o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA). Dyma'r ail mewn cyfres o arolygiadau peilot i gynnwys pum arolygiaeth yn adolygu trefniadau amddiffyn plant yng Nghymru.
Buom yn gweithio ochr yn ochr ag Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi (HMIP) ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub (HMICFRS), yn ogystal ag Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru. Arolygiaeth Gofal Cymru oedd yr arolygiaeth arweiniol a gallwch ddarllen llythyr canlyniadau arolygiad ar eu gwefan.