Arolygwyr yn canfod bod gwasanaethau iechyd meddwl yn Ysbyty Glanrhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gwella
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (15 Chwefror) yn dilyn arolygiad o'r gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghlinig Angelton, sy'n rhan o Ysbyty Glanrhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gaiff ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Cynhaliwyd yr arolygiad dros dridiau ym mis Tachwedd 2023, ac roedd yn canolbwyntio ar Wardiau 1 a 2, sy'n darparu gofal i bobl hŷn sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl difrifol a dementia.
Nododd yr arolygwyr fod y staff yn ymrwymedig i ddarparu gofal diogel ac effeithiol, ac roedd yn gadarnhaol gweld bod llawer o welliannau wedi'u gwneud ers ein harolygiad blaenorol yn 2022. Ar y cyfan, cawsom sicrwydd fod polisïau, prosesau ac archwiliadau sefydledig ar waith gan y gwasanaeth i reoli risgiau a threfniadau iechyd a diogelwch. Nodwyd gennym fod prosesau archwilio ychwanegol wedi cael eu cyflwyno ers yr arolygiad diwethaf, er mwyn ymdrin â'r meysydd allweddol i'w gwella, megis hapwiriadau misol gan yr uwch-nyrsys a gwiriadau diogelwch dyddiol o'r drysau. Er gwaethaf y gwelliannau hyn, canfu'r arolygwyr sawl risg diogelwch bosibl, gan gynnwys defnydd anghyson o larymau diogelwch personol y staff a hygyrchedd y cyfarpar achub bywyd brys. Fodd bynnag, aeth staff yr ysbyty ati i unioni'r pryderon hyn yn ystod yr arolygiad.
Gwelodd yr arolygwyr y staff yn dangos parch wrth ryngweithio â'r cleifion drwy gydol yr arolygiad. Roedd y staff yn dangos agwedd llawn gofal a dealltwriaeth tuag at y cleifion, ac yn cyfathrebu gan ddefnyddio iaith briodol ac effeithiol. Roedd gan bob claf ei ystafell wely a'i ystafell ymolchi ei hun a oedd yn cynnal ei breifatrwydd a'i urddas. Roedd cynlluniau gofal y cleifion yn adlewyrchu anghenion a risgiau unigol ac roeddent yn cael eu cynnal i safon uchel.
Roedd ethos cryf o awydd i wella gwasanaethau yn barhaus yn yr ysbyty. Nododd yr arolygwyr fod y staff yn barod i dderbyn ein canfyddiadau a'n hargymhellion ac i ymateb iddynt ac roeddent yn frwdfrydig ac yn uchel eu cymhelliant. Roedd yn amlwg bod y bwrdd iechyd yn ymrwymedig i adolygu lefel y gofal a oedd yn cael ei ddarparu ar y wardiau yn barhaus, ac roedd trefniadau llywodraethu sefydledig ar waith i oruchwylio materion clinigol a gweithredol. Nododd yr arolygwyr nad oedd dyddiad ar sawl un o bolisïau'r bwrdd iechyd neu fod angen eu diweddaru, ac felly nad oedd canllawiau clir i'r staff. Er y bu gwelliannau amlwg o ran cydymffurfiaeth staff â hyfforddiant gorfodol ers ein harolygiad diwethaf, roedd angen gwneud gwelliannau o hyd.
Ar adeg ein harolygiad, roedd lefelau staffio'r ysbyty yn cydymffurfio â thargedau'r bwrdd iechyd, ond roedd hi'n destun gofid nodi bod nifer mawr o swyddi parhaol gwag. Dywedwyd wrthym fod yr ysbyty yn gwneud defnydd helaeth o staff asiantaeth i lenwi shifftiau gwag, a oedd yn rhoi pwysau ychwanegol ar staff y wardiau gan fod staff asiantaeth yn llai cyfarwydd â'r cleifion. Roedd rhai aelodau o staff y gwnaethom siarad â nhw yn ystod yr arolygiad o'r farn nad oedd digon o staff ar y wardiau i fodloni'r cynnydd yn y galw gan gleifion.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
Mae'n gadarnhaol gweld bod gwelliannau wedi'u gwneud i sicrhau bod cleifion yn cael gofal diogel ers ein harolygiad diwethaf o'r gwasanaethau iechyd meddwl yn Ysbyty Glanrhyd. Nododd yr arolygwyr rai meysydd y mae angen eu gwella er mwyn lleihau'r risgiau i'r cleifion, y staff ac ymwelwyr. Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n nodi ei gamau gwella a byddwn yn parhau i fonitro ei gynnydd yn ofalus.