Arolygwyr yn nodi bod angen gwneud gwelliannau ar unwaith mewn ysbyty iechyd meddwl arbenigol yn Wrecsam
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (7 Mawrth 2024) yn dilyn arolygiad o ysbyty iechyd meddwl annibynnol, sef Tŷ Grosvenor yn Wrecsam. Mae'r gwasanaeth yn darparu gofal arbenigol i ddynion dros 18 oed â chyflyrau iechyd meddwl a/neu anhwylderau personoliaeth.
Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd yn yr ysbyty ar dri diwrnod dilynol ym mis Tachwedd 2023. Roedd yr arolygiad yn canolbwyntio ar ddwy ward, sef Ward Alwen a Ward Brenig.
Drwy ein proses pryderon, cawsom adroddiad nad oedd gan yr ysbyty weithdrefnau digonol ar waith mewn perthynas â rheoli meddyginiaethau. Yn dilyn arolygiad dilynol o'r ysbyty, rhoddwyd Tŷ Grosvenor ym mhroses Gwasanaeth sy'n Peri Pryder AGIC ym mis Tachwedd 2023. Mae'r broses hon yn rhan o weithdrefnau Uwchgyfeirio a Gorfodi AGIC ar gyfer sicrhau bod camau gweithredu cyflym yn cael eu cymryd lle ceir methiannau sylweddol o fewn gwasanaeth, neu pan fydd pryderon yn cronni am leoliad gofal iechyd.
Canfu'r arolygiad sawl mater lle roedd angen sicrwydd ar unwaith o ganlyniad i achosion o ddiffyg cydymffurfio mewn perthynas â chymhwyso'r Ddeddf Iechyd Meddwl, gan gynnwys cofnodi'r feddyginiaeth a roddir i gleifion yn anghywir. Yn dilyn ein canfyddiadau, rhoddodd yr ysbyty'r gorau i dderbyn cleifion newydd yn wirfoddol nes bod adolygiad mewnol yn cael ei gwblhau.
Gwnaethom barhau i ymgysylltu ag Elysium Healthcare, sef cwmni rheoli Tŷ Grosvenor, i geisio sicrwydd pellach, ac ym mis Ionawr 2024, roeddem yn fodlon bod gwelliannau digonol wedi cael eu gwneud. Cafodd yr ysbyty ei isgyfeirio o fod yn Wasanaeth sy'n Peri Pryder yn dilyn hynny.
Yn ystod yr arolygiad ym mis Tachwedd, roedd yr enghreifftiau a welwyd lle nad oedd dogfennau yn cydymffurfio â'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn destun pryder i'r arolygwyr. Roedd y pryderon yn cynnwys y ffaith nad oedd asesiadau galluedd bob amser yn cael eu cynnal er mwyn penderfynu a oedd gan gleifion y galluedd meddyliol i gydsynio i driniaeth. Roedd rhai cleifion yn yr ysbyty wedi cael meddyginiaethau wedi'u rhagnodi heb fod y ffurflen tystysgrif gydsynio statudol ar waith i awdurdodi'r driniaeth.
Yn ystod ein gwaith sicrwydd, nodwyd bod cleifion yn yr ysbyty wedi cael mathau neu ddosau o feddyginiaethau wedi'u rhagnodi nad oeddent wedi'u nodi ar y ffurflen tystysgrif gydsynio statudol a oedd ar waith i awdurdodi'r driniaeth. Roedd staff nyrsio wedi rhoi meddyginiaethau i'r cleifion heb gadarnhau cydsyniad i'r math o feddyginiaeth a'r dos, neu nad oeddent wedi eu hawdurdodi gan Feddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn. Nid oedd yr ysbyty wedi ymdrin ag anghysondebau rhwng y meddyginiaethau a oedd yn cael eu rhoi i'r cleifion a'r meddyginiaethau a oedd wedi'u nodi ar eu ffurflenni tystysgrif gydsynio gan y fferyllfa allanol mewn modd amserol. Ni fu'r archwiliadau clinigol a gynhaliwyd yn fewnol gan staff yr ysbyty yn effeithiol wrth nodi'r anghysondebau hynny ychwaith.
Nododd yr arolygwyr fod trefniadau llywodraethu ar waith, fel gweithgareddau archwilio a systemau monitro, er mwyn helpu i oruchwylio materion clinigol a gweithredol. Fodd bynnag, ni chawsom sicrwydd fod y prosesau hyn yn effeithiol, gan nad oeddent yn helpu'r ysbyty i fodloni gofynion o ran ymarfer gorau a gofynion deddfwriaethol.
Er gwaethaf hyn, nododd yr arolygwyr fod gweithdrefnau addas ar waith i reoli meddyginiaethau'n ddiogel, gyda'r oergelloedd meddyginiaeth yn cael eu cloi pan nad oeddent yn cael eu defnyddio a gwiriadau stoc yn cael eu cynnal yn rheolaidd.
Gallai'r cleifion gyfrannu a rhoi adborth mewn sawl ffordd, a chael cymorth gydag unrhyw faterion a allai godi mewn perthynas â'u gofal. Roedd cleifion yn cael eu hysbysu am eu hawliau ac yn cael cymorth i wneud cais i'r Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl adolygu eu cyfnod cadw. Nododd yr arolygwyr fod prosesau effeithiol ar waith er mwyn helpu i sicrhau bod staff yr ysbyty yn diogelu'r cleifion yn briodol.
Pan ofynnwyd am y gofal a oedd yn cael ei ddarparu, roedd y cleifion wedi ei ganmol, a gwnaethant ddweud wrth yr arolygwyr eu bod yn teimlo'n fwy diogel, a oedd yn welliant ers ein harolygiad diwethaf o'r ysbyty ym mis Gorffennaf 2022. Gwnaethom nodi enghraifft o arfer da, gydag un aelod o staff ar bob shifft yn cael ei benodi'n arweinydd diogelwch, gan fod yn gyfrifol am sicrhau bod pob aelod o'r staff yn gwisgo eu larymau personol ac y gellir rhoi cyfrif am eitemau fel cyllyll a ffyrc.
Gwelodd yr arolygwyr y staff yn rhyngweithio ac yn ymgysylltu'n briodol â chleifion ac yn eu trin ag urddas a pharch. Yn ystod yr arolygiad gwelsom enghreifftiau o'r staff yn parchu preifatrwydd y cleifion drwy guro ar eu drysau cyn mynd i mewn. Gallai'r cleifion gloi eu hystafelloedd.
Roedd yr adborth a gafwyd gan y staff yn gadarnhaol ar y cyfan, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn cytuno y byddent yn fodlon ar safon y gofal a ddarperir i'w ffrindiau neu deulu. Roedd cyfraddau cydymffurfio â hyfforddiant gorfodol yn uchel ymhlith y staff; fodd bynnag, rhaid i'r gwasanaeth sicrhau bod pob aelod o'r staff yn cael gwybod am ddigwyddiadau ac unrhyw wersi a ddysgwyd.
Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:
‘Nododd ein harolygwyr bryderon uniongyrchol mewn perthynas ag achosion o dorri'r Ddeddf Iechyd Meddwl, sydd ar waith i gefnogi rhai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed. Fodd bynnag, mae'n galonogol gweld bod gwelliannau wedi'u gwneud ers ein harolygiad blaenorol o Ysbyty Tŷ Grosvenor, sydd bellach wedi ei isgyfeirio o fod yn Wasanaeth sy'n Peri Pryder. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â chwmni rheoli'r ysbyty er mwyn sicrhau y bydd y cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau yn parhau nawr ac yn y dyfodol.’