Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaeth Achos Goleuni ar Arfer Da – Adran Achosion Brys Ysbyty Athrofaol Cymru

Rydym am sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn myfyrio ar ein gwaith arolygu a sicrwydd ac yn mesur eu gwasanaethau eu hunain yn erbyn y canfyddiadau hyn, er mwyn ysgogi gwelliannau i wasanaethau. Rydym yn gobeithio y bydd modd i'r canfyddiadau o ran arfer da a ddangosir yn yr astudiaeth achos isod gael eu trosglwyddo rhwng sefydliadau, ac ar draws y gwasanaeth iechyd ehangach er mwyn cefnogi gwelliannau mewn systemau.

Ysbyty Athrofaol Cymru - Adran Achosion Brys

Yn dilyn arolygiad o'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru ym mis Mawrth 2024, rydym yn credu bod canlyniadau'r arolygiad yn dangos maes o arfer da a gwelliant sylweddol. Rydym yn gobeithio y bydd modd i'r canfyddiadau a ddangosir yn yr astudiaeth achos hon gael eu trosglwyddo rhwng sefydliadau, ac ar draws y gwasanaeth iechyd ehangach er mwyn cefnogi gwelliannau ym mhob rhan o'r system.

Roedd yn gadarnhaol gweld bod llawer o welliannau wedi cael eu gwneud ers ein harolygiad blaenorol ym mis Mehefin 2022, a nodwyd sawl maes o arfer da.

Er gwaethaf y ffaith bod yr adran yn hynod brysur, nid oedd yr uned yn teimlo'n llawn cynnwrf, ac roedd aelodau o'r staff wedi cymryd camau priodol i reoli'r sefyllfa. Dylid canmol y Parth Asesu a Thrin yn Gyflym (RATZ), sef menter a roddwyd ar waith i leihau amseroedd aros. Roedd y bwrdd iechyd wedi cyflwyno RATZ er mwyn i gleifion priodol gael asesiad, archwiliad, diagnosis a thriniaethau cyflym gan un o feddygon yr Adran Achosion Brys. Roedd dau giwbicl asesu RATZ wedi'u lleoli wrth y fynedfa ar gyfer triniaethau dydd a'r fynedfa i ambiwlansys. Ar ôl cael asesiad a thriniaeth amserol, roedd y cleifion naill ai'n cael eu rhyddhau neu eu symud i ardal arall o'r Adran Achosion Brys. Roedd gwasanaeth RATZ yn gweithredu rhwng 10am a 10.30pm Gwelsom fod hyn yn cyflymu'r amser prosesu cleifion ac yn lleihau'r amseroedd aros ac felly'n lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth. 

Roedd y staff yn ymrwymedig i ddarparu gofal o safon uchel i'r cleifion, a gwelodd ein harolygwyr fod y staff yn ymddwyn mewn ffordd barchus a charedig tuag at y cleifion. Gwelsom fod yr amgylchedd a oedd wedi'i adnewyddu yn hyrwyddo urddas ac yn galluogi'r staff i roi triniaethau'n breifat.

Nododd ein harolygiad blaenorol ym mis Mehefin 2022 fod angen gwneud gwelliannau ym maes Atal a Rheoli Heintiau. Llwyddodd gwaith adnewyddu a wnaed yn ddiweddar yn yr uned i ymdrin â'r materion hyn, ac roedd amgylchedd ffisegol yr uned wedi'i gynllunio ac yn cael ei gynnal a'i gadw'n dda. Gwelsom fod ardaloedd yn lân ac yn daclus. Roedd modd glanhau a dihalogi'r arwynebau, gan gynnwys y lloriau a'r seddi, yn briodol erbyn hyn. Ers y gwelliannau a nodwyd yn yr arolygiad blaenorol, cyflwynodd y bwrdd iechyd deithiau dyddiol o amgylch yr adran lle byddai aelod o staff Band 8 yn cwblhau rhestr wirio ddyddiol gan gynnwys gwiriadau atal a rheoli heintiau. 

Roedd yr iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo'n effeithiol yn yr Adran Achosion Brys. Gwelwyd bod y rhan fwyaf o'r arwyddion a'r wybodaeth i gleifion yn ddwyieithog, gan gynnwys gwybodaeth yn gwahodd y cleifion i roi adborth.

 

Roedd strwythur rheoli addas ar waith, gyda llinellau adrodd clir, ac arweinyddiaeth amlwg a chefnogol. Gwelsom dystiolaeth o fentrau newydd i wella lefelau cadw staff, gan gynnwys llwybr sefydlu i aelodau newydd o staff. Roedd hyn yn cynnwys cysgodi staff profiadol, cwblhau cymwyseddau a hyfforddiant dros gyfnod o ddeuddeg mis. Roedd hefyd yn gadarnhaol gweld bod aelodau newydd o staff wedi cael eu recriwtio i rolau hanfodol ers ein harolygiad blaenorol.

Mae pwysau cynyddol ar wasanaethau'r GIG ac mae Ysbyty Athrofaol Cymru, fel pob ysbyty, yn parhau i wynebu heriau eithriadol oherwydd galw cynyddol. Er gwaethaf rhai heriau parhaus, roedd yn galonogol gweld tystiolaeth bod y bwrdd iechyd wedi dechrau rhoi systemau a phrosesau ar waith i fynd i'r afael â'r meysydd i'w gwella a nodwyd yn ystod ein harolygiad blaenorol ym mis Mehefin 2022. 

Mae'r astudiaeth achos hon yn rhoi esiampl gadarnhaol o sut mae lleoliadau yn bwrw ati i wneud gwelliannau yn dilyn ein gwaith arolygu a sicrwydd, ac mae'n dangos gwerth rhannu'r gwersi a ddysgwyd a'r ddealltwriaeth a feithriniwyd er mwyn ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru. 

Darllenwch ein hadroddiad llawn